Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cadeirydd: Lynn Sloman (LS)

Llywodraeth Cymru: Rob Kent-Smith (RKS), Matt Jones (MJ), Scott Walters (SW)

Trafnidiaeth Cymru: Natasha McCarthy (NMC),

Cymorth Technegol (Arcadis): Janice Hughes (JHU), Matt Fry (MF).

Panelwyr:

  • Julie Hunt (JH)
  • Glenn Lyons (GL)
  • Geoff Ogden (GO)
  • John Parkin (JP)
  • Helen Pye (HP)
  • Eurgain Powell (EP).

Ymddiheuriadau:

  • Panelwyr: Andrew Potter (AP)
  • Llywodraeth Cymru: Lea Beckerleg (LB),

Cyflwyniadau a diweddariad gan yr ysgrifenyddiaeth

Rhoddodd yr ysgrifenyddiaeth yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gweithgareddau diweddar.

Datblygu'r meini prawf ar gyfer asesu adolygu ffyrdd

Cafwyd trafodaeth ar ail ddrafft meini prawf asesu'r adolygiad ffyrdd sydd wedi'u diweddaru yn dilyn ystyried yr holl sylwadau a gasglwyd yng Nghyfarfod Panel Adolygu Ffyrdd Rhif 2.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith mapio rhanddeiliaid a wnaed hyd yma a chymeradwyodd y Panel gynlluniau ymgysylltu â rhanddeiliaid arfaethedig. Gwahoddir rhanddeiliaid i danysgrifio i gael diweddariadau rheolaidd drwy wefan Llywodraeth Cymru.

Adroddiad interim

Trafodaeth dan arweiniad yr Ysgrifenyddiaeth i gytuno ar Strwythur a Rhaglen yr Adroddiad Interim. Rhoddodd y Panel sylwadau ar strwythur yr adroddiad a bydd yr Ysgrifenyddiaeth y cytunwyd arni yn awr yn dechrau drafftio testun sylfaenol.

Adolygiad cyflym o gynllun Llanbedr

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y fersiwn derfynol o gyngor ynghylch yr adolygiad cyflym o Ffordd Fynediad Llanbedr wedi'i ddarparu i'r Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd.

Adolygiad o gynlluniau'r A40 a'r A55, a'r dull o adolygu cynlluniau eraill

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch ffyrdd arfaethedig o weithio ar gyfer y cynlluniau sy'n weddill yn seiliedig ar ddysgu o adolygiadau hyd yma. Proses a rhaglen wedi'u mireinio i'w darparu yng Nghyfarfod Panel Adolygu Ffyrdd Rhif 4.

Cyffyrdd 15 ac 16 yr A55

Trosolwg o'r ystyriaethau cychwynnol a roddwyd i aelodau'r panel o gymhwyso meini prawf drafft i Gyffyrdd 15 ac 16 yr A55. Y camau nesaf fydd i'r panelwyr arweiniol fynd i ffwrdd a llunio adroddiad cryno o ystyriaethau allweddol i'r Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd.

A40 Llandewi Felffre i Groes Redstone

Gadawodd JH gyfarfod cyn y drafodaeth er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau.

Rhoddodd yr Ysgrifenyddiaeth yr wybodaeth ddiweddaraf bod y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd yn ymddangos o flaen y Pwyllgor Newid Hinsawdd a'r Economi 20/10/2021 i gadarnhau bod y cynllun wedi mynd yn rhy bell i ddod i ben ac felly y tu allan i'r cylch gorchwyl, felly nid oes gofyn i'r panel gynnal adolygiad.

Cyfarfod nesaf

Bydd y cyfarfod nesaf ddydd Gwener 12 Tachwedd.