Y Sefydliad Rheoli Ernes (SRE): canllaw ffurflen gais
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r wybodaeth angenrheidiol i ddangos bod yr ymgeisydd/ymgeiswyr yn gymwys ar gyfer swydd SRE dynodedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair y Gweinidog
Ar 10 Gorffennaf 2025, nododd y Dirprwy Brif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, y camau nesaf ar gyfer cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes (CDE) i Gymru.
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid ar draws y diwydiant diodydd, manwerthu, sectorau deunyddiau, sefydliadau amgylcheddol, a llywodraethau datganoledig a’r DU. Mae’n ail-gadarnhau ymrwymiad Cymru i CDE sy’n darparu buddion pendant i’r genedl wrth sicrhau rhyngweithrededd â gweddill y DU.
Bydd Cymru’n cyflymu ei hamserlen weithredu i gyd-fynd â’r lansiad ar draws y DU ym mis Hydref 2027, gan leihau cymhlethdod gweithredol a chostau. Yn allweddol, bydd gwydr yn parhau i fod yn rhan o’r cynllun, gan alluogi Cymru i arwain y ffordd wrth ymgorffori ailddefnyddio fel elfen graidd o’r cychwyn cyntaf.
Gyda hanes balch fel ail wlad orau yn y byd am ailgylchu, mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i adeiladu ar y llwyddiant hwn a symud y tu hwnt i ailgylchu tuag at economi gylchol. Bydd CDE Cymru’n ategu’r ymdrechion presennol gan gartrefi, busnesau a chynghorau lleol, gan ddysgu o arferion gorau byd-eang lle mae ailddefnyddio eisoes yn darparu buddion pendant.
Bydd y Sefydliad Rheoli Ernes (SRE) yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r diwydiant i gyflwyno cynllun uchelgeisiol, ymarferol ac addas ar gyfer y dyfodol – gan gefnogi busnesau bach, mynd i’r afael â sbwriel (gan gynnwys gwydr wedi torri, sy’n parhau i fod yn bryder diogelwch sylweddol), a rhyddhau buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Mae’r dull hwn yn cadarnhau arweinyddiaeth Cymru ym maes cynaliadwyedd ac yn sicrhau bod y CDE yn cyfrannu at fodel “Darparu’r Gorau i Gymru”, gan feithrin lles ac effeithlonrwydd adnoddau fel rhan o drawsnewid y genedl i economi gylchol.
Huw Irranca-Davies AS
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Adran A
1. Cyd-destun
1.1 Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r wybodaeth angenrheidiol i ddangos bod yr ymgeisydd/ymgeiswyr yn gymwys ar gyfer swydd SRE dynodedig, gan gyflawni meini prawf cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, a bodloni Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
1.2 Datblygwyd canllawiau hefyd y dylid eu darllen wrth gwblhau’r ffurflen hon.
1.3 Mae 4 rhan i’r ddogfen hon, a rhaid i’r holl wybodaeth ofynnol gael ei chwblhau’n llawn cyn cyflwyno’r ffurflen derfynol.
1.4 Rhaid i gais a gyflwynir gynnwys y canlynol:
- Yr holl wybodaeth a nodir yn Adran B.
- Yr holl wybodaeth a nodir yn Adran C.
- Yr holl wybodaeth a nodir yn Adran D.
- Yr holl wybodaeth a nodir yn Adran E.
2. Cefndir y Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru
2.1 Ledled Cymru, amcangyfrifir bod defnyddwyr yn prynu 1.45 biliwn o gynwysyddion diodydd defnydd untro bob blwyddyn, gan gynnwys 0.55 biliwn o boteli diodydd plastig PET, 0.65 biliwn o ganiau diodydd a 0.25 biliwn o boteli gwydr.
Canfu arolygon Cadwch Gymru’n Daclus lefelau uchel o sbwriel sy’n gysylltiedig â diodydd ar 43.6% o strydoedd, gyda’r lefelau mewn siroedd unigol yn amrywio’n sylweddol o 19.4% o strydoedd i 86.1%. Yn ogystal â pheri risg i bobl, anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt, mae sbwriel yn ddrud i’w glirio ac mae’n amharu ar ba mor ddeniadol yw ein cymunedau
Mae nifer y poteli gwydr ar strydoedd Cymru wedi mwy na dyblu dros y pedair blynedd diwethaf (5.2% bellach) gyda photeli gwydr wedi torri ar 3.6% o strydoedd a digon o wydr wedi torri i greu perygl penodol ar 1.7% o strydoedd [System Archwilio a Rheoli Amgylcheddol Lleol (LEAMS) 24/25].
2.2 Mae’r Cynllun Dychwelyd Ernes yn cynnig system sy’n ychwanegu ernes fach i gynhwysydd diodydd ar adeg ei werthu a gaiff ei ad-dalu wedyn pan gaiff y cynhwysydd ei ddychwelyd. Bydd hyn fel arfer naill ai i fan dros y cownter neu beiriant gwerthu gwrthdro, er bod y treial Cynllun Dychwelyd Ernes digidol cyntaf yn y byd wedi’i gynnal yng Nghymru fel rhan o’r gwaith hwn, a allai olygu y gellir adennill ernes gartref, gydag eitemau yn cael eu dychwelyd drwy system casglu deunydd ailgylchadwy ar garreg y drws.
