Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, gwrdd ag Is-Lywydd Ford Europe, Linda Cash, i drafod dyfodol safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod ym Mae Caerdydd, meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones: 

“Roedd yn dda cael cwrdd â Linda Cash a’i thîm rheolwyr neithiwr i siarad am ddyfodol ffatri Injans Ford.  Roedd yn gyfarfod cynhyrchiol lle cawsom drafod y cynlluniau i fuddsoddi ar y safle a sut y gallem amddiffyn y swyddi a’r sector gweithgynhyrchu ym Mhen-y-bont yn y tymor hir.  

“Roeddem ni oll yn gytûn fod y ffatri’n rhan hanfodol o economi weithgynhyrchu Cymru a dywedon ni eto wrth Ford fod Llywodraeth Cymru’n barod i’w helpu ym mhob ffordd y gall i gefnogi’r ffatri a’r gweithwyr.

“Mae Ford wedi bod yn bresenoldeb pwysig ym Mhen-y-bont dros y tri degawd diwethaf, gan gynhyrchu 20 miliwn o injans o’r safon uchaf a chefnogi miloedd o swyddi bras ardderchog. Rydym oll am weld y cynhyrchu hwnnw’n parhau ymhell i’r dyfodol.”

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: 

“Rydyn ni’n naturiol wedi bod yn poeni yn sgil y cyhoeddiadau diweddar i newid lefelau cynhyrchu yn Ford ac roedden ni’n siarad ar ran y gweithwyr a’r undebau wrth sôn am ein gofidiau. Mae’r safle’n ddiogel yn y tymor byr i ganolig gyda’r galw yn cynnal y lefelau cyflogaeth presennol.  Roedd llawer o’r trafod felly’n canolbwyntio ar ddyfodol y ffatri ar ôl 2020.  Fe bwysleision ni i’r Is-Lywydd a’i thîm hanes clodwiw y safle a’i botensial anferth i chwarae rôl bwysig yng ngrŵp Ford i’r tymor hir.

“Rydym oll am weld Pen-y-bont a’i weithlu ardderchog yn parhau i gynhyrchu injans o ansawdd rhagorol a byddwn yn gweithio’n ddiflino i gefnogi deialog bositif rhwng yr undebau, y gweithlu a’r rheolwyr i sicrhau bod y safle yn y cyflwr gorau posib i ennill gwaith newydd.”