Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd agoriad swyddogol uned gofal dwys i’r newydd-anedig gwerth £18m yn Ysbyty Glan Clwyd yng nghwmni'r Prif Weinidog, Carwyn Jones heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig yn uned 20 cot i ofalu am fabanod sy'n wael iawn neu wedi'u geni'n arbennig o gynnar, ac yn rhan o Rwydwaith Newyddenedigol y Gogledd, sy'n cysylltu unedau gofal arbennig yn Wrecsam a Bangor.

Mae'n cynnwys gwasanaeth pontio i helpu rhieni i dreulio mwy o amser gyda'u babanod newydd-anedig, gwasanaeth cludiant newyddenedigol er mwyn sicrhau bod babanod sy'n cael eu geni ym mhob cwr o'r Gogledd yn medru defnyddio cyfleusterau'r uned, a llety i'r rhieni ar y safle. Mae hefyd yn cyrraedd y safonau newyddenedigol uchaf, ac yn cynnig cyfleusterau tipyn gwell i deuluoedd y babanod a'r staff.

Cymeradwyodd y Prif Weinidog gynlluniau i osod yr Uned yn Ysbyty Glan Clwyd yn 2014, yn dilyn argymhelliad gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant i ganoli gwasanaethau newyddenedigol yn y Gogledd.  

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Dyma ganolfan newydd ardderchog ar gyfer gofal dwys i fabanod newydd yn y Gogledd. Fe gymeradwyais i leoliad yr uned yn Ysbyty Glan Clwyd nôl yn 2014, ac mae'n fraint cael bod yma heddiw i siarad â'r staff a'u teuluoedd am eu profiadau yn y cyfleuster newydd yma.

"Mae'r timau ar draws y Gogledd wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod y boblogaeth yn cael gwasanaethau newyddenedigol newydd i ofalu am fabanod sy'n wael neu sydd wedi'u geni cyn pryd yn y rhanbarth, gan leihau nifer y babanod a'u teuluoedd sy'n gorfod teithio i Loegr i gael gofal.

"Gall pobl y Gogledd gyrraedd at y gofal newyddenedigol gorau i gyd, ac fe ddylai pawb fod yn hynod o falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni."

Dywedodd Mandy Cooke, Rheolwr y Gwasanaeth Newyddenedigol:

"Rydyn ni'n hynod o falch o'n huned newydd, ac wrth ein boddau o gael tywys y Prif Weinidog o amgylch heddiw.

"Bydd y cyfleusterau newydd yn helpu ein tîm newyddenedigol i sicrhau bod babanod gwael neu sydd wedi'u geni cyn pryd yn parhau i dderbyn gofal rhagorol yn y Gogledd am flynyddoedd i ddod."