Heddiw, datgelodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth ei uchelgais y bydd Cymru'n dod yn un o gyrchfannau beicio gorau'r byd i dwristiaid.
Cymerodd y Prif Weinidog ar ei feic yng Nghaerffili yn dilyn yr achlysur i nodi'r garreg filltir o flwyddyn tan gymal Cymru o'r Tour de France ym mis Gorffennaf 2027.
Gyda ras eleni'n mynd rhagddi yng Nghatalwnia a Ffrainc, ymunodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, â'r Prif Weinidog i amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wneud y gorau o gyfle'r ras i greu gwaddol fydd yn dod â budd i gymunedau, busnesau ac ymwelwyr am flynyddoedd i ddod.
Daeth y digwyddiad â chynrychiolwyr o sefydliadau cymunedol, twristiaeth, treftadaeth a beicio Cymru ynghyd. Ymhlith y mynychwyr roedd Beicio Cymru, busnesau a chlybiau beicio lleol, ochr yn ochr â Cadw a chynrychiolwyr o'r sector addysg.
Meddai'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth:
"Am y tro cyntaf yn ei hanes, bydd Cymru'n cynnal rhan o ddigwyddiad chwaraeon blynyddol mwya'r byd sydd ar gael am ddim, gan roi cyfle digynsail i ni arddangos ein gwlad.
"Gyda blwyddyn i fynd, bydd ffans beicio'n llawn cyffro wrth feddwl am groesawu'r ras i Gymru. Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos Cymru fel un o gyrchfannau gorau'r byd i feicwyr o bob gallu, gyda llwybrau beicio gwych a lletygarwch heb ei ail."
Yn Barcelona yr wythnos hon, mae Croeso Cymru wedi bod yn sgwrsio gyda chefnogwyr beicio rhyngwladol drwy stondin bwrpasol yn y Parth Cefnogwyr, gan arddangos Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer beicio ac antur awyr agored.
Yn ymuno â Croeso Cymru ar y stondin mae Cycle Champs, sef cyflenwr beiciau cydbwyso swyddogol y Tour de France. Mae'r cwmni o Sir Gaerfyrddin yn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feicwyr, gyda'u beiciau cydbwyso yn rhan ganolog o ddathliadau Grand Départ y ras. Ddydd Sadwrn, roedd beiciau Cycle Champs yn falch o arwain y peloton allan yn Barcelona, gan amlygu arloesedd Cymru ar un o lwyfannau mwya'r byd beicio.
Meddai Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
"Dros y flwyddyn nesaf, bydd cyfleoedd i fusnesau, cyflenwyr, ysgolion, sefydliadau cymunedol a gwirfoddolwyr ledled Cymru gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r Tour de France, gan helpu i arddangos cynhyrchion, doniau, treftadaeth a chyrchfannau Cymru a sicrhau bod cymunedau ledled y wlad yn elwa o'r digwyddiad.
"Bydd ymwelwyr a beicwyr hefyd yn gallu defnyddio teclyn cynllunio teithiau newydd i ddarganfod a chynllunio profiadau beicio ledled Cymru, gan helpu i ymestyn gwaddol y digwyddiad o ran twristiaeth.
"Mae'n wych cael bod yng Nghastell Caerffili ar gyfer y digwyddiad yma er mwyn tynnu sylw at yr hanes a'r dreftadaeth bwysig y bydd beicwyr yn dod ar eu traws yng Nghymru. Bydd y llwybr yn mynd drwy bentrefi, trefi a thirweddau hanesyddol, a heibio i rai o'n safleoedd hanesyddol anhygoel. Edrychwn ymlaen at gael rhannu'r llefydd rhyfeddol yma gydag ymwelwyr a gwylwyr o bob rhan o'r byd."
Daw'r Tour de France i Gymru yn dilyn pum mlynedd o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid y cais i ddod â'r digwyddiad i wledydd Prydain.
