Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Gwener 4 Mehefin), mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored ac y gellir cynnal gweithgareddau awyr agored mawr o ddydd Llun ymlaen, wrth i Gymru symud i lefel rhybudd 1.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd modd cynyddu maint aelwydydd estynedig i hyd at dair aelwyd, a bydd aelwyd arall sydd ag un oedolyn neu un oedolyn â chyfrifoldebau gofalu yn cael ymuno â’r aelwyd hefyd.

Byddwn yn symud yn raddol i lefel rhybudd 1, gan ailddechrau digwyddiadau awyr agored gyntaf. Bydd y Gweinidogion yn adolygu’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd eto, cyn 21 Mehefin, i benderfynu a all digwyddiadau o dan do ailddechrau.

Bydd gweithredu mewn dau gam fel hyn yn galluogi rhagor o bobl i gael eu brechu a chwblhau eu cwrs dau ddos – ar adeg pan fo pryderon cynyddol ynghylch lledaeniad amrywiolyn delta o’r feirws ar draws y Deyrnas Unedig.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am bopeth maen nhw wedi’i wneud i reoli lledaeniad y coronafeirws a chadw cyfraddau’n isel. Mae ymddangosiad yr amrywiolyn delta yn dangos nad yw’r pandemig drosodd eto a bod angen inni i gyd barhau i gymryd camau i ddiogelu ein hunain a’n hanwyliaid.

“Mae tipyn llai o risg o gael eich heintio yn yr awyr agored nag sydd o dan do. Dyna pam y byddwn yn cyflwyno’r newidiadau fesul cam yn ystod y cylch hwn o dair wythnos. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fwy o bobl fwynhau digwyddiadau awyr agored a manteisio ar yr haf yng Nghymru, wrth i ni barhau gyda’r rhaglen i frechu pob oedolyn.

“Byddwn yn adolygu’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd eto mewn wythnos neu ddwy i weld a allwn ni barhau i lacio’r cyfyngiadau ac ailddechrau digwyddiadau o dan do.”

Mae cyfraddau’r achosion o’r coronafeirws dros saith diwrnod yn parhau i fod yn isel iawn yng Nghymru a'r gyfradd profion positif yn llai na 1%. Cymru sydd hefyd â’r cyfraddau brechu gorau yn y Deyrnas Unedig – gyda dros 85% o’r boblogaeth wedi cael un dos a 45% wedi cael y cwrs llawn.

Ond mae pryder cynyddol am ledaeniad yr amrywiolyn delta mewn sawl ardal yn y Deyrnas Unedig, yn arbennig Gogledd-orllewin Lloegr.

Ar hyn o bryd mae 97 o achosion yng Nghymru, gan gynnwys clwstwr yn sir Conwy.

Bydd cam cyntaf y symud i lefel rhybudd 1 yn golygu bod y canlynol yn cael ei ganiatáu, o ddydd Llun 7 Mehefin ymlaen:

  • Gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored a mannau cyhoeddus. 
  • Gall cynulliadau a digwyddiadau mwy wedi’u trefnu, fel cyngherddau, gemau pêl-droed a gweithgareddau chwaraeon, fel grwpiau rhedeg wedi’u trefnu gael eu cynnal yn yr awyr agored, gyda hyd at 4,000 o bobl yn sefyll a 10,000 o bobl yn eistedd. Rhaid i holl drefnwyr digwyddiadau a gweithgareddau gynnal asesiad risg llawn a gosod mesurau i atal lledaeniad y coronafeirws, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried newidiadau pellach i’r rheoliadau ar weithgareddau o dan do yn ddiweddarach yn y mis, os bydd amodau iechyd y cyhoedd yn caniatáu.

Maent yn cynnwys:

  • Y rheol chwech o bobl ar gyfer cwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau. 
  • Cynyddu’r niferoedd a ganiateir ar gyfer digwyddiadau o dan do a chynulliadau wedi’u trefnu o dan do.
  • Agor canolfannau sglefrio iâ.