Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, heddiw wedi cyhoeddi enwau aelodau ei Gabinet newydd i arwain Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael fy mhenodi'n Brif Weinidog Cymru. Rhaid i bob arweinydd gael tîm cryf o'i amgylch, ac mae'n bleser cael cyflwyno fy Nghabinet newydd. Dyma dîm â chymysgedd cadarn o brofiad, dawn ac ymroddiad.

“Brexit yw ein her fwyaf. Yn y sefyllfa ryfeddol ac anffodus sydd wedi’i chreu gan Lywodraeth y DU, mae’n hanfodol ein bod yn paratoi ar gyfer pob canlyniad posib. Rydw i wedi cadw Gweinidogion mewn swyddi lle mae eu profiad o baratoi ar gyfer Brexit yn allweddol, ac wedi creu swydd newydd hefyd sy’n adlewyrchu’r pwyslais rwy’n ei roi ar gysylltiadau rhyngwladol a masnach.

"Fel llywodraeth byddwn yn parhau i godi llais ar ran Cymru, i frwydro dros fuddiannau’n gwlad ac i sicrhau bod y llywodraeth yn Llundain yn deall yn gwbl glir  beth sy'n bwysig i bobl Cymru."

Y Cabinet a'r gweinidogion:

Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eluned Morgan
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Dafydd Elis-Thomas
Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Ken Skates
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Lee Waters
Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg

Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Jeremy Miles
Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Jane Hutt
Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip