Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi lansio Rhaglen 2017 heddiw i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhaglen 2017 yw’r ddiweddaraf yng nghyfres Llywodraeth Cymru o daflenni Cymru’n Cofio 1914-1918 sy’n rhestru’r digwyddiadau a’r prosiectau o ddiddordeb i’r Cymry sy’n cael eu cynnal yng Nghymru a thu hwnt yn ystod y flwyddyn. Mae’r lansiad yn cyd-fynd â digwyddiad Diwrnod Partneriaeth 2017 y Rhyfel Byd Cyntaf a gynhelir yn Llanfair-ym-Muallt ar 26 Ionawr.

Prif ffocws y flwyddyn o gofio yw Trydedd Frwydr Ypres (Passchendaele) a fydd yn cael ei choffáu yn y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol wrth y Gofeb Gymreig yn Langemark, Gwlad Belg ar 31 Gorffennaf 2017.

Mae Trydedd Frwydr Ypres o arwyddocâd arbennig i Gymru am i lawer iawn o filwyr o Gymru golli eu bywydau yno, gan gynnwys y bardd Hedd Wyn. Lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf 2017 a chafodd ei gladdu ym mynwent Artillery Wood ger Ypres.

Bydd croeso i bawb yn y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol ond rhaid cofrestru ymlaen llaw erbyn 26 Mawrth 2017. Caniateir mynediad trwy docynnau wedi’u harchebu ymlaen llaw yn unig.

Ymhlith y digwyddiadau allweddol eraill a gynhelir fydd ailagor cartref Hedd Wyn yn sgil ei ailddatblygu am gost o £3.4 miliwn o dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyda nawdd Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri. Bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal nifer o ddigwyddiadau diwylliannol ar y cyd â Llywodraeth Fflandrys ar yr hanes cyffredin rhwng Cymru a Gwlad Belg.

Meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Mae Cymru’n Cofio 1914-1918 yn rhoi cyfle inni gofio’r rheini a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

“Rhaid inni beidio â gadael i aberth y Cymry, ynghyd â’r rheini o wledydd eraill Prydain a lluoedd y Cynghreiriaid, fynd yn angof.  Mae Rhaglen 2017 yn ganlyniad i’r cydweithio a’r cyfranogi aruthrol a welwyd ledled Cymru ers 2014, a fydd yn parhau eleni ac i’r dyfodol.

“Mae’n bwysig bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall dylanwad y rhyfel ofnadwy hwn ar y Gymru fodern a rhaid dysgu gwersi’r gorffennol i fynd â ni at ddyfodol mwy heddychlon.”