Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi croesawu Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma Gyllideb a fydd yn helpu pobl ledled Cymru. Bydd yn golygu mwy o arian ym mhocedi’r bobl sydd ei angen fwyaf, cymorth ar gyfer biliau ynni, cynnydd yn yr isafswm cyflog a newyddion da i bensiynwyr.

Rwy'n falch bod y Canghellor wedi gwrando ar ein galwad i ddileu'r cap dau blentyn ar gyfer y budd-dal plant, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â melltith tlodi plant.

Fe wnaethon ni alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i barhau i'n cefnogi gyda mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, sydd dan bwysau difrifol, ac maen nhw wedi gwrando drwy roi £500 miliwn yn ychwanegol inni. Mae hyn yn adeiladu ar y £5 biliwn o gyllid ychwanegol sydd eisoes wedi'i gadarnhau.

Byddwn hefyd yn gweld buddsoddiad sylweddol yng Nghymru, gan gynnwys mewn Ardaloedd Twf AI, gweithgynhyrchu uwch, y broses bontio ar gyfer dur ym Mhort Talbot, ac ynni niwclear ar Ynys Môn.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynyddu hyblygrwydd cyllidol Cymru – bydd hyn yn rhoi setliad ariannol mwy gwydn inni, gan gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a’n twf economaidd. Mae hyn hefyd yn cydnabod yr uchelgeisiau yn ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y llynedd, roedd yr hyblygrwydd ychwanegol hwn yn golygu ein bod ni wedi gallu darparu miloedd o driniaethau ychwanegol yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.