Neidio i'r prif gynnwy

Mae deddfau wedi'u creu i helpu i leihau cynhesu byd-eang ac arafu'r newid yn yr hinsawdd. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru wneud ei rhan i leihau'r nwyon tŷ gwydr yn y Deyrnas Unedig i sero erbyn 2050. "Sero net" yw ein henw ar y targed hwn. 

Cartrefi pobl yw un o ffynonellau mwyaf nwyon tŷ gwydr. Mae angen i'r llywodraeth greu cynlluniau felly fel bod cartrefi pawb yn allyrru llai o nwyon tŷ gwydr. Byddwn yn defnyddio'r gair 'allyriadau' i ddisgrifio hyn yn y ddogfen hon ond yr hyn rydym wir yn siarad amdano yw pa mor effeithiol yw'ch cartref o ran defnyddio ynni - faint o nwy a thrydan y mae'n ei ddefnyddio a faint o wres sy'n dianc ohono. 

Mae Llywodraeth Cymru'n casglu data personol amdanoch i helpu i greu cynlluniau i wneud yn siŵr bod Cymru'n sero net erbyn 2050. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda phartneriaid fel landlordiaid (gan gynnwys eich landlord chi) i ddeall sut orau i addasu'ch cartref i'w wneud yn fwy ynni effeithiol. Yr enw ar y prosiect yw Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio | LLYW.CYMRU.

Fe welwch yn y ddogfen hon bopeth sydd ei angen ichi wybod ynghylch sut mae'r synwyryddion yn eich cartref yn casglu gwybodaeth am ynni'ch cartref. Maen nhw'n monitro ynni ac amgylchedd eich cartref i ddeall pa mor effeithiol y mae'n defnyddio ynni, gan gynnwys faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. Unig ddiben yr wybodaeth hon yw i: 

  • fonitro'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a chyfrannu ati 
  • monitro perfformiad y gwelliannau sy'n cael eu gwneud i'ch cartref i weld a ydyn nhw'n gwneud gwahaniaeth 
  • helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau sy'n mynd â Chymru'n nes at ein targedau sero net. 

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am unrhyw beth yn y ddogfen hon, cysylltwch â Llywodraeth Cymru drwy OptimisedRetroFitProgramme@gov.cymru a byddwn yn hapus i drafod y mater gyda chi. 

Efallai y bydd angen newid y ddogfen hon o bryd i'w gilydd ond bydd copi o'r fersiwn ddiweddaraf wastad ar we-dudalen ORP Llywodraeth Cymru. 

Pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu amdanoch chi a pham

Byddwn yn casglu'ch enw a'ch cyfeiriad, ond cyn eu rhoi i Lywodraeth Cymru, byddwn yn rhoi 'rhif adnabod unigryw' yn eu lle. Mae hynny'n golygu na fydd Llywodraeth Cymru yn gweld eich enw na'ch manylion cysylltu. Llywodraeth Cymru fydd rheolydd unrhyw ddata personol y byddwch yn eu darparu wedyn a bydd yn ei brosesu yn unol â’i thasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol sydd wedi'i rhoi iddi. Bydd eich landlord hefyd yn cael gweld eich data personol gan mai nhw fydd yn rhoi'r data hwn i Lywodraeth Cymru. 

Mae llawer o'r wybodaeth a gesglir yn ymwneud â'r cartref ei hun - pa fath o gartref yw e, ble mae e, ac ati. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data sy'n cael ei gasglu trwy'r offer a'r systemau fydd wedi'u gosod yn eich cartref i fonitro faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio. Bydd hyn yn dangos a yw'r offer a'r systemau yn lleihau allyriadau ac a ddylai Llywodraeth Cymru osod y systemau hynny mewn cartrefi eraill. 

