Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog, yn cyfarfod gwleidyddion ac arweinwyr busnes yn Efrog Newydd, Washington, Philadelphia a Montreal yr wythnos hon i gyflwyno Cymru fel man ardderchog i gynnal busnes.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr ymweliad yn canolbwyntio ar roi hwb i fasnach a buddsoddiad rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.

Yr Unol Daleithiau yw mewnfuddsoddwr mwyaf Cymru, gyda 270 o gwmnïau dan berchnogaeth yr UDA wedi'u lleoli yng Nghymru, yn cyflogi bron i 50,000 o bobl. Llynedd, llwyddodd Cymru i sicrhau buddsoddiad gan 24 o gwmnïau dan berchnogaeth Americanaidd a fydd yn creu a diogelu bron i 1,500 o swyddi.

Ar ben hynny, yr Unol Daleithiau yw un o brif bartneriaid masnach Cymru. Mae gwerth allforion Cymru i'r UDA yn parhau i godi, ac roedd werth £2.1 biliwn i economi Cymru yn 2016.

Yn ystod yr wythnos, bydd y Prif Weinidog yn cwrdd â chwmnïau'r UDA a Chanada sydd â phresenoldeb yng Nghymru. Bydd hefyd yn trafod cysylltiadau masnach a busnes gyda chynrychiolwyr gwleidyddol.

Ddydd Mercher, bydd y Prif Weinidog yn annerch y Cenhedloedd Unedig am ei ymrwymiad i sicrhau cydraddoldeb rhywiol a hawliau menywod. Bydd hefyd yn cyfarfod â Hillary Clinton i drafod sut y gellid cryfhau cysylltiadau rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.

Bydd y Prif Weinidog  yn cynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Capitol Hill ar gyfer y prif fuddsoddwyr ac unigolion blaenllaw ym myd gwleidyddiaeth, ynghyd â digwyddiad yn Efrog Newydd - yng nghwmni'r actor Luke Evans - i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan boblogaidd i dwristiaid.

Cyn yr ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"America yw partner busnes pwysicaf Cymru, ac rwy' am adeiladu ar y cysylltiadau masnach cryf sy'n bodoli rhwng ein dwy wlad wrth i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

"Yn ystod fy ymweliad, fe hoffwn i gael gwell dealltwriaeth o safbwynt yr Unol Daleithiau am drefniadau masnach gyda'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ac fe fyddaf yn pwyso dros ddatblygu cytundeb masnach rydd rhwng ein gwledydd.

"Mae cyfleoedd cyffrous i fasnachu â Gogledd America o'n blaen ac, wrth drafod â busnesau a gwleidyddion America, fe fyddaf yn pwysleisio eto ein hymrwymiad i roi hwb i fasnach rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.

"Wrth i Gymru a'r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, hoffwn i sicrhau buddsoddwyr ac ymwelwyr o'r Unol Daleithiau bod Cymru'n parhau i fod yn wlad agored a chroesawgar."