Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ddiogelu adnoddau naturiol y môr a chymunedau arfordirol rhag pysgota anghyfreithlon yn nyfroedd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae nifer o erlyniadau am bysgota anghyfreithlon wedi'u gwneud ers mis Ionawr, a hynny yn sgil achosion o bysgota mewn ardaloedd caeedig, peidio â chyflwyno gwybodaeth statudol, a physgota cocos a chregyn moch yn anghyfreithlon.

Mae'r moroedd o amgylch Cymru yn llawn cyfoeth o rywogaethau a chynefinoedd o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi'u diogelu o dan gyfraith Cymru, y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Mae'r adnoddau naturiol hyn a'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu yn hanfodol i helpu ein cymunedau arfordirol i ffynnu drwy bysgota a thwristiaeth, ac maen nhw hefyd o arwyddocâd diwylliannol pwysig.

Mae mynd ati i ddefnyddio’r adnoddau'n ddirwystr yn gallu arwain at arferion anghynaliadwy sy'n gallu achosi difrod a dirywiad. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn rheoleiddio pysgota a gweithgareddau eraill yn nyfroedd morol Cymru yn agos. Drwy ddefnyddio nifer o asedau, gan gynnwys llongau patrôl pysgodfeydd, mae swyddogion gorfodi morol Llywodraeth Cymru yn gorfodi ac yn ceisio sicrhau cydymffurfiaeth ag ystod eang o reoliadau ar y môr ac ar y tir.

Caiff erlyniadau o dan ddeddfwriaeth pysgodfeydd yng Nghymru eu cyflwyno yn enw'r Cwnsler Cyffredinol.

Dywedodd Jeremy Miles,

"Mae pysgota anghyfreithlon yn niweidio'r diwydiant pysgota, sy’n werth dros £150 miliwn i economi Cymru. Mae mynd ati i ddefnyddio’r adnoddau'n ddirwystr yn gallu arwain at arferion anghynaliadwy sy'n gallu lleihau’r stociau pysgota ac achosi difrod i economïau lleol.

"Os oes digon o dystiolaeth yn erbyn y rheini sy'n diystyru'r gyfraith, mae'n rhaid inni weithredu er mwyn diogelu ein moroedd a'n diwydiant pysgota yn ehangach. Mae'r euogfarnau diweddaraf hyn yn dangos y dylai unrhyw un sy'n torri'r gyfraith ar y môr neu yn yr ardaloedd rhynglanwol ddisgwyl cael ei erlyn a wynebu dirwyon difrifol.

"Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fynd i'r afael â gweithgarwch anghyfreithlon er mwyn i'r diwydiant barhau'n gynaliadwy i bysgotwyr trwyddedig."