Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Panel yn sicrhau bod argymhellion a wnaed gan arolwg o wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt yn cael eu gweithredu.

Bydd y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth yn gwneud y canlynol:

  • rhoi cyngor i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran hynt y gwaith o weithredu argymhellion adroddiad y colegau brenhinol yn erbyn y cerrig milltir y cytunwyd arnynt
  • hyrwyddo dulliau effeithiol ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch gwella gwasanaethau mamolaeth ac ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder
  • goruchwylio adolygiad clinigol annibynnol o’r achosion gwreiddiol gan edrych yn ôl ar 2010 er mwyn sicrhau diogelwch a dysgu parhaus