Mae'r Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Cymru wedi tynnu sylw at uchelgais Llywodraeth Cymru i ehangu gofal plant a ariennir i blant ledled Cymru.
- Llywodraeth Cymru yn anelu at ddarparu 20 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i bob plentyn rhwng 9 mis a 4 mlwydd oed
- Y cynnig hwn yn ystod pedair blynedd gyntaf bywyd plentyn fydd y mwyaf hael yn y DU
- Gofal plant cyfrwng Cymraeg i gael ei ehangu
Mae'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog wedi ymweld â chanolfan blant integredig ym Merthyr Tudful heddiw, gan dynnu sylw at uchelgais Llywodraeth Cymru i ehangu gofal plant am ddim i blant ledled Cymru.
Cyfarfu Rhun ap Iorwerth a Sioned Williams â staff, plant a rhieni yng Nghanolfan Blant Integredig Cwm Golau ym Mhentrebach, ar eu hymweliad cyntaf fel arweinwyr Llywodraeth Cymru.
Dros dymor yn y Senedd hon, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno 20 awr o ofal plant yr wythnos am ddim, am 48 wythnos y flwyddyn, ar gyfer pob plentyn rhwng 9 mis a 4 mlwydd oed.
Bydd y ddarpariaeth Gymraeg hefyd yn cael ei hehangu, gan roi cyfle teg i bob plentyn ddysgu a mwynhau'r Gymraeg.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae costau gofal plant yng Nghymru gyda'r uchaf yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni am roi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd a helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith.
"Ein cynnig gofal plant uchelgeisiol a thrawsnewidiol ni fydd y mwyaf hael yn hanes datganoli, a'r mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Bydd yn helpu i roi hwb i incwm aelwydydd, codi teuluoedd allan o dlodi a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant."
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog, sy'n gyfrifol am y polisi gofal plant:
"Mae miloedd o rieni yng Nghymru yn gweithio ddim ond i dalu costau gofal plant, ac mae llawer o bobl yn methu ei fforddio o gwbl. Mae angen i hyn newid.
"Gall mynediad at ofal plant fforddiadwy agor drysau at gyfleoedd a rhoi'r rhyddid i rieni, yn enwedig mamau, ddychwelyd i'r gwaith, addysg neu hyfforddiant. Ac yn bwysicach na dim, bydd ein cynnig estynedig o ofal plant o ansawdd uchel yn rhoi'r sbardun sydd ei angen ar bob plentyn i ffynnu."
