Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidog yn bresennol mewn gwasanaeth cenedlaethol yn Neuadd y Ddinas, i gofio'r holl bobl a ddioddefodd neu a fu farw dan erledigaeth y Natsïaid neu achosion eraill o hil-laddiad ar draws y byd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhelir gwasanaeth cenedlaethol Cymru ddydd Llun 29 Ionawr yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd dan nawdd y Prif Weinidog ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, ac o dan arweiniad y Parchedig Ganon Stewart Lisk.  


Bydd y gynulleidfa'n clywed am brofiadau personol y Foneddiges Milena Grenfell-Baines MBE, un o'r plant a achubwyd o'r Holocost ar y trên Winton olaf yn 1939. Byddant hefyd yn clywed gan Dr Mukesh Kapila CBE, a oedd yn rhan o'r tîm Prydeinig cyntaf i fynd i Rwanda ar ôl yr hil-laddiad yno, ac a fu hefyd yn gweithio ym Mosnia lle gwelodd ganlyniad yr hil-laddiad yn Srebrenica.


Bydd Eluned Anderson a Daniel Rees o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn siarad am eu gwaith fel Llysgenhadon Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost, sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion o bob ysgol a choleg yng Nghymru ymweld ag Auschwitz-Birkenau a siarad ag un o oreswyr yr Holocost.  


Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: 

"Rwy'n falch o sefyll gyda gweddill y byd i anrhydeddu'r rhai a wynebodd yr erchyllterau mwyaf arswydus erioed. 

"Mae heddiw yn gyfle pwysig i feddwl am y ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau nawr a herio'r casineb a'r erledigaeth sy'n dal i fodoli, yn anffodus. Mae'n ddyletswydd arnom i gofio am y rhai a fu farw, a sicrhau nad oes erchyllterau o'r fath yn digwydd eto." 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:

"Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn ei thraddodiad o fod yn ddinas groesawgar, sy'n agored i bobl o bob ffydd a phob hil. Mae'n bwysig i ni gofio'r rhai a fu farw dan y Natsïaid yn yr Holocost, ac wrth gwrs yr achosion eraill o hil-laddiad sydd wedi digwydd ar draws y byd. Heddiw, mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd i ymladd yn erbyn y drygioni hwn, a gwneud popeth o fewn ein gallu i atal hyn rhag digwydd eto."

Bydd cynrychiolwyr o sefydliadau gan gynnwys Race Equality First, Cyngor Rhyng-ffydd Cymru ac amrywiol aelodau o'r gymuned Iddewig yn bresennol yn y gwasanaeth.