Neidio i'r prif gynnwy

Mae gweithwyr y GIG wedi cyflawni’r lleihad misol mwyaf o ran maint y rhestr aros, wrth inni weld yr amser y mae pobl yn aros am driniaeth yn gostwng i’w lefel isaf yn ystod cyfnod o bron i 6 blynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r ffigurau diweddaraf o ran amseroedd aros, a gyhoeddir heddiw, yn dangos bod yr amser aros cyfartalog am driniaeth bellach tua 18 wythnos, i lawr o 23 o wythnosau ym mis Awst 2024 a’r isaf ers dechrau’r pandemig.

Maent hefyd yn dangos:

  • y lleihad misol mwyaf o ran maint y rhestr aros ym mis Ionawr 2026, i lawr 27,900
  • dyma’r 8th mis yn olynol y mae’r rhestr aros wedi lleihau, y cyfnod mwyaf parhaus o hynny’n digwydd ar gofnod
  • mae’r rhestr aros bellach ar ei lefel isaf ers mis Ebrill 2022

Mae arosiadau hir o fwy na 2 flynedd yn parhau i ostwng. Rhwng mis Awst 2024 a mis Ionawr 2026, gwelwyd nifer y llwybrau yn lleihau 19,000.

O ganlyniad i newidiadau i wneud y GIG yn fwy cynhyrchiol, a hynny gyda chymorth cyllid ychwanegol gwerth £120 milliwn gan Lywodraeth Cymru eleni, mae byrddau iechyd hefyd hyd yma wedi cyflawni 187,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol a 37,000 o lawdriniaethau cataract, ffigur sy’n torri pob record.

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, yn ymweld â’r uned llawfeddygaeth ddydd yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli, i weld sut y mae cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i fynd i’r afael ag amseroedd aros. Mae llai nag 1% o lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf neu 2 flynedd am driniaeth.

Dywedodd:

Mae’r set hon o ffigurau, sy’n torri sawl record, yn dangos pa mor galed mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gweithio. Mae byrddau iechyd yn cynnal mwy o apwyntiadau cleifion allanol, a hynny gyda’r nos ac ar benwythnosau, yn ogystal â chyflawni mwy o lawdriniaethau gan gynnwys llawdriniaethau cataract - ffyrdd newydd o weithio, i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld a’u trin yn gynt.

Mae’r rhestr aros wedi lleihau am yr wythfed mis yn olynol, sy’n lleihad sylweddol newydd ar gofnod, ac mae’r arosiadau hiraf hefyd wedi gostwng. Mae hyn yn gynnydd go iawn i bobl yng Nghymru. 

Rydyn ni’n benderfynol o barhau i ostwng amseroedd aros ac rwy’n disgwyl gweld gwelliannau sylweddol pellach yn yr wythnosau sydd i ddod er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, pan fydd ei angen arnyn nhw.

Ym mis Chwefror, gwnaeth y gwasanaeth ambiwlans gofnodi ei amser ymateb gorau ar gyfer pobl sy’n profi ataliad y galon neu ataliad anadlol ers cyflwyno’r model newydd ym mis Gorffennaf, sef 6 munud a 50 eiliad.

Mae’r amser a gymerir i drosglwyddo cleifion o ambiwlansys hefyd yn gwella ac ym mis Chwefror, gwelwyd llai o oedi wrth drosglwyddo cleifion i adrannau achosion brys ysbytai. Mae’r ffigurau’n dangos bod yr amser a dreuliwyd wrth drosglwyddo cleifion yn ddiogel i adrannau achosion brys wedi gostwng 21% o gymharu â mis Chwefror y llynedd. Cyfrannodd hyn at welliant o 38 o funudau ar gyfartaledd wrth ymateb i gleifion yn y categori oren, gan gynnwys y rhai a oedd yn profi strôc neu drawiad ar y galon.

Mae’r GIG yn parhau i wynebu pwysau’r gaeaf, gan gynnwys galw uchel parhaus am ofal mewn argyfwng. Roedd nifer y rhai a aeth i adrannau achosion brys ym mis Chwefror yr ail uchaf ar gofnod ar gyfer y mis hwnnw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio wrth fyrddau iechyd a phartneriaid bwysigrwydd canolbwyntio’n barhaus ar lif cleifion, rhyddhau cleifion o’r ysbyty a chapasiti cymunedol er mwyn helpu i wella profiad ac ansawdd gofal mewn argyfwng.