Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn annog pobl Cymru i enwebu eu 'saint pob dydd' ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2019.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Sefydlwyd y digwyddiad blynyddol, sydd bellach yn ei chweched flwyddyn, i gydnabod a dathlu gweithredoedd da a chyflawniadau unigolion a grwpiau o bob cefndir.

Ymhlith y rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y gorffennol y mae Mair Elliot, ymgyrchydd ifanc ym maes iechyd meddwl o Sir Benfro, capten rygbi Cymru, Alun Wyn Jones, a Gerald Williams o Wynedd sydd wedi treulio ei oes yn cynnal cartref ei ewythr, y bardd Hedd Wyn.

Er mwyn annog enwebiadau, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei hymgyrch #SaintPobDydd er mwyn pwysleisio y gall unrhyw un gael ei enwebu am wobr os yw wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Gymru.

Y categorïau yw: Dewrder, Diwylliant, Menter, Dinasyddiaeth, Arloesi a Thechnoleg, Rhyngwladol, Chwaraeon, Person Ifanc a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog. Bydd y wobr honno’n cael ei dewis gan y Prif Weinidog newydd gan y bydd Mr Jones yn ymddiswyddo ym mis Rhagfyr.

Dim ond pythefnos sydd i fynd nes bod y cyfnod enwebu yn dod i ben ac mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn annog y rheini nad ydynt wedi enwebu rhywun eto, i achub ar  y cyfle i wneud hynny.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

"Fel Prif Weinidog, rwy'n aml yn cael yr anrhydedd o gwrdd â phobl ysbrydoledig iawn sy'n gwneud Cymru yn wlad arbennig iawn. Mae'r bobl hyn yn glod i ni, ac maent yn bobl sy'n haeddu eich enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2019.

"Mae seintiau pob dydd yn dod o bob cefndir − efallai eu bod yn ddewr iawn, yn arloesol neu'n arweinwyr da − neu efallai eu bod wedi diogelu rhan o ddiwylliant Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n siarad am y bobl hynny sy'n mynd gam ymhellach − sy'n rhoi popeth heb betruso, er budd pobl eraill.

“Gyda phythefnos nes bod y cyfnod enwebu yn dod i ben, peidiwch â cholli'r cyfle i ddathlu eich arwyr lleol. Mae cymryd rhan yn hawdd iawn − ewch i wefan Gwobrau Dewi Sant ac enwebwch rywun heddiw.”

Mae'r cyfnod enwebu yn dod i ben ar 16 Hydref a bydd enwau’r rhai a fydd yn cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi ar 14 Chwefror y flwyddyn nesaf. Cynhelir cinio i ddathlu ym mis Mawrth 2019 yn y Senedd, Bae Caerdydd.