Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cyhoeddi cynllun i godi hyder byd busnes a chronfa newydd i gefnogi twf a swyddi fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i ganlyniad y refferendwm.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yng nghyfarfod eithriadol y Cyngor Adfywio Economaidd yng Nghaerdydd heddiw (25 Gorffennaf) dywedodd Mr Jones bod Llywodraeth Cymru am bwysleisio i fusnesau a mewnfuddsoddwyr bod Cymru’n parhau i fod ar agor i fusnes.

“Mae refferendwm yr Undeb Ewropeaidd wedi creu ansicrwydd ac ansefydlogrwydd sy’n gallu niweidio hyder busnesau ac effeithio ar swyddi a buddsoddiad yn y tymor hir,” meddai.

“Ein blaenoriaeth ar unwaith yw cydweithio gyda busnesau a mewnfuddsoddwyr i roi sicrwydd iddyn nhw yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Heddiw rwy’n cyhoeddi cynllun i godi hyder byd busnes a Chronfa Twf a Ffyniant newydd, gan neilltuo £5m iddi ar unwaith fel mesur brys i sicrhau bod ein heconomi yn parhau i dyfu a bod Cymru’n parhau i fod yn wlad ddeniadol i fuddsoddi ynddi.

“Bydd y camau hyn yn helpu busnesau Cymreig sydd am dyfu, a chynyddu nifer a maint y cwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n allforio. Byddwn hefyd yn cynnal trafodaethau gyda busnesau ynghylch ffyrdd o’u helpu ac yn hyrwyddo Cymru i fewnfuddsoddwyr posibl.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates: 

“Mae Cymru ar agor i fusnes ar hyn o bryd – ac yn mynd i barhau felly. Fel llywodraeth sydd o blaid busnes, byddwn yn parhau i weithio gyda’r gymuned fusnes i greu twf a ffyniant.

“Yn ogystal â chyflawni’r cynllun i godi hyder byd busnes a’r Gronfa Twf a Ffyniant, rydyn ni’n cynnal trafodaethau gyda Cyllid Cymru ynghylch y cymorth y gellid ei gynnig i’r sector preifat yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Byddwn hefyd yn cyflwyno cynllun rhagweithiol o gymorth i allforio er mwyn galluogi busnesau i fanteisio ar gyfleoedd byd-eang ar gyfer eu cynnyrch a’u gwasanaethau.

“O ran datblygu sgiliau, rydyn ni’n bwriadu lansio’r rhaglen prentisiaethau i bobl o bob oed, a fydd yn helpu i gyflenwi’r sgiliau fydd eu hangen yn y dyfodol ar gwmnïau. Mae’n cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol yn rhaglen pum mlynedd uchelgeisiol o ymyraethau i foderneiddio’n rhwydweithiau trafnidiaeth, gan gysylltu cymunedau a busnesau gyda swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau.”

Mae’r Cyngor Adfywio Economaidd yn cynnwys amrywiol fusnesau, mentrau cymdeithasol a chynrychiolwyr undebau llafur. Mae’n cael ei gadeirio gan y Prif Weinidog.

Bydd manylion ynghylch sut i wneud cais i’r Gronfa Twf a Ffyniant ar gael yn fuan.