Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwahodd plant ysgolion cynradd i fynd ati i ddylunio ei gerdyn Nadolig swyddogol ar gyfer 2017.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y Prif Weinidog fydd yn dewis y cerdyn buddugol i’w ddefnyddio fel ei gerdyn Nadolig swyddogol. Caiff y cerdyn ei anfon at bobl ym mhob rhan o’r byd, gan gynnwys y Frenhines, Prif Weinidog San Steffan, ac Uchel Gomisiynwyr a Llysgenhadon.

Gofynnir i blant ym mlynyddoedd 3 a 4 gyflwyno eu cardiau dwyieithog erbyn dydd Gwener 10 Tachwedd 2017.

Bydd yr arlunydd ifanc llwyddiannus yn cael ei wahodd i gwrdd â'r Prif Weinidog, a bydd yn cael copi wedi'i lofnodi o'r cerdyn mewn ffrâm.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Rwy'n galw ar bob arlunydd ifanc addawol yng Nghymru i estyn am eu pensiliau lliw, eu creonau a'u pinnau ffelt i ddylunio fy ngherdyn Nadolig swyddogol.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld pob un o gardiau'r plant - bydd gweld yr ymdrechion artistig yn fy rhoi yn hwyl yr ŵyl."

Enillwyd y gystadleuaeth y llynedd gan Travis Carter 9 oed o Ysgol Gymraeg Cwmbrân, a chafodd ei gerdyn ei ddewis o blith dros 700 o gynigion.

Dylech anfon y cynigion i:

Non Jones / Lloyd Bowen
Tîm Cyfathrebu'r Cabinet
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 0300 025 3942
E-bost: non.jones@llyw.cymru

Canllawiau ar y gystadleuaeth Cerdyn Nadolig

  • Mae'r gystadleuaeth ar agor i ddisgyblion ym mlynyddoedd 3 a 4 (7-9 oed) yng Nghymru
  • Dylai pob cerdyn fod yn faint A4 ar y mwyaf (210mm x 297mm)
  • Nid oes ots a yw'r cerdyn ar i fyny neu ar draws
  • Dylai pob cerdyn fod yn "fflat" - dim arwyneb anwastad h.y. dim gwlân cotwm, glitr ac ati
  • Lliwiau llachar sy'n cael eu hatgynhyrchu orau
  • Dylech osgoi cefndir tywyll
  • Dylai'r holl destun fod yn ddwyieithog - y Gymraeg yn gyntaf ac yna'r Saesneg
  • Cofiwch nodi enw, oedran, dosbarth ac ysgol y disgybl ar gefn y cerdyn
  • Yn anffodus, ni allwn ddychwelyd unrhyw gardiau
  • Dylai'r cardiau Nadolig ein cyrraedd erbyn dydd Gwener 10 Tachwedd.