Neidio i'r prif gynnwy

Cyn y digwyddiad heddiw, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yn gyfle i Gymru gofio ei hanes milwrol balch ac i ddweud diolch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae'n anrhydedd imi fod y digwyddiad hwn i anrhydeddu ein Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal yng Nghymru.  

“Mae gennym hanes milwrol balch yma ac mae Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yn gyfle i nodi ein dyled a'n diolchgarwch i gyn-filwyr sydd wedi brwydro dros ein cenedl yn y gorffennol.  

“Wrth inni nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a sefydlu'r RAF, mae 2018 yn flwyddyn arbennig o bwysig.

“Ceir cyfle ar y diwrnod arbennig hwn heddiw inni ddod at ein gilydd i gynnig ein cefnogaeth, ac i anrhydeddu ein dynion a'n menywod sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, a'n milwyr wrth gefn, a chofio am wasanaeth dewr y rheini sydd wedi gwasanaethu mewn brwydrau yn y gorffennol.

“Mae'n gyfle hefyd i'r genhedlaeth iau ddysgu am aberth ein Lluoedd Arfog, a gwerthfawrogi'r aberth hwnnw, er mwyn inni gael mwynhau'r rhyddid sydd gennym heddiw.”

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid sylweddol, ac yn cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gyflwyno Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2018.