Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae dros 120 o berchnogion busnes a chynrychiolwyr y diwydiant yng Nghymru yn bresennol mewn cynhadledd fawr ar allforio yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y diwrnod llawn yn cael ei agor gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a bydd yn canolbwyntio ar allforio a goblygiadau Brexit – fel rhwystrau tariff a di-dariff – ac yn ystyried senarios masnachu o fis Mawrth 2019.

Bydd arbenigwyr busnes o Siambr Fasnach De Cymru, Strong and Herd, Uned Allforio ar y Cyd y DU, Godi ac UK Finance wrth law i roi cyngor ar sut i ymdopi â'r rheolau a'r rheoliadau wrth werthu nwyddau a gwasanaethau dramor.

Bydd cynrychiolwyr o swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal seminarau ar y farchnad drwy gydol y dydd i drafod y ffyrdd y gall busnesau ddatblygu eu marchnadoedd allforio.

Wrth agor y gynhadledd, bydd y Prif Weinidog yn dweud:

"Mae allforion Cymru yn werth £14.6 biliwn i'n heconomi bob blwyddyn, ac mae 61% ohonynt yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd. Ni allwn adael i Brexit rwystro'r llwyddiant hwn.

"Heddiw, rydyn ni'n siarad â phobl sy'n rhedeg busnesau yng Nghymru am y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n gyfnod hynod o ansicr, ond rydyn ni'n gweithio'n galed i gynnig yr help ymarferol sydd ei angen ar fusnesau Cymru i barhau i allforio neu i ddechrau gwerthu eu nwyddau dramor yn yr economi ar ôl Brexit.

"Ein gweledigaeth ar ôl Brexit yw i Gymru fod yn wlad sy'n masnachu â’r byd ond sy’n cadw cysylltiad masnachu cryf â’r Undeb Ewropeaidd. Rydym angen bargen Brexit sy'n sicrhau y gall Cymru barhau i allforio i’r Undeb Ewropeaidd heb rwystrau newydd na chostau, gan gwmpasu'r hwb newydd am gyfleoedd masnachu ar draws y byd."

Bydd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates hefyd yn annerch y gynhadledd yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Bydd yn dweud:

"Mae deall y farchnad yr ydych yn dymuno gwneud busnes ynddi yn allweddol er mwyn allforio nwyddau a gwasanaethau yn llwyddiannus ar draws y byd.

"Diben cynhadledd heddiw yw cefnogi busnesau Cymru i deimlo'n ddigon hyderus i ddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau i'r byd, gan eu helpu i ddeall y cryfderau a'u cyfyngiadau ar farchnadoedd gwahanol, a rhoi cyngor ar sut y gall busnesau dyfu eu gweithrediadau dramor.

"Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd newydd yn nodi’n glir ein hymrwymiad i flaenoriaethu allforio a masnach ac i helpu busnesau i gadw'u partneriaid masnachu presennol wrth eu cefnogi i ymestyn eu gorwelion i farchnadoedd byd-eang eraill.  

"Rôl Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod perchnogion busnes yn cael yr holl help sydd ei angen arnyn nhw i ymdopi â'r heriau a chroesawu'r cyfleoedd o'u blaenau er mwyn i ni ysgogi ein hymrwymiad i ddatblygu economi cryfach a thecach i bawb."