Adroddiad gan y Pwyllgor Lles Anifeiliaid (AWC) ar les ieir dodwy mewn systemau cynhyrchu nad ydynt yn gewyll.
Manylion
Prif amcanion y cyngor yw:
- llywio penderfyniadau polisi'r llywodraeth ar unrhyw broses i ddiwygio systemau cynhyrchu ieir dodwy
- llywio trafodaethau y llywodraeth â'r diwydiant wrth ystyried yr opsiynau gorau ar gyfer lles anifeiliaid
- darparu cyngor sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar wella lles mewn systemau cynhyrchu wyau nad ydynt yn gewyll tra'n cydnabod materion lles cysylltiedig
Gofynnwyd i AWC:
- asesu sut y gellir diogelu a gwella lles ieir dodwy mewn systemau cynhyrchu nad ydynt yn gewyll, ysguboriau a maes (gan gynnwys organig), wrth i gynhyrchu symud i ffwrdd o'r defnydd o gewyll
- ystyried sut y gellid gwella lles cywenod sydd wedi'u bwriadu ar gyfer systemau nad ydynt yn gewyll i hwyluso'r trawsnewidiad rhwng yr amgylcheddau magu a dodwy
- ystyried lles ieir dodwy maes sydd angen eu lletya oherwydd clefydau. A pha liniariadau y gellid eu rhoi ar waith i ddiogelu lles yn y senario hwnnw
Mae'r argymhellion gan AWC wedi'u cynnwys yn Barn a byddant yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.
