Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ymweld â Marina Caergybi i gyhoeddi cyllid cymorth a diolch i bawb a gymerodd ran yn y gwaith o adfer trefn ers i Storm Emma daro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £100,000 i Gyngor Sir Ynys Môn tuag at y costau clirio, ac i sicrhau bod busnesau yn gallu aros ar agor a denu twristiaid i’r ardal.

Achosodd Storm Emma, a darodd arfordir y Gogledd ym mis Mawrth, ddifrod difrifol i’r marina a chafodd tua 75 o gychod eu dryllio.

Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud yn y broses o glirio’r ardal ers y digwyddiad. Mae 40 o dunelli o bolystyren a 3000 o litrau o olew ar amcangyfrif wedi cael eu clirio o’r marina a’r traethau cyfagos.

Mae’r cynnydd hwn wedi’i wneud diolch i ymdrechion tîm amlasiantaethol sy’n cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwylwyr y Glannau, ymhlith eraill. Yn ogystal â hynny, mae amser a dyfalbarhad gwirfoddolwyr lleol hefyd wedi bod yn hanfodol.

Cyn ei ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog:

“Hwn fydd fy ail ymweliad â’r marina ers i Storm Emma ddinistrio’r lle. O’r diwrnod cyntaf, mae asiantaethau a gwirfoddolwyr wedi gweithio’n ddiflino i glirio’r ardal a gwelais i â’m llygaid fy hun yr ymrwymiad a’r agwedd broffesiynol a ddangoswyd gan y rheini a gymerodd ran yn y gwaith. Rwy’n ddiolchgar iddynt am bopeth maen nhw wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud.  

“Rydyn ni wedi cadw mewn cysylltiad agos â’r awdurdod lleol, sydd wedi rhoi gwybod inni am bob cam o’r ymgyrch i adfer y sefyllfa.

“Dywedais i pan ymwelais ym mis Mawrth y byddem yn ystyried pa gymorth y gallem ei gynnig i gefnogi’r ymdrechion anhygoel i glirio’r marina, ac i helpu busnesau sydd wedi cael eu heffeithio.  

“Rwy’n gobeithio y bydd y Cyngor yn gallu defnyddio’r cymorth yr wyf i’n ei gyhoeddi heddiw i gefnogi’r busnesau lleol sydd wedi cael eu heffeithio. Gobeithio hefyd y bydd yn gallu mynd tuag at helpu i hyrwyddo twristiaeth ymhellach yma a dangos i ymwelwyr sy’n ystyried dod yma fod Caergybi yn dal i fod ‘ar agor’.

“Rwy’n gwybod bod Caergybi yn croesawu llong fordeithio gyntaf y tymor y bore yma. Hon fydd mordaith gyntaf y llong Viking Sun i Gaergybi – ac i Gymru. Mae hwn yn newyddion gwych i’r dref ac i’r ardal gyfagos, ac mae’n dangos bod gan yr ardal botensial gwych ar gyfer y dyfodol. Mae’r diwydiant mordeithio yng Nghymru wedi gweld twf aruthrol ac mae’n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Edrychwn ymlaen at groesawu mwy na 80 o longau i Gymru yn ystod 2018."

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, sydd hefyd wedi rhoi cyfraniad ariannol:

“Mae’r niwed i farina Caergybi wedi bod yn drychinebus i’r holl fusnesau ac unigolion sydd wedi cael eu heffeithio. Gwelwyd effaith sylweddol hefyd ar yr amgylchedd, gyda gweddillion a pholystyren yn mynd i mewn i’r dŵr.

“Diolch i waith caled pob asiantaeth sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith adfer, mae cryn gynnydd wedi’i wneud gyda’r ymgyrch i glirio’r ardal. Mae llawer iawn o bolystyren ac olew wedi cael eu casglu. Hyderaf fod y cyllid hwn yn mynd i roi’r sicrwydd sydd ei angen ar y gymuned fod pob ymdrech yn cael ei wneud o hyd i adfer y marina a’r amgylchedd lleol.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi:

"Mae Ynys Môn yn ddibynnol iawn ar y diwydiant twristiaeth, ac rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol a fydd yn helpu i leihau'r effeithiau negyddol ar Gaergybi, yn dilyn y dinistr a achoswyd gan Storm Emma.

“Gwnaethpwyd difrod mawr i'r marina ac mae busnesau lleol yn dioddef, ond mae'r effaith ar ein hamgylchedd a'n traethau o ganlyniad i lygredd polystyren hefyd wedi bod yn sylweddol. Rwy’n ddiolchgar fod pawb, o fusnesau i wirfoddolwyr, wedi cydweithio er mwyn taclo’r digwyddiad erchyll yma ac ein bod erbyn hyn yn gweithio tuag at adferiad.

“Mae’r gefnogaeth i fusnesau sydd wedi’u heffeithio a'r amgylchedd, yn ogystal â chyllid i'n helpu ni barhau i hyrwyddo Ynys Môn fel cyrchfan twristiaid penigamp yn hanfodol. Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, a’n cyfeillion yn Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.”