Nod Llywodraeth Cymru yw adeiladu ar lwyddiant y ras ac annog mwy o ymwelwyr i brofi Cymru ar feic, gan greu gwaddol i gymunedau a busnesau ar draws y wlad. Un sy'n cefnogi'r uchelgais honno yw'r arwr beicio Geraint Thomas, sydd wedi'i benodi'n Llysgennad Beicio Cymru wrth baratoi ar gyfer Tour de France 2027.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd eisiau gwneud y mwyaf o'r manteision ehangach o ran twristiaeth, lletygarwch, iechyd a phroffil rhyngwladol sy'n dod o gynnal y Tour de France. Ochr yn ochr ag ysbrydoli mwy o bobl i feicio ac ymweld â Chymru, yr uchelgais yw gwneud y gorau o fanteision y digwyddiad o ran twristiaeth a lletygarwch, iechyd a hyrwyddo'n fyd-eang, a sicrhau cyfran o farchnad feicio gwledydd Prydain sy'n werth £520 miliwn, gan sicrhau bod manteision y digwyddiad i'w teimlo ymhell ar ôl diwedd y ras.
Meddai Geraint Thomas, Llysgennad Beicio Cymru, wrth siarad o barth y cefnogwyr yn Barcelona lle dechreuodd ras 2026:
"Yma yn Barcelona, gallwch chi wir deimlo'r cyffro a pha mor arbennig yw'r Tour de France. Mae'n anhygoel gwybod y bydd yr un egni a bwrlwm yn dod i Gymru ymhen blwyddyn.
"Mae Cymru'n berffaith ar gyfer beics. Mae'n wlad sy'n aml yn synnu pobl pan maen nhw'n ei phrofi drostyn nhw'u hunain. Mae'r ffyrdd a'r tirweddau yma wedi fy siapio i fel beiciwr ac wedi chwarae rhan enfawr o ran pwy ydw i heddiw. Gyda dringfeydd o'r radd flaenaf, beicio mynydd anhygoel a llwybrau teuluol di-draffig sy'n mynd â chi drwy olygfeydd godidog a drwy drefi a phentrefi croesawgar, mae Cymru'n cynnig rhywbeth i bob beiciwr. Gyda dim ond blwyddyn i fynd, dyma'n cyfle ni i ddangos i'r byd beth sydd gyda ni, i ddod â'r angerdd yna, y balchder yna, ac i gynnig y croeso go iawn sydd ganddon ni i'w gynnig. Alla i ddim aros i weld Cymru'n dod ynghyd, o lefydd fel Castell Caerffili i bob rhan o'r wlad, i groesawu'r ras yn 2027. Mae'n mynd i fod yn achlysur gwirioneddol arbennig."
Mae'r cyfleoedd yn ymestyn y tu hwnt i ddiwrnod y ras ei hun, gyda busnesau ledled y wlad yn paratoi i groesawu ymwelwyr newydd ac i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig. Yn eu plith mae busnes beicio Bike Shedz yng Nghaerffili, y mae ei berchennog Nicholas Ball yn credu y gall y digwyddiad adael gwaddol i'n cymunedau.
Meddai Nicholas Ball, perchennog busnes Bike Shedz yng Nghaerffili:
"Mae'r cyfri i lawr yn nodi dechrau blwyddyn bwysig o weithgarwch ledled Cymru wrth i ni baratoi i groesawu un o ddigwyddiadau chwaraeon mwya'r byd.
"Mae'r Tour de France yn gyfle unigryw i arddangos Cymru ar lwyfan y byd. I fusnesau fel ni, mae'n gyfle i groesawu ymwelwyr newydd, i dynnu sylw at bopeth sydd ganddon ni i'w gynnig ac i ysbrydoli mwy o bobl i fynd allan ar eu beics. Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod y manteision yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddiwrnod y ras ac yn gadael gwaddol parhaol i gymunedau ledled Cymru."
