Mae'r Prif Weinidog wedi talu teyrnged i ddwy fenyw 101 oed o Gymru, sy’n byw dim ond 10 munud oddi wrth ei gilydd, am eu gwasanaeth a'u gwaith hollbwysig yn dorwyr cod yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dim ond yn ddiweddar y gwnaeth Kath Morris a Gwenfron Picken ddarganfod bod y ddwy ohonynt wedi gweithio yn y cyfleuster cuddwybodaeth cyfrinachol, Parc Bletchley. Roedd y cyn-filwyr yn rhan o dîm a oedd yn dadgodio dulliau cyfathrebu’r gelyn, a wnaeth helpu i gwtogi hyd y rhyfel ac achub llawer o fywydau. Ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, arhosodd eu gwaith yn gyfrinachol am ddegawdau.
Daeth Kath o Gastell-nedd a Gwenfron o Bort Talbot at ei gilydd mewn eglwys leol i rannu â'i gilydd ac Eluned Morgan atgofion am eu hamser ym Mharc Bletchley. Daw’r achlysur o dalu teyrnged iddynt am eu hymdrechion yn ystod y rhyfel cyn diwrnod VE a gynhelir ar 8 Mai, sef y diwrnod a nododd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop ar ôl i’r Almaen ildio yn ddiamod.
Dywedodd Kath:
”Ron i’n ddeunaw oed pan gefais lythyr i fynd i’r Swyddfa Dramor, cefais brawf teipio a chyfweliad ond doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd. Wedyn, cefais lythyr i fynd i Barc Bletchley ac fe wnes i lofnodi’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol. Fe wnes i ddadgodio’r cod morse a’i basio 'mlaen i’r person nesaf. Cogen fach mewn peiriant mawr oeddwn i. Wnes i ddim dweud wrth fy ngŵr am fy swydd tan flynyddoedd yn ddiweddarach.”
Dywedodd Gwenfron:
“Ron i’n ddeunaw oed pan gefais i fy ngalw am gyfweliad ac fe wnaethon nhw ofyn imi beth oeddwn i eisiau ei wneud i helpu ymdrech y rhyfel, fe wnes i ateb fy mod eisiau bod yn nyrs ond cefais lythyr yn dweud bod angen imi fynd i Lundain am gyfweliad. Ar ôl hynny, fe wnaethon nhw ddweud wrtha i am fynd i Barc Bletchley lle wnes i ddechrau ar fy ngwaith. Rwy’n falch iawn o’m gwasanaeth, fe wnes i ffrindiau yno a ches i ddyrchafiad yn ystod fy amser ym Mharc Bletchley.”
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
“Mae’n anrhydedd cael cyfarfod â’r menywod anhygoel yma yr oedd eu gwaith ym Mharc Bletchley yn hanfodol i’n hymdrechion yn ystod y rhyfel.”
“Mae eu stori nhw yn ein hatgoffa ni o nifer yr arwyr nad ydyn nhw wedi cael clod ac a wasanaethodd yn ddistaw am ddegawdau.”
“Mae Kath a Gwenfron yn cynrychioli’r gorau o gyfraniad Cymru tuag at ymdrech y rhyfel.”