Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yn amlinellu rhaglen ddeddfwriaethol newydd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth newydd a fydd yn rhoi terfyn ar gosb gorfforol i blant yng Nghymru. Bydd y Bil yn rhan o becyn o fesurau i helpu plant i gael y dechrau gorau posib mewn bywyd a darparu cymorth i rieni.

Hefyd bydd Bil yn cael ei gyflwyno i sefydlu dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yn gosod rhwymedigaethau statudol ar bob sefydliad iechyd yng Nghymru i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu a gwelliannau'n cael eu gwneud lle bo angen. Bydd corff annibynnol newydd yn cael ei greu i roi llais cryfach i bobl fynegi eu profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Bydd y llywodraeth yn cyflwyno Bil Llywodraeth Leol a fydd yn diwygio trefniadau etholiadol awdurdodau lleol, gan gynnwys gostwng yr oedran pleidleisio i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed.

Mae'r ffordd mae anifeiliaid yn cael eu trin yn adlewyrchiad pwysig o'n cymdeithas, a dros y 12 mis nesaf bydd bil yn cael ei gyflwyno i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ar sail lles.

Bydd y llywodraeth hefyd yn cyflwyno Bil i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Bil Deddfwriaeth (Cymru) fydd y cam sylweddol cyntaf tuag at sicrhau llyfr statud clir a threfnus.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Y flwyddyn o’n blaen fydd un o'r rhai prysuraf i ni o ran deddfwriaeth ers i Gymru gael pwerau deddfu sylfaenol.

"Mae sicrhau bod ein llyfr statud yn barod ar gyfer ymadael â’r UE yn her sylweddol i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol, ond rhaid i ni beidio â gadael i hynny gyfyngu ar ein huchelgais. Byddwn yn parhau i symud ymlaen a chyflawni ar ran pobl Cymru."

Ar ben rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, bydd gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgymryd â rhaglen sylweddol o reoliadau cywiro dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) rhwng mis Hydref a mis Mawrth, wrth baratoi i ymadael â'r UE.