Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi mai Shan Morgan fydd Ysgrifennydd Parhaol nesaf Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr Ysgrifennydd Parhaol sy’n arwain y gwasanaeth sifil yng Nghymru, ac mae’n gyfrifol am reoli cyllideb Llywodraeth Cymru sy’n £15 biliwn y flwyddyn, ac arwain tua 5,000 o staff sy’n gweithio i’r sefydliad.

Ar hyn o bryd, Shan yw Dirprwy Gynrychiolydd Parhaol y DU yn UKRep ym Mrwsel.

Yn ei sylwadau ar y penodiad, dywedodd y Prif Weinidog:

“Pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi penodiad Shan Morgan fel Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth Cymru. Mae’n swydd hollbwysig yn y gwaith o gyflawni ein rhaglen uchelgeisiol ar ran pobl Cymru.

“Mae cael yr arweinyddiaeth iawn ar frig y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru yn hollbwysig, ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda hi ar yr agenda strategol hirdymor a amlinellir yn Symud Cymru Ymlaen.

“Er mai mynd i’r afael â’r materion pwysig sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd pobl yw prif ffocws  y llywodraeth hon o hyd, bydd profiad helaeth Shan yn y Gwasanaeth Llysgenhadol ac ym Mrwsel hefyd yn gaffaeliad hanfodol wrth i ni bwyso i gael y fargen orau bosib i Gymru yn ystod ac ar ôl ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd.”

Roedd y broses recriwtio ar gyfer rôl yr Ysgrifennydd Parhaol yn cynnwys cyfweliad panel gydag Ysgrifennydd y Cabinet a Phennaeth Gwasanaeth Sifil y DU, Syr Jeremy Heywood, ac uwch gynrychiolwyr o’r llywodraeth a thu hwnt. Gwnaed y penodiad gan y Prif Weinidog mewn cytundeb â Syr Jeremy, a ddywedodd:   

“Hoffwn longyfarch Shan ar gael ei phenodi’n Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.

“Mae gan Shan gyfoeth o brofiad hynod berthnasol o’r UE, ac yn rhyngwladol ac ar draws y llywodraeth, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi fel rhan o uwch dîm rheoli Gwasanaeth Sifil y DU.”

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Shan Morgan:

“Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â Llywodraeth Cymru ar adeg allweddol yn y gwaith o weithredu’r Rhaglen Lywodraethu 5 mlynedd newydd – “Symud Cymru Ymlaen”. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r Prif Weinidog, y Cabinet, swyddogion a rhanddeiliaid ehangach i gyflawni’r ymrwymiadau uchelgeisiol yn y Rhaglen ac i fynd i’r afael â’r heriau o ran hyrwyddo ffyniant a chyfle i bawb yng Nghymru.

“Mae hi wedi bod yn fraint gweithio i’r Gwasanaeth Llysgenhadol mewn pob math o wahanol rolau a chael cyfrannu at ddatblygu perthynas y DU â’r UE dros y blynyddoedd. Er fy mod i’n drist i adael cymaint o ffrindiau a chydweithwyr da ym Mrwsel, rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael dechrau yn fy swydd newydd.”

Bydd Ms Morgan yn dechrau ar ei swydd newydd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi talu teyrnged i’r Ysgrifennydd Parhaol presennol, Syr Derek Jones, wrth iddo adael y swydd:

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Hoffwn ddiolch i Derek am ei gyfraniad eithriadol i wasanaeth cyhoeddus dros gyfnod o bedwar degawd, yn fwyaf arbennig yn ei rôl fel Ysgrifennydd Parhaol. Roedd ei arweinyddiaeth yn hanfodol, gan ein helpu i greu gwasanaeth sifil sydd â gallu, capasiti ac angerdd. Dymunaf yn dda iddo i’r dyfodol.”

Ychwanegodd Syr Jeremy:

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Derek am ei gyfraniad aruthrol dros y pedair blynedd ddiwethaf a hoffwn ddymuno’r gorau iddo wrth i’w gyfnod yn y swydd ddod i ben.”

Cafodd Shan ei phenodi’n Ddirprwy Gynrychiolydd Parhaol y DU i’r UE ym mis Mehefin 2012. Yn y rôl hon, bu’n gyfrifol am gyflawni blaenoriaethau’r DU ar draws ystod o feysydd polisi’‘r UE sy’n cael effaith uniongyrchol ar fuddiannau economaidd Prydain mewn partneriaeth agos â’r Gweinyddiaethau Datganoledig. Cyn hynny, treuliodd bedair blynedd fel Llysgennad Prydain i’r Ariannin a Paraguay (2008-2012). Yn 2006, trosglwyddodd Shan i’r Gwasanaeth Llysgenhadol fel Cyfarwyddwr yr UE yn y Swyddfa Dramor, a hi oedd yn gyfrifol am drafod Cytundeb Lisbon a rheoli proses gadarnhau seneddol y DU. Ymunodd Shan â’r Gwasanaeth Sifil ym 1977, a chanolbwyntiodd ei gyrfa gynnar ar bolisi cyflogaeth a materion cymdeithasol.

Bydd hi’n dechrau ar ei swydd newydd ar ddiwedd cyfnod yr Ysgrifennydd Parhaol presennol, Syr Derek Jones, yn y  swydd. Nid yw’r union amseriad wedi’i gytuno hyd yma.

Cafodd y panel dethol ar gyfer y penodiad hwn ei gadeirio gan Kathryn Bishop, Comisiynydd Dros Dro y Gwasanaeth Sifil. Roedd y panel yn cynnwys Syr Jeremy Heywood, Pennaeth y Gwasanaeth Sifil ac Ysgrifennydd y Cabinet, Sue Owen, Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yr Athro Elan Closs-Stephens, Cyfarwyddwr Anweithredol yn Llywodraeth Cymru, a’r Athro Heather Stevens, Sylfaenydd a Chadeirydd Ymddiriedolwyr Sefydliad Waterloo.

Mae’r swydd yn benodiad llawn amser, yng Nghaerdydd, gyda chyflog sylfaenol o £160,000.