Bydd y data a gasglwn am eich cartref a'ch defnydd o ynni (gwresogi, dŵr twym ac ati ac ym mha stafelloedd y mae'r ynni'n cael ei ddefnyddio) yn cael ei gyfuno â data o gartrefi eraill at ddiben ymchwil (er enghraifft, i ddeall faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio mewn grŵp o gartrefi ar un stryd). Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i: 

  • helpu Llywodraeth Cymru i ddeall effaith cartrefi ar allyriadau yng Nghymru ac i wneud penderfyniadau am ddyfodol cartrefi yng Nghymru 
  • helpu Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid, fel landlordiaid, i benderfynu pa offer y gellir eu rhoi mewn cartrefi i leihau allyriadau a chaniatáu i'r partneriaid baratoi adroddiadau ar hyn i Lywodraeth Cymru 
  • cynnal ymchwil i ddeall yr allyriadau sy'n dod o gartrefi mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru. 

Sut byddwn yn casglu’ch data

Monitro 

Drwy'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, mae Llywodraeth Cymru yn helpu landlordiaid i dalu am welliannau i gartrefi yng Nghymru. Mae'r gwelliannau hyn yn helpu i leihau ôl troed carbon cartrefi trwy, er enghraifft: 

  • osod inswleiddio 
  • gwella drysau a ffenestri 
  • gosod technoleg newydd fel paneli trydan solar neu bympiau gwres. 

Gyda rhan o'r cymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru, gofynnir i'ch landlord osod Synwyryddion i fonitro perfformiad y gwelliannau y bydd wedi'u gwneud. Drwy hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu casglu data sy'n dangos sut mae'r gwelliannau i'r cartref yn gweithio mewn amser real yn hytrach na dibynnu ar welliannau a ragwelir. Bydd y data yn ein helpu i benderfynu ar bolisïau'r dyfodol o ran ôl-osod cartrefi ledled Cymru. 

 phwy y byddwn yn rhannu'ch data personol

Sefydliadau fel y Grid Cenedlaethol, OFGEM, SPEN a chwmnïau eraill yn y maes ynni, er mwyn gallu cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadau, a rhannu gwybodaeth er mwyn i'r cwmnïau hyn allu ymchwilio i sut mae'r mesurau ynni-effeithlon yn eich cartref yn gweithio. 

Pwy fydd yn prosesu'ch data

Mae sefydliadau eraill yn helpu gyda'r prosiect trwy brosesu data. Yn eu plith y mae'ch landlord, sefydliadau sy'n gweithio ar ran eich landlord (e.e. y gwahanol frandiau o Synwyryddion sy'n cael eu defnyddio gan landlordiaid ac sy'n bodloni manyleb Synwyryddion yr ORP), a TrustMark sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect. 

Am faint y byddwn ni'n cadw'ch data

Bydd Llywodraeth Cymru ac unrhyw bartneriaid yn y prosiect yn cadw'ch data personol am 5 mlynedd ar ôl ei dderbyn. Ar ôl hynny bydd yn cael ei ddileu. 

Eich hawliau

Mae gennych hawliau dan y gyfraith diogelu data, gan gynnwys: 

  • i gael copi o'r data personol sydd gennym amdanoch chi 
  • i fynnu bod y rheolydd data a enwir uchod yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yn eich data personol 
  • o dan rai amgylchiadau, i wrthwynebu'r ffordd y mae'ch data'n cael ei brosesu 
  • o dan rai amgylchiadau, i ofyn i'ch data gael ei 'ddileu'. 

Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am unrhyw beth yn y ddogfen hon, gallwch gysylltu â ni yn Llywodraeth Cymru drwy RhaglenOlosodErMwynOptimeiddio@llyw.cymru a byddwn yn hapus i drafod y mater gyda chi.

I gael gwybod rhagor am yr wybodaeth a gedwir amdanoch gan Lywodraeth Cymru a’r defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru 

Os nad ydych yn hapus â sut mae eich data personol yn cael eu prosesu, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy'n rheoleiddio diogelu data yn y DU – ond cysylltwch â ni yn gyntaf, gan y byddwn bob amser yn ceisio datrys unrhyw faterion neu bryderon. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 (pris galwad lleol)