Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Mawrth 17 Rhagfyr), wrth iddo nodi blwyddyn ers iddo gael ei benodi yn Brif Weinidog, bydd Mark Drakeford yn dychwelyd i’w hen ysgol gynradd i ateb cwestiynau gan y disgyblion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Mark Drakeford, a ddechreuodd ar ei waith fel Prif Weinidog Cymru flwyddyn yn ôl, yn ymweld â’i hen ysgol gynradd, Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yng Nghaerfyrddin. Bydd disgyblion rhwng chwech ac un ar ddeg oed yn holi’r Prif Weinidog am yr hyn y mae ef wedi ei gyflawni yn ystod ei flwyddyn gyntaf, yn ogystal â’r heriau sydd i ddod yn 2020. 

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi:

  • Cyhoeddi 100 o bolisïau a chynigion i weddnewid Cymru yn wlad carbon isel
  • Diddymu ffioedd asiantaethau gosod eiddo annheg yn y sector rhentu preifat
  • Datgelu ein cwricwlwm drafft newydd ar gyfer dysgwyr yng Nghymru
  • Cyflwyno cyfreithiau newydd i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a rhoi pleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed yn yr etholiadau lleol. 

Dywedodd y Prif Weinidog:

Mae’n bosib mai’r flwyddyn ddiwethaf yw’r un fwyaf eithriadol erioed yn hanes gwleidyddol diweddar Prydain, a Chymru hefyd. Rydw i wir wedi cael fy mhrofi yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y swydd, yn enwedig o safbwynt y tair her fwyaf – cyni cyllidol, Brexit a’r argyfwng hinsawdd.   

Ond, er gwaetha’r cyfnod heriol hwn, rydyn ni wedi parhau’n ymroddedig i wireddu’r addewidion a wnaethon ni i bobl Cymru.

Rydyn ni ar drothwy blwyddyn brysur arall mewn gwleidyddiaeth. Yn ogystal â’r rhaglen lywodraethu uchelgeisiol sydd i’w chwblhau yng Nghymru, bydd y berthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn newid. Mae angen negodi hefyd ddyfodol newydd â’r Undeb Ewropeaidd.

Ond rydw i’n fwy ymroddedig nag erioed i barhau i weithio’n galed i gyflawni dros Gymru. Gyda’n gilydd, gallwn ni adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei wireddu dros y flwyddyn ddiwethaf a pharhau i wneud Cymru yn lle tecach, gwyrddach a gwell i fyw ynddo.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn trafod rhai o’r heriau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod – a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth sydd ar frig y rhestr honno.  

Dywedodd:

Ddoe, cyhoeddwyd ein Cyllideb ddrafft, gyda chyllid newydd yn cael ei gyhoeddi i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, buddsoddi mewn cynlluniau datgarboneiddio a gwella bioamrywiaeth. Bydd 2020 yn flwyddyn o uchelgais newydd ac o weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Rydw i’n benderfynol y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad cadarn ar hyn.