Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn cynnal y Fforwm Iwerddon-Cymru cyntaf i gael ei gynnal yng Nghaerdydd gyda Gweinidog Materion Tramor Iwerddon, Simon Coveney T.D.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r fforwm yn ymrwymiad allweddol a nodwyd yn y Datganiad a Rennir a'r Cynllun Gweithredu ar y Cyd a lansiwyd ym mis Mawrth eleni. Bydd y ddwy Lywodraeth yn ymrwymo i gryfhau'r cysylltiadau gwleidyddol ac economaidd rhwng y ddwy wlad.

Wrth i ni edrych ymlaen at uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow mae'r Fforwm yn gyfle i drafod cydweithredu ar ynni gwyrdd, gweithredu ynghylch yr hinsawdd ac uchelgeisiau a rennir i gyrraedd targedau Net Zero.

Dywedodd y Prif Weinidog,

Bydd yn bleser croesawu Gweinidog Coveney a’i gydweithwyr i Gymru.

Mae'r Fforwm yn symbol o'n hymrwymiad ar y cyd i gryfhau ein cysylltiadau presennol ar lefel wleidyddol, economaidd a diwylliannol.

Mae’r sgyrsiau hyn yn enghraifft arall o gryfhau’r cwlwm rhwng y ddwy wlad Geltaidd.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar ein perthynas bresennol a dyfnhau’r cydweithrediad â'n cymydog agosaf yn yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth siarad cyn y Fforwm, dywedodd y Gweinidog Coveney,

Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gwrdd â’r Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw ac, ochr yn ochr ag ef, cydgadeirio Fforwm cyntaf Iwerddon Cymru.

Fe wnaethom lansio fframwaith uchelgeisiol ar gyfer perthynas Iwerddon Cymru yn gynharach eleni ac un o'n blaenoriaethau a rennir oedd cryfhau perthynas Iwerddon Cymru a dyfnhau’r cydweithredu.

Rwy’n credu y bydd Fforwm Iwerddon Cymru yn llwyfan rhagorol ar gyfer gwneud hynny ac rwy’n falch o gael cwmni Gweinidog Troy a Gweinidog Ryan heddiw.

Bydd y ddirprwyaeth yn clywed gan Academi Arweinwyr y Dyfodol a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Byddant yn rhoi trosolwg o flaenoriaethau pobl ifanc yng Nghymru ar gyfer COP26.

Yn ystod y digwyddiad bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi naw prosiect sy'n cynnwys cydweithredu ag Iwerddon. Hwyluswyd y cyllid drwy raglen ScORE Cymru a lansiwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yr haf hwn. Bydd y prosiectau llwyddiannus a ddewiswyd mewn meysydd fel ynni, cymunedau arfordirol, masnach a thwristiaeth, diwydiannau creadigol, diwylliant ac iaith yn rhoi hwb pellach i’r cydweithredu drwy gysylltiadau diwydiant ac ymchwil ar draws ystod o sectorau.

Ar ôl y Fforwm, bydd y Prif Weinidog a Gweinidog Coveney yn mynychu agoriad swyddogol Conswl Iwerddon yng Nghaerdydd.