Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi lansio Rhaglen 2018, sy’n amlinellu gweithgareddau eleni i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhaglen 2018 yw’r diweddaraf mewn cyfres o lyfrynnau blynyddol Cymru’n Cofio 1914-1918 gan Lywodraeth Cymru, sy’n nodi digwyddiadau a phrosiectau o ddiddordeb i Gymru yng Nghymru a thu hwnt gydol y flwyddyn. Hefyd, mae’n cynnwys erthyglau amrywiol wedi’u hysgrifennu gan sefydliadau partner yn ymwneud â chynlluniau i gofio’r rhyfel a digwyddiadau hanesyddol. Mae’r lansiad yn cyd-fynd â Diwrnod Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf 2018 sy’n cael ei gynnal yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd ar 30 Ionawr.


Eleni, canolbwyntir ar ganmlwyddiant y Cadoediad ar ddydd Sul 11 Tachwedd. Cynhelir y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol wrth y Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Nghaerdydd yn y bore, a bydd gwasanaeth coffa arall yn dilyn yn nes ymlaen.


Mae’r Awyrlu Brenhinol yn dathlu ei ganmlwyddiant yn 2018 hefyd. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau, gweithgareddau a mentrau arbennig gydol 2018 i nodi’r canmlwyddiant hwn. Bydd Cymru yn ymuno yn y cofio pan ddaw’r Daith Awyrennau Genedlaethol i Erddi Neuadd Dinas Caerdydd rhwng 16 a 20 Mai 2018. Cynhelir digwyddiadau eraill ledled Cymru i roi cyfle i’r cyhoedd nodi’r canmlwyddiant.  Mae’r gweithgareddau hyn yn dilyn digwyddiad a gynhaliwyd yn Llanystumdwy ar 12 Ionawr i nodi canmlwyddiant cyfraniad y Prif Weinidog David Lloyd George at sefydlu’r Awyrlu Brenhinol.


Mae’r digwyddiadau allweddol eraill yn cynnwys 14-18 NOW, rhaglen ddiwylliannol y DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, yn lansio’r prosiect Nawr yr Arwr fel rhan o Ŵyl Ryngwladol Abertawe ym mis Medi.


Mae Nawr yr Arwr (Now The Hero) yn brofiad theatrig dwys gan yr artist o Gymru Marc Rees, sy’n mynd â’r gynulleidfa ar daith anghyffredin trwy dri naratif rhyfel cysylltiedig trwy gyfrwng cyrch milwrol, parti priodas bywiog, dawns brotest a gwylnos hynafol. Mae’r gwaith wedi’i ysbrydoli gan Baneli’r Ymerodraeth Brydeinig a baentiwyd gan Frank Brangwyn ac a gomisiynwyd yn wreiddiol gan Dŷ’r Arglwyddi i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf. Hefyd, mae’n cynnwys galargerdd newydd a gyfansoddwyd gan Jóhann Jóhannsson, sydd wedi’i enwebu ddwywaith am wobr Oscar.

Un o’r uchafbwyntiau eraill fydd ffilm gan Peter Jackson, sy’n enwog am gyfarwyddo trioleg The Lord of the Rings, sydd wedi’i gomisiynu gan 14-18 NOW ac Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth i greu ffilm ar y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd ffilmiau o archif ffilm helaeth Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth (IWM) ac archifau sain yr Amgueddfeydd a’r BBC yn cael eu hadfer, a bydd y ffilm yn cael ei dangos mewn sinemâu ac ysgolion ledled y DU, cyn cael ei darlledu ar BBC1 ym mis Tachwedd 2018. Mae adnoddau cysylltiedig yn cael eu datblygu a’u dosbarthu i ysgolion uwchradd, ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i ennyn diddordeb ledled Cymru.

Meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones: 

“Mae Cymru’n Cofio 1914 – 1918 yn gyfle i ni gofio bywydau’r rhai a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. 

“Mae Rhaglen 2018 yn parhau â’r lefel ymgysylltu ragorol ledled y wlad gyfan, sy’n cydnabod aberth pobl Cymru, gweddill y DU a lluoedd y cynghreiriaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.    

“Mae’n hollbwysig bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall effaith y rhyfel ofnadwy hwn ar y Gymru Fodern, gan sicrhau ein bod yn dysgu o’r gorffennol wrth ddiogelu dyfodol heddychlon.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi a datblygu gweithgareddau cofio penodol, gan gyflwyno hunaniaeth genedlaethol gref ar gyfer dathlu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf fel rhan o raglen Cymru’n Cofio 1914-1918, sy’n para tan fis Mawrth 2020.”

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau ledled Cymru yn 2018, ewch i http://www.cymruncofio.org/