Mae anogaeth hefyd i fusnesau ar draws y wlad ymuno â'r cynllun Croeso i Feicwyr, gan helpu ymwelwyr i fynd ati'n hawdd i adnabod llety sy'n cynnig cyfleusterau a gwasanaethau sydd wedi'u teilwra i bobl ar wyliau beicio neu sy'n dod â'u beic eu hunain gyda nhw. Mae disgwyl i'r cynllun chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn barod i groesawu'r nifer uwch o ymwelwyr beicio fydd yn dod ar ôl cael eu hysbrydoli gan y Tour de France.
Meddai Sarah Harris-Clint o gwmni Crafty Legs Events:
"Rydyn ni wrth ein boddau'n croesawu'r Tour de France i'n sir gartref ni, y sir lle rydyn ni'n cefnogi llawer o fusnesau bach. Mae hwn yn gyfle gwych i ddod â busnesau bach at ei gilydd, i ddathlu'r lleol ac i hyrwyddo'r hyn sydd gyda ni yma i dwristiaid, ymwelwyr a phobl leol.
"O'r mynyddoedd a'r cymoedd i'r bwtîcs annibynnol i'r castell mwyaf ond un yn Ewrop, mae gyda ni lawer i'w arddangos yng Nghaerffili, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael dathlu'r cyfan dros y ddwy flynedd nesaf gyda chefnogaeth dathliadau'r Tour de France."
Bydd y ras ei hun yn cyrraedd Cymru ddydd Sul, Gorffennaf 4, 2027, pan fydd Cymal 3 o'r Tour de France yn gadael o'r Trallwng yn y canolbarth.
Meddai Caroline Spanton, Prif Weithredwr Beicio Cymru:
"Flwyddyn i nawr, bydd llygaid y byd ar Gymru. Ein gwaith ni, bob un ohonon ni gyda'n gilydd, yw sicrhau, pan fyddan nhw'n troi eu llygaid tuag at rywle arall, bod beicio yng Nghymru yn wahanol i'r hyn oedd o'r blaen.
"Y Tour de France yw'r eiliad. Ond mae eiliadau'n gwibio heibio.
"Yr hyn rydyn ni'n ei greu yw ymgyrch, Cymru lle gall pob plentyn reidio beic, lle mae gan bob cymuned glwb sy'n werth bod yn rhan ohono, lle mae beicio nid yn gamp i rai ond yn ffordd o fyw i bawb." Dyna'r gwaddol y gallwn ei greu o'r cyfle yma, a dyna wnawn ni, nid yn unig i'r genhedlaeth yma, ond i bob cenhedlaeth sy'n dilyn."
Bydd y llwybr yn mynd drwy Landrindod, Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu cyn mynd i mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yna bydd beicwyr yn taclo wyth dringfa wedi'u categoreiddio, gan gynnwys chwech yn yr 80 cilomedr olaf o rasio, gyda dringfeydd eiconig fel y Côte de Rhigos a'r Côte de Caerffili, cyn gorffen yng Nghaerdydd.
Fel cymal olaf y Grand Départ yng ngwledydd Prydain, mae disgwyl i gymal Cymru ddenu cannoedd o filoedd o wylwyr a chynnig diweddglo dramatig i ran Prydain yn cynnal cymalau agoriadol y ras. Bydd yn rhan o un o'r digwyddiadau chwaraeon rhad ac am ddim mwyaf a gynhaliwyd erioed yng Nghymru.
Mae cymunedau ar hyd y llwybr eisoes yn gweithio gyda'r trefnwyr i baratoi ar gyfer y digwyddiad, tra bydd mwy na 7,000 o wirfoddolwyr yn cael eu recriwtio ledled gwledydd Prydain i helpu i gyflwyno'r Grand Départ. Bydd cyfleoedd pellach i fusnesau, ysgolion, sefydliadau diwylliannol a grwpiau cymunedol gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.
Cyhoeddir rhagor o fanylion am weithgareddau cymunedol, cyfleoedd i fusnesau a ffyrdd i'r cyhoedd gymryd rhan yn ystod y misoedd nesaf.
