Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog wedi croesawu cyhoeddiad heddiw ynghylch cronfeydd strwythurol gan Lywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

“Rwy’n croesawu’r cadarnhad gan y Canghellor y bydd y Trysorlys yn rhoi gwarant lawn gydol oes ar gyfer yr holl brosiectau strwythurol a buddsoddi sydd wedi cael eu cymeradwyo cyn i’r DU ymadael â’r UE.

“Rwyf wedi bod yn galw am y warant hon ers canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin.  Hwn yw’r unig benderfyniad teg a rhesymegol, gan ganiatáu dilyniant ar gyfer cymunedau, busnesau a buddsoddwyr yng Nghymru wrth i drefniadau gael eu gwneud ar gyfer y tymor hwy.

“Mae cronfeydd yr UE yn ffynhonnell bwysig o fuddsoddiad i Gymru ac fe fyddwn yn parhau i fanteisio i’r eithaf ar bob ceiniog a gawn o Ewrop. Byddwn hefyd yn parhau i gyflwyno achos cryf a chadarnhaol i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, yn unol â’n haddewid yn ymgyrch y refferendwm.

"Mae’r Trysorlys wedi cadarnhau, yn unol â’r setliad datganoli, mai mater i Lywodraeth Cymru fydd parhau i benderfynu sut y mae cronfeydd yr UE yn cael eu gwario yng Nghymru, yn unol â’n blaenoriaethau.”