Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, fod £2.4 miliwn ar gael ar gyfer 26 o brosiectau ar draws Cymru a fydd yn gwella profiadau i ymwelwyr â Chymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyllid wedi’i gynnig drwy’r cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth. Nod y cyllid yw ariannu prosiectau seilwaith bach (amwynderau i ymwelwyr) yn sector twristiaeth Cymru, gan dargedu sefydliadau cyhoeddus, y trydydd sector a sefydliadau dielw.  Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae’r cyllid wedi’i neilltuo ar gyfer prosiectau seilwaith ledled Cymru i wella amwynderau ar gyfer ymwelwyr yn ogystal a phrosiectau a fydd yn datblygu cyrchfannau o safon uchel.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Mae cynllun y Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth yn ffordd ardderchog inni helpu’r sector twristiaeth i wella cyfleusterau ac amwynderau lleol.  Yn aml, ni roddir fawr o sylw iddyn nhw, ond maen nhw’n cyfrannu’n sylweddol at brofiadau ymwelwyr â Chymru a’r argraff sy’n cael ei chreu o’r wlad. Bydd pobl leol hefyd yn elwa arnyn nhw.  

“Mae’r cyllid wedi darparu cyfle gwych i bartneriaid lleol bennu grŵp o brosiectau a all wneud gwahaniaeth.  Mae ymwelwyr yn disgwyl i bob agwedd ar eu hymweliad fod o’r ansawdd gorau, gan gynnwys llety, gwybodaeth, toiledau a meysydd parcio. Mae rheoli’n cyrchfannau twristiaeth yn allweddol os rydyn ni am barhau i ddarparu profiadau o ansawdd uchel i ymwelwyr yn unol â’n huchelgeisiau strategol. Mae darparu’r cyllid hwn yn cyfrannu at greu cyrchfannau gwell.”

Mae’r prosiectau yn cynnwys gwella llwybrau beiciau; gwella mynedfeydd a chyfleusterau traethau baner las; darparu lleoedd parcio i ymwelwyr ac arwyddion a thoiledau cyhoeddus. Bydd y prosiectau hefyd yn bodloni blaenoriaethau lleol a rhanbarthol yn ogystal â blaenoriaethau cenedlaethol. 

Dyma rai enghreifftiau penodol: 

  • Cyngor Sir Gwynedd – Gwella maes parcio ar gyfer coetsys a gwella cyfleusterau (£40,792). Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae tua £6 miliwn wedi’u buddsoddi yng Nghastell Harlech a’i gyffiniau. O ganlyniad, mae nifer yr ymwelwyr wedi codi 35% i 102,000 ers 2014/15. Fodd bynnag, mae safon y lle parcio a’r cyfleusterau toiled yn israddol. Mae hyn yn effeithio ar fodlonrwydd cwsmeriaid, ac mae diffyg cyfleusterau parcio i goetsys wedi sicrhau nad yw llawer o gwmnïau teithio yn fodlon ymweld â Harlech.
  • Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd – Creu maes parcio newydd i ymwelwyr (Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte). Ers i Draphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ddod yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2009, mae nifer yr ymwelwyr yn yr ardal wedi codi 70%. Basn Trefor, sy’n ffinio â Thraphont Ddŵr Pontcysyllte, yw un o’r prif ganolfannau ar gyfer pobl sy’n ymweld â’r safle treftadaeth sy’n denu dros 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. 
  • Cyfoeth Naturiol Cymru – Gwaith Celf yn seiliedig ar lwybrau arfordirol ar gyfer Blwyddyn y Môr (£32,000). I dynnu sylw at lwybrau arfordir Cymru yn ystod Blwyddyn y Môr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru am gomisiynu gwaith celf a fydd yn denu sylw’r cyhoedd ac yn adlewyrchu statws unigryw prif lwybrau cerdded Cymru. 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot – Pontneddfechan, Gwlad y Sgydau (£88,822). Ar hyn o bryd, nid oes lle parcio ffurfiol ac mae ceir yn parcio ar hyd y stryd fawr sy’n arwain i’r pentref.  Nod y prosiect yw creu tua 43 o leoedd parcio wrth y ganolfan i ymwelwyr ym Mhontneddfechan,  gan greu mwy o leoedd parcio na’r ddarpariaeth bresennol a darparu cyfleusterau parcio mwy diogel. Dylai hyn wella’n sylweddol brofiadau ymwelwyr a sicrhau ymweliadau hirach. 

Mae pob sefydliad wedi cael llythyr yn cynnig y cyllid drwy gynllun y Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth. Derbynnir y cynigion hyn yn ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf a rhoddir cynllun prosiect ar waith gyda’r awdurdod rheoli perthnasol.