Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, fod Llywodraeth Cymru yn darparu £200,000 er mwyn helpu i gryfhau newyddiaduraeth leol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i ariannu mentrau hen a newydd i wella newyddiaduraeth yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â diffygion o ran gwybodaeth.

Bydd sefydliadau annibynnol yn y cyfryngau cymunedol yn elwa ar £100,000. Mae’r Cynllun Sbarduno Newyddion er Budd y Cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi hyd at ddeg sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddarparu newyddion budd y cyhoedd sy'n berthnasol yn lleol ac i hyrwyddo twf yn y sector newyddion cymunedol yng Nghymru.

Mae'r grant yn cael ei hwyluso gan Ping! News CIC, cwmni buddiant cymunedol sy'n cael ei redeg gan y Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN) a'r datblygwr o Fryste, Omni Digital. Nod Ping! yw helpu’r sector newyddion cymunedol annibynnol i fod yn gynaliadwy.

Yn ogystal â'r gronfa newyddiaduraeth, mae tri phrosiect peilot a fydd yn canolbwyntio ar y sector wedi sicrhau cyfran o’r £100,000 o gyllid ychwanegol.
Dyma’r prosiectau dan sylw:

  • Y Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN): Swydd Benodol ar gyfer Gohebydd yn y Senedd.
  • Prifysgol Caerdydd: Data Ymchwil am y Sector yng Nghymru.
  • Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru: Labordy Datblygu Cyfryngau Cynhwysol

Bydd cyllid i'r Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol yn golygu y bydd swydd newyddiadurol bwrpasol yn cael ei darparu ar gyfer gwaith y Senedd, a fydd wedi'i lleoli yn swyddfeydd Caerphilly Media Ltd. Bydd y rôl yn darparu cynnwys a fyddai ar gael i sefydliadau newyddion am ddim.

Bydd y cyllid ar gyfer Prifysgol Caerdydd yn caniatáu iddi edrych yn benodol ar gyflwr y sector newyddiaduraeth yng Nghymru ar hyn o bryd, gan wneud hynny o bersbectif cynhyrchwyr a defnyddwyr. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn golygu y bydd modd paratoi cynllun gweithredu cynhwysfawr i gefnogi'r sector yn y dyfodol. Bydd hefyd yn rhoi darlun clir o'r diwydiant yng Nghymru yn gyffredinol ac o feysydd lle bydd angen ymyriadau penodol wedi'u teilwra.

Bydd cyllid yn cael ei ddarparu hefyd i Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru sy'n gweithio i greu sector newyddiaduraeth fwy cynhwysol a chynrychioliadol. Byddant yn darparu rhaglen newydd – y Labordy Datblygu Cyfryngau Cynhwysol, a fydd yn cynnig hyfforddiant, yn darparu gweithdai rhyngweithiol ac yn rhoi cymorth dilynol i unrhyw un sydd am ddatblygu ei yrfa ym maes y cyfryngau. Bydd cymorth ar gael i feithrin amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys sgiliau ym maes entrepreneuriaeth, busnes, ymchwil a datblygu, a dylunio cynnyrch. Wrth i'r diwydiant wynebu mwy a mwy o heriau economaidd, bydd y sgiliau hynny’n hanfodol er mwyn helpu i gefnogi newyddiaduraeth gynaliadwy er budd y cyhoedd.

Mae'r Labordy’n cael ei ddatblygu a'i redeg mewn partneriaeth â Startup Migrants, Media Cymru, PDR, a’r Sefydliad Materion Cymreig. Bydd yn gyfle i feithrin cysylltiadau ag arloeswyr ym maes y cyfryngau ym mhob rhan o Gymru, y DU ac Ewrop. Bydd modd dysgu am gyfleoedd i ddatblygu ymhellach ac i ddenu rhagor o gyllid, ac i ddod yn rhan o rwydwaith o bobl sy'n gweithio i greu dyfodol gwell ym maes y cyfryngau.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

Mae sector cyfryngau cryf a ffyniannus yng Nghymru yn rhan hanfodol o gymdeithas ddemocrataidd fodern. Mae cyfryngau cryf ac annibynnol yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaeth cynhwysfawr sy'n rhoi gwybodaeth i bobl Cymru, ac sy’n eu haddysgu a’u hysbrydoli. Dw i'n falch iawn o fedru cyhoeddi'r cyllid hwn a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd. Bydd hefyd yn caniatáu inni asesu'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd ac i ddylanwadu ar gyllid ac ymyriadau yn y dyfodol."

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Cefin Campbell:

Mae ar Gymru angen newyddiaduraeth annibynnol, gynhenid sydd â’i gwreiddiau yn ein cymunedau fel bo’r cymunedau hynny’n cael eu cefnogi i adrodd am faterion sy’n berthnasol ac yn bwysig yn lleol. Mae rhoi sylw i straeon am Gymru o Gymru ei hun yn rhan hanfodol o'n proses ddemocrataidd. Drwy weithio gyda’n gilydd drwy’r Cytundeb Cydweithio, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gallu ariannu'r prosiectau hyn er mwyn iddyn nhw fedru helpu i roi llais penodol i Gymru ac i gefnogi newyddiaduraeth gynhenid i Gymru."