Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r diwydiant awyrofod yng Nghymru yn dangos y gallu i arloesi, yr arbenigedd a'r uchelgais sydd ei angen i fod yn flaenllaw wrth sicrhau dyfodol carbon isel i'r diwydiant awyrofod, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yn ystod ymweliad â Sioe Awyr Paris, ble y bydd cwmnïau o Gymru megis Compact Orbital Gears, Denis Ferranti, Faun Trackway, Tritech Group, Qioptiq a Winslow Adaptics yn arddangos eu technoleg diweddaraf,  roedd y Gweinidog yn awyddus iawn i weld drosto'i hun sut y mae Cymru yn arwain y gwaith sy'n cael ei wneud ar leihau carbon o fewn y sector.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

"Mae Sioe Awyr Paris yn ddigwyddiad amlwg iawn, gyda chwmnïau ledled y byd yn arddangos y dechnoleg sy'n cadw pobl, nwyddau ac economïau i symud.

"Yr hyn sy'n drawiadol am Sioe Awyr eleni yw nid yn unig y teimlad cryf o'r angen i edrych sut y gall y diwydiant leihau ei allyriadau carbon dros y blynyddoedd nesaf, ond hefyd i ba raddau y mae'r cwmnïau o Gymru yn benodol wedi datblygu eu gallu i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn.

"Mae nifer o welliannau diweddar mewn technoleg wedi sicrhau bod awyrennau yn fwy effeithiol, ac mae ffatri Airbus ym Mrychdyn yn dystiolaeth o hyn. Gyda'u hadenydd cyfansawdd, a blaen 'sharklet', a chanolfan catapwlt AMRC Cymru, yn helpu rhaglen Adenydd Yfory Airbus sydd i agor ym mis Medi, dyma'r datblygiadau technolegol, sydd wedi digwydd yng Nghymru, sy'n barod i wneud newid mawr yn fyd-eang.

“Mae rhagor o dystiolaeth i hyrwyddo datgarboneiddio o fewn y sector awyrofod yng Nghymru i'w weld ym Maes Awyr Caerdydd, ble yn 2018, y bydd y Maes Awyr yn lleihau eu defnydd o drydan 7%, lleihau allyriadau carbon 15% a chyflwyno cerbydau trydan i'w gweithrediadau o ddydd i ddydd.

Sioe Awyr Paris yw'r digwyddiad Awyrofod mwyaf yn y byd, a bydd presenoldeb Llywodraeth Cymru yn helpu i gefnogi cwmnïau sydd eisoes yn Nghymru i sicrhau mwy o fusnes allforio mewn marchnad fyd-eang ac i hyrwyddo Cymru fel lleoliad o'r safon uchaf ar gyfer buddsoddi.