Ddoe, anerchodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, y cynrychiolwyr i'r DU o brif wledydd yr UE.
Ar ymweliad ag Europe House yn Llundain, amlinellodd Prif Weinidog Cymru ei uchelgeisiau i weithio'n agosach gydag Ewrop, a'r cyfleoedd i Gymru drwy gydweithredu agosach.
Mae'r cyfarfod yn dilyn ymweliad tramor cyntaf y Prif Weinidog â Dulyn ddydd Mercher.
Yn ei araith, dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae Cymru yn genedl ryngwladol. Mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o gymryd camau ystyrlon i gryfhau cysylltiadau diwylliannol ac economaidd â'n cymdogion Ewropeaidd.
"Ond mae'n rhaid i ni gael yr offer i wneud hyn. Mae hynny'n golygu dadlau'r achos dros lais cryfach i Gymru mewn digwyddiadau ymgysylltu rhyngwladol.
"Rydym yn parhau i ddadlau'r achos dros gyrchfan fwy uchelgeisiol - un sy'n gweld y Deyrnas Unedig yn ailymuno â'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau i leihau ffrithiant, adfer cydweddiad a datgloi potensial llawn ein heconomïau a rennir.
"Mae ein hymrwymiadau rhyngwladol eisoes yn cefnogi twf allforio, mewnfuddsoddiad a chreu swyddi. Rydym am adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, gan weithio gyda phartneriaid ledled Ewrop, ehangu masnach, dyfnhau cydweithredu a datgloi twf sy'n cael ei rannu, yn gynaliadwy ac sydd wedi'i wreiddio yn ein gwerthoedd.
"Mae ein perthynas Ewropeaidd hefyd, yn y bôn, yn ymwneud â phobl. Ers cenedlaethau, mae cyfleoedd i fyw, astudio a gweithio ledled Ewrop wedi siapio bywydau yng Nghymru ac wedi ehangu gorwelion. Rydym yn benderfynol na fydd y cyfleoedd hynny yn cael eu gwrthod i'r genhedlaeth nesaf.
"Mae Cymru'n wlad sy'n llawn balchder cenedlaethol, ond hefyd yn hyderus yn rhyngwladol, ac rydym yn benderfynol o chwarae rôl lawn wrth gryfhau'r berthynas rhwng Cymru, y DU ac Ewrop, unwaith eto.
"Rydym yn barod i weithio gyda chi i gyflawni'r dyfodol hwnnw - gyda'n gilydd."
