Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddiad mawr ac ehangiad i safle Zimmer Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn diogelu 50 o swyddi ac yn creu 39 o swyddi newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd buddsoddiad Zimmer Biomet sydd werth £2.5m, gyda chymorth o £700,000 gan Lywodraeth Cymru, yn arwain at greu Canolfan Ragoriaeth Ewropeaidd ar gyfer technolegau arbenigol i greu deunydd mân-dyllog gaiff ei ddefnyddio i wneud mewnblaniadau orthopedig.

Yn Warsaw, Indiana y mae prif safle Zimmer Biomet, a dim ond yn y fan honno ac yn y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr y mae gan y cwmni gyfleusterau i gynhyrchu’r deunydd. Penderfynwyd ehangu ym Mhen-y-bont ar Ogwr diolch i’r cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae hyn yn newyddion gwych yn ôl y Prif Weinidog, sydd yng Ngogledd America ar hyn o bryd yn cwrdd ag uwch-swyddogion gweithredol cwmnïau a chanddynt brosiectau sylweddol yng Nghymru i drafod cyfleoedd buddsoddi â nhw.

Mae Zimmer Biomet yn y DU yn un o gwmnïau angori Llywodraeth Cymru gan gyflogi dros 800 o bobl o bob cwr o'r De yn Ystad Ddiwydiannol Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae'n creu amrywiaeth o gynnyrch ar gyfer cluniau a phen-gliniau newydd sydd yna'n cael eu hallforio'n fyd-eang.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Cafodd y penderfyniad i fuddsoddi ei gadarnhau heddiw yn fy nghyfarfod gyda Zimmer Biomet yn Chicago. Cefais y cyfle i ategu bod Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r penderfyniad i ehangu eu busnes yng Nghymru. Mae'n fuddsoddiad pwysig sy'n diogelu twf cynaliadwy'r busnes yng Nghymru yn y tymor hir ac yn sicrhau y bydd y safle’n parhau i chwarae rôl ganolog yn y sefydliad byd-eang hwn.

"Mae'n amser cyffrous i safle Zimmer Biomet ym Mhen-y-bont sy'n tyfu'n sylweddol ac yn gweld cynnydd yn y galw am eu cynnyrch. Bydd yr ehangiad hwn yn cynyddu maint y busnes a’i allu i gystadlu yn ogystal â chreu swyddi medrus sy'n talu'n dda.

"Mae'n newyddion da hefyd i gleifion a'r sector gofal iechyd yng Nghymru gan y bydd perthynas glòs y cwmni â’r Gwasanaeth Iechyd yn helpu i wella'r ddarpariaeth yn ogystal ag arwain ar arbedion ariannol."

Mae Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn gartref i raglen Rapide Theatre Care Zimmer Biomet, sy'n galluogi'r cwmni i gydweithio a nifer o ysbytai yng Nghymru, , i wella'r ddarpariaeth o ofal orthopedig i gleifion.  Yn ogystal â hyn, mae'r cwmni'n cydweithio â Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd i ddatblygu cynnyrch orthopedig newydd i drin cleifion ag amrywiaeth o gyflyrau sy'n effeithio ar y cyhyrau a'r esgyrn.  

Ar ôl ei chyfarfod gyda'r Prif Weinidog, dywedodd Robin Barney, Is-lywydd Gweithrediadau a Logisteg Byd-eang Zimmer Biomet:

"Roedd yn bleser cwrdd â'r Prif Weinidog yn Chicago.  Mae Zimmer Biomet yn falch iawn o'i waith ym Mhen-y-bont ar Ogwr,  ac mae'n parhau'n rhan bwysig o waith rhyngwladol y cwmni.  Ry'n ni wir yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth ry'n ni wedi ei chael gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd.  Fyddai buddsoddiadau diweddar y cwmni yn safle Pen-y-bont ddim wedi bod yn bosib heb gymorth gan y Llywodraeth ac ymroddiad gweithwyr Zimmer Biomet yr ardal."

Mae gan Zimmer Biomet gadwyn gyflenwi helaeth yng Nghymru hefyd a fydd yn gweld budd sylweddol o ganlyniad i'r ehangiad hwn.