Neidio i'r prif gynnwy

Mae prosiectau i gynyddu nifer y busnesau bwyd lleol sy'n cyflenwi'r sector cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin, ac i sefydlu cynllun prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu ymhlith wyth cynllun sydd wedi ennill Cyllid Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol newydd yn y Canolbarth a’r De-orllewin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y cyllid ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters, yn ystod ymweliad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin heddiw (dydd Iau 7 Tachwedd).

Cawson nhw eu cyfarch gan staff arlwyo sy’n rhan o gynllun gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, a fydd yn derbyn £100,000 i geisio gwella'r ffordd mae'r sector cyhoeddus yn caffael bwyd lleol.

Mae’r prosiect yn un o 52 fenter arbrofol ledled Cymru sy'n derbyn rhan o £4.5 miliwn drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol. Bydd y prosiect yn darparu cyfleodd ar gyfer cwmnïau lleol neu ranbarthol ac yn dod â manteision amgylcheddol drwy leihau milltiroedd bwyd a’r costau carbon cysylltiedig.

Mae dull yr Economi Sylfaenol yn cael ei fabwysiadu gan ddinasoedd a rhanbarthau ledled y byd, ond Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i'w ddefnyddio ar raddfa genedlaethol. Mae'r Economi Sylfaenol yn cynnwys y nwyddau a'r gwasanaethau pob dydd y mae ar bawb eu hangen, gydag amcangyfrifon yn awgrymu ei bod yn gyfrifol am bedair o bob deg swydd a £1 o bob £3 rydyn ni'n eu gwario.

Nod Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yw cefnogi cyfres o brosiectau arbrofol a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru, gyda chymorth partneriaid, i weld beth yw'r ffordd orau o gefnogi'r economi sylfaenol.

Bydd wyth cynllun yn y Canolbarth a'r De-orllewin yn rhannu bron £650,000 o’r gronfa.

Wrth siarad am y cynllun caffael bwyd yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd Barry Liles, Dirprwy Is-ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin:

Rydyn ni yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ein boddau bod ein cais i Gronfa Her yr Economi Sylfaenol wedi llwyddo.

Mae caffael yn y sector cyhoeddus yn faes lle rydyn ni’n a’n partneriaid yn gweld cyfleoedd i gael effaith fwy ar gyfoeth economaidd a datblygiad lleol, a byddwn ni’n datblygu ac yn treialu hyn yn ein prosiect. Byddwn yn canolbwyntio ar gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus, ond rydyn ni’n credu’n gryf os ydyn ni’n gallu datblygu dull caffael amlasiantaethol blaengar fel rhan o’r prosiect, byddai lle i gyflwyno’r dull hwn ym meysydd caffael eraill.

Mae gan Sir Gaerfyrddin hanes cyfoethog o gynhyrchu a chyflenwi bwyd, ac yn ogystal â manteision economaidd gwella’r gadwyn gyflenwi leol, byddwn hefyd yn edrych ar y manteision iechyd posibl ar gyfer y disgyblion, y myfyrwyr a’r staff sy’n bwyta’r bwyd rydyn ni’n ei gaffael, drwy hyrwyddo bwyd da ar gyfer pawb.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid yn y sector masnachol, er mwyn ystyried a datblygu cyfleoedd ar gyfer rhoi’r agenda hon, sydd wedi bod yn destun llawer o siarad, ar waith, gan ddysgu gan brosiectau llwyddiannus eraill wrth inni wneud hynny.

Mae prosiect arall a fydd yn derbyn cyllid yn cael ei arwain gan Cyfle Building Skills Ltd. Byddan nhw'n derbyn £86,500 i weithio gyda chyflogwyr yn y diwydiant adeiladu, a darparu cyfleoedd i brentisiaid dderbyn lleoliadau profiad gwaith gwerthfawr ar draws y diwydiant yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Anthony Rees, Rheolwr Rhanbarthol Cyfle Building Skills:

Rydyn ni wrth ein boddau y byddwn ni'n derbyn y cyllid hwn, a fydd yn fuddiol iawn i'n dysgwyr ifanc.

Rydyn ni'n credu bod y prosiect hwn yn darparu'r garreg sarn gyntaf, hanfodol iddyn nhw ym myd gwaith, ac yn benodol y diwydiant adeiladu. Bydd yn datblygu eu sgiliau a'u rhagolygon ar gyfer gwaith, ac yn rhoi hwb i'r diwydiant ar yr un pryd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Mae wedi bod yn bleser mawr gen i ymweld â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, i glywed mwy am brosiect arloesi hwn sydd wir yn rhoi ymdeimlad o gymuned wrth ei galon.

Bydd edrych ar ffyrdd o sicrhau bod bwyd lleol yn cael ei ddefnyddio a'i fwynhau yn yr ardal y mae'n cael ei gynhyrchu ynddi yn rhoi hwb i fusnesau, ac yn sicrhau na fydd angen iddo deithio'n bell – sy'n ategu ein hymdrechion i wella ein hamgylchedd.

Nod Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled Cymru. Mae'n ceisio hyrwyddo ffyniant ledled y wlad ac estyn allan i gymunedau.

Rydyn ni yn y llywodraeth wedi ymrwymo i gefnogi pob rhan o Gymru, a helpu i ddiogelu a chreu swyddi ac adeiladu'r twf economaidd mae pob un ohonon ni am ei weld.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters:

Mae cefnogi'r Economi Sylfaenol yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae'n rhan hanfodol o'r economi ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywoliaeth llawer o bobl, yn ogystal â'n dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi.

Mae safon y ceisiadau ledled Cymru wedi bod yn uchel dros ben, ac o ganlyniad rydyn ni wedi treblu'r arian sydd ar gael o'r gronfa i £4.5 miliwn, gan gefnogi 52 prosiect.

Mae wedi bod yn wych ymuno â'r Prif Weinidog yng Nghaerfyrddin i ddysgu mwy am brosiect sydd â'r potensial i fod yn gyffrous iawn, ac un a fydd yn newid y ffordd mae bwyd yn cael ei gaffael yn lleol er budd cymunedau'r ardal.

Mae Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn dangos yn glir ein hymrwymiad i gefnogi pobl ym mhob rhan o Gymru heddiw, fory ac am flynyddoedd maith.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiectau llwyddiannus ar wefan Busnes Cymru.