Neidio i'r prif gynnwy

Bellach bydd mwy o bobl yn gymwys i wneud cais am y Taliad Cymorth Hunanynysu o £500, yn ôl cyhoeddiad gan Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynllun, sydd wedi ei estyn tan fis Mehefin 2021, bellach yn agored i geisiadau gan bobl sydd ag incwm personol o lai na £500 yr wythnos a’r rheini sy’n cael Taliad Salwch Statudol Safonol y gofynnwyd iddynt hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, ap Covid-19 y GIG neu leoliad addysg eu plentyn.

Bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd tua 170,000 o bobl yn ychwanegol yn gymwys i gael y taliad os y gofynnir iddynt hunanynysu, ac os byddent yn colli incwm o ganlyniad i hynny.

Bwriad y cynllun hwn yw helpu i gael gwared ar rwystrau ariannol sy’n wynebu pobl y gofynnir iddynt hunanynysu, drwy ddarparu taliad o £500 i bobl gyflogedig neu hunan-gyflogedig y dywedwyd wrthynt am hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-dal penodol arall, sy’n methu gweithio gartref, neu sy’n rhieni neu’n gofalu am blentyn y gofynnir iddo hunanynysu oherwydd bod achosion Covid-19 yn eu lleoliad addysgol.

Mae’r elfen yn ôl disgresiwn yn cefnogi pobl nad ydynt  yn cael budd-daliadau ond sy’n bodloni’r meini prawf eraill ac sydd mewn perygl o wynebu caledi ariannol.

Yn ychwanegol mae’r cynllun wedi ei estyn tan fis Mehefin 2021 gyda’r posibilrwydd o estyniad pellach tan fis Hydref 2021.

Dywedodd  Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Mae hunanynysu yn allweddol os ydym am roi stop ar ledaeniad y coronafeirws, a thra bo rhaglenni profi cymunedol yn yr arfaeth dros y misoedd nesaf mae’n hanfodol ein bod yn estyn y cynllun hwn i helpu rhagor o bobl i hunanynysu a chael y gefnogaeth ariannol sydd ei angen arnynt.

“Rwyf eisiau diolch eto i bob awdurdod lleol yng Nghymru am eu cefnogaeth ddiflino yn cyflwyno’r cynllun hwn. Mae adborth ganddynt yn dweud bod y cynllun yn gweithio yn dda a bron i 8.500 o daliadau wedi eu gwneud. Er hynny, rydym yn gwybod bod diffyg incwm yn rhwystr i bobl rhag hunanynysu.

Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddiogelu iechyd a lles pobl, a byddwn yn parhau i a helpu pobl Cymru yn ystod y cyfnod heriol hwn drwy sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i’r rheini sydd ei angen.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd Cyllid CLlLC:

Rydym yn croesawu’r estyniad i’r Cynllun Cymorth Hunanynysu, a fydd yn helpu unrhyw un sy’n wynebu gorfod dewis rhwng aros gartref a methu â bwydo’r teulu neu fynd i’r gwaith ac efallai ledaenu’r coronafeirws. Ni ddylai neb orfod gwneud penderfyniad o’r fath. Bydd ymestyn y cynllun hwn yn golygu gallu parhau i helpu pawb i wneud eu rhan yn y frwydr yn erbyn y pandemig hwn.