Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn agor campws newydd £22 miliwn Coleg y Cymoedd yn Aberdâr yn swyddogol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd mwy na 600 o fyfyrwyr yn defnyddio'r campws modern, newydd a gefnogwyd ag £11 miliwn gan raglen Llywodraeth Cymru, Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yw'r buddsoddiad mwyaf yn ysgolion a cholegau Cymru er y 1960au, a bydd dros £1.4 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn ystod y 5 mlynedd hyd at 2019.

Yn ogystal â chynnig cyrsiau mewn pynciau mwy traddodiadol fel cyfrifiadureg a gwyddoniaeth, mae Coleg y Cymoedd yn cynnig cyrsiau ymarferol gan gynnwys gosod brics, gwaith coed a saernïaeth, gosod offer trydanol a gwaith plymio, a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion cyflogwyr lleol.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: 

"Dw i'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r coleg newydd hwn â chyllid gwerth £11 miliwn. Pan edrychwch o gwmpas y safle penigamp hwn, gallwch weld ei fod yn werth bob ceiniog.

"Mae'r coleg newydd hwn yn darparu amgylchedd dysgu diguro  a'r adnoddau gorau un i fyfyrwyr, i'w helpu nhw i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Yn ogystal â bod o fudd i athrawon a myfyrwyr, bydd y coleg yn adnodd cymunedol gwerthfawr i bobl Aberdâr ei ddefnyddio a'i fwynhau."

Dywedodd Judith Evans, pennaeth Coleg y Cymoedd: 

"Mae hwn yn ddiwrnod i'w ddathlu, yn bendant, wrth inni agos drysau'r campws newydd yn swyddogol i ddangos y cyfleuster y bu Aberdâr yn aros amdano. Rydyn ni o'r farn bod gan bawb yng Nghymru hawl i gael mynediad at addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, sy'n arwain at lwybrau cyflogaeth go iawn.

"Rydyn ni'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ymuno â ni yn ein cenhadaeth i sicrhau bod cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili'n cael y cyfleusterau a'r cyfleoedd y maen nhw’n eu haeddu. Rydyn ni'n diolch hefyd i'r busnesau sy'n gweithio gyda ni bob blwyddyn i alluogi ein dysgwyr i ennill y profiad a'r cyfleoedd am swyddi a fydd yn dod â llwyddiant i'w rhan."

Daeth Dr. Lyn Evans, sy'n enedigol o Aberdâr, i'r agoriad swyddogol hefyd, gan hedfan adref i Gymru o safle CERN yn y Swistir er mwyn siarad am bwysigrwydd annog pobl i astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.