Neidio i'r prif gynnwy

Mae enillwyr Gwobrau Dewi Sant eleni wedi’u cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gwobrau’n dathlu llwyddiannau a gorchestion rhyfeddol Cymry o bob agwedd ar fywyd; o achub bywydau i ysbrydoli cenedl.

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Dyma beth yw grŵp o enillwyr i’n hysbrydoli – rwy’n teimlo’n rhyfeddol o falch bod gennym ni yng Nghymru garfan o bobl  mor eithriadol i droi atyn nhw. Chi sy’n gwneud Cymru yr hyn ydyw.

“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi’u gwobrwyo ac i’r rheini gafodd fynd ar y rhestr fer. Rydych yn glod i’ch teuluoedd, eich ffrindiau ac i’ch gwlad. Rwy’n gobeithio’ch bod yn wir ymfalchïo yn eich llwyddiant.

“Mae’r digwyddiadau ofnadwy yn San Steffan wythnos hon yn para’n fyw yn ein meddyliau. Ond heno, rydym wedi clywed storïau calonogol sy’n profi’r gorau am y natur ddynol. Storïau am ddewrder, am aberth ac am obaith.

“Mae’r gwobrau hyn yn ein hatgoffa mor garedig y gall pobl fod ac mae’n gyfle pwysig i ddweud diolch wrth y rheini sy’n mynd yr ail filltir – yn aml gan beryglu eu bywydau eu hunain – i’n cadw’n ddiogel.”

Dyma enillwyr Gwobrau Dewi Sant 2017:

Dewrder – Y Diffoddwyr Tân, Gary Slack a Billy Connor

Ym mis Awst 2916, ymladdodd y diffoddwyr tân Gary Slack a Billy Connor yn erbyn y cerrynt cryf yn Nhraeth y Castell, Dinbych y Pysgod i achub dau blentyn rhag boddi.

Person Ifanc - Savannah Lloyd, gwirfoddolwr iechyd meddwl

A hithau wedi brwydro â phroblemau iechyd meddwl ers pan oedd yn 11 oed, mae Savannah yn defnyddio’i phrofiad i helpu pobl eraill mewn sefyllfa debyg.

Chwaraeon – Tîm Pêl-droed Rhyngwladol Cymru 

Cyrhaeddodd tîm pêl-droed Cenedlaethol Cymru o dan arweiniad Chris Coleman, rownd gyn-derfynol Euros 2016.  Bu’r garfan yn llysgenhadon dihafal dros Gymru, ar y cae ac oddi ar y cae. Ac roedd y geiriau ‘Gorau Chwarae, Cyd-Chwarae’ a ‘Together Stronger’ wedi ysbrydoli’r wlad gyfan a thanio dychymyg y byd.

Diwylliant – Yr Athro Jen Wilson, cerddor ac archifydd jazz

Am ragor na 50 mlynedd, mae Jen wedi bod yn flaenllaw ym maes hyrwyddo cerddoriaeth jazz yng Nghymru ac o ran rhoi ei hanes a’i heffaith gymdeithasol ar gof a chadw - yn arbennig, rôl menywod yn y byd jazz.

Menter - David Banner, Cyfarwyddwr Gemau Fideo

Yn ogystal ag ennill nifer dda o wobrau am ei gemau, mae Dai, Rheolwr Gyfarwyddwr Wales Interactive, wedi bod yn allweddol yn nhwf diwydiant gemau Cymru. Sefydlodd Sioe Gemau flynyddol Cymru yn 2012 a chreu prosiect GamesLab, menter datblygu digidol ar gyfer Prifysgol De Cymru, sydd wedi meithrin cannoedd o fyfyrwyr a rhoi llwyfan fyd-eang i gwmnïau digidol o Gymru. 

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg – yr Athro Meena Upadhyaya OBE

Meena yw’r athro prifysgol cyntaf ym Mhrydain mewn geneteg feddygol sydd o dras Indiaidd ac yn fenyw. Mae ei gyrfa yn canolbwyntio ar adnabod anhwylderau genetig.  Mae Meena wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy ei hymchwil feddygol a’i gwaith cymunedol ac elusennol. Derbyniodd OBE yn 2010 am ei gwasanaethau i eneteg feddygol ac i gymuned Asiaidd Cymru.

Dinasyddiaeth – Cwnstabl Arbennig Cairn Newton-Evans, Heddlu Dyfed-Powys 

Ar ôl dioddef trosedd casineb homoffobig greulon, ymunodd Cairn â’r heddlu i geisio rhoi stop ar ymosodiadau o’r fath.  Mae Cairn yn wirfoddolwr rheolaidd ac yn ymgyrchydd brwd dros hawliau LGBT.

Rhyngwladol -  Dr David Nott OBE

Bob blwyddyn, am y tair blynedd ar hugain diwethaf, mae David wedi cymryd amser di-dâl o’i waith fel Llawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Chelsea a Westminster i weithio i elusennau cymorth a rhoi triniaeth lawfeddygol i’r rheini sy’n dioddef oherwydd trychineb a gwrthdaro. Sefydlodd David a’i wraig, Elly, “davidnottfoundation” sydd wedi codi cannoedd ar filoedd o bunnau i elusennau ac i hyfforddi llawfeddygon yng nghanol rhyfel a chyflafan.

Gwobr Arbennig y Prif Weinidog – Syr Karl Jenkins a Dr Mererid Hopwood

Ar 21 Hydref 2016, buom yn cofio hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan lle collodd 116 o blant a 28 o oedolion eu bywydau. 

Cafodd Syr Karl Jenkins a’r Dr Mererid Hopwood eu comisiynu gan S4C i gyfansoddi darn corawl newydd i gofio’r drychineb ar gyfer cyngerdd o’r enw Cantata Memoria  a berfformiwyd y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Roedd y gyngerdd yn coffáu cyfnod anodd iawn yn hanes Cymru ond oherwydd natur ei hymdriniaeth, llwyddodd i ennyn cefnogaeth y teuluoedd. Roedd y darn yn synfyfyrio ar boen y golled ond gan edrych yr un pryd tua’r dyfodol. Tipyn o gamp oedd sicrhau’r cydbwysedd hwnnw ond fe lwyddodd, gan roi cyfle i’n gwlad gofio’r diwrnod mewn ffordd sensitif ac urddasol.

Wrth siarad am enillwyr Gwobr Arbennig y Prif Weinidog, dywedodd Carwyn Jones: 

“Mae Syr Karl a’r Dr Mererid wedi cyflawni camp anhygoel. Trwy eu cerddoriaeth, fe ddaethon nhw nid yn unig â’r gymuned ynghyd ond hefyd  pobl o Gymru a’r byd i gofio’r drychineb gyda’i gilydd.”