2.3 Yn y bôn, mae’r Cynllun Dychwelyd Ernes yn cynnig ffordd o hwyluso’r broses o gasglu’r cynwysyddion diodydd (drwy ernes y gellir ei hadennill) y gellir wedyn eu hailgylchu neu, yng nghynlluniau gorau’r byd, eu hailddefnyddio. Yr ail yw’r opsiwn mwyaf cynaliadwy a chost-effeithiol o bell ffordd.
2.4 Yn ogystal â chefnogi prosesau ailgylchu ac ailddefnyddio, drwy fwydo’r cynwysyddion neu eu hailgylchu yn ôl i’r economi, mae’r cynllun yn cefnogi’r broses o ddatgarboneiddio’r diwydiannau hynny ac, ochr yn ochr, dangoswyd bod hyn yn effeithiol hefyd mewn cynlluniau rhyngwladol wrth atal sbwriel sy’n gysylltiedig â defnyddio cynhyrchion wrth fynd.
2.5 Bydd cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru yn annog newid o’r diwylliant taflu i ffwrdd drwy roi gwerth ariannol i gynwysyddion diodydd gwag. Mae Cynlluniau Dychwelyd Ernes hefyd yn ddull a brofwyd yn rhyngwladol o ailgylchu ac ailddefnyddio cynwysyddion diodydd.
2.6 Bydd Cynllun Dychwelyd Ernes yn gwella argaeledd deunyddiau ailgylchadwy o ansawdd uchel ac yn hyrwyddo cylcholrwydd cynwysyddion diodydd gan felly greu system ailgylchu ar ffurf dolen gaeedig ar gyfer poteli a chaniau.
2.7 Yn ogystal â gwella ansawdd a swm deunydd ailgylchu, profwyd bod Cynllun Dychwelyd Ernes hefyd yn lleihau sbwriel mewn cymunedau ac yn ailgyfeirio’r deunydd oddi wrth systemau gwastraff gweddilliol.
2.8 Yn unol â’r polisïau ehangach a nodir yn strategaeth Llywodraeth Cymru, Mwy nag Ailgylchu, mae’r Cynllun Dychwelyd Ernes yn gam allweddol yn ein hymrwymiad i symud tuag at economi fwy cylchol sy’n sicrhau y gellir parhau i ddefnyddio adnoddau a deunyddiau cyhyd ag y bo modd ac osgoi unrhyw wastraff.
2.9 Bydd y cynllun yn rhoi’r cyfle i sicrhau mwy o dwf gwyrdd yng Nghymru, gan gynnwys swyddi gwyrdd i ddinasyddion Cymru.
2.10 Bydd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn helpu i gefnogi’r broses o drawsnewid i ailddefnyddio pob cynhwysydd diodydd, gan gynnwys rhai wedi’u gwneud o wydr.
3. Y Sefydliad Rheoli Ernes (SRE)
3.1 Bydd Sefydliad Rheoli Ernes Cymru yn gweithredu fel gweinyddwr y Cynllun Dychwelyd Ernes.
3.2 Nid yw rheoliadau’r Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer Cymru yn sefydlu’r Sefydliad Rheoli Ernes fel corff statudol; yn hytrach, bydd yn penodi swyddogaethau i endid cyfreithiol a benodwyd gan Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
3.3 Ni chaiff yr endid ei wahardd rhag cyflawni swyddogaethau eraill ar wahân i’w swyddogaethau fel y Sefydliad Rheoli Ernes, ond fel mater o ymarferoldeb mae’n debygol y bydd ymgeiswyr o bosibl yn sefydlu cwmni neu endid arall sy’n anelu’n benodol at gyflawni swyddogaethau’r Sefydliad Rheoli Ernes.
3.4 Fel y nodwyd yn y rheoliadau, dylai’r Sefydliad Rheoli Ernes fod yn sefydliad preifat, annibynnol, nid er elw, sy’n gyfrifol am weithrediadau gweinyddol cyffredinol y Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys rheoli a goruchwylio’r deunydd a’r trafodion ariannol o fewn fframwaith y cynllun.
3.5 Gan gydnabod presenoldeb Sefydliadau Rheoli Ernes sy’n bodoli eisoes ledled y DU, mae’n hanfodol bod y cynlluniau wedi’u cynllunio i allu rhyngweithredu cymaint â phosibl. Rydym yn annog yr ymgeisydd i fabwysiadu strwythur llywodraethu a gweithredu sy’n adlewyrchu’r egwyddor hon ac sy’n dangos yn glir sut y sicrheir y gellir rhyngweithredu â chynlluniau eraill yn y DU.
Yn benodol, rhaid i’r ymgeisydd nodi cynigion i wneud y canlynol:
- Sicrhau cydweithrediad effeithiol â Sefydliadau Rheoli Ernes eraill sy’n gweithredu Cynlluniau Dychwelyd Ernes yn y DU.
- Hwyluso’r broses o ddychwelyd cynwysyddion o fewn y cwmpas a brynwyd mewn un rhan o’r DU mewn rhan arall, gan gynnig profiad di-dor i ddefnyddwyr.
3.6 Cefnogi’r broses o gofrestru cynhyrchwyr a mewnforwyr cynwysyddion o fewn y cwmpas ar gyfer marchnad y DU, gan sicrhau cysondeb ac effeithlonrwydd ar draws ffiniau.
3.7 Fel sefydliad nid-er-elw, caiff y Sefydliad Rheoli Ernes ei fandadu i ddefnyddio ei gyllid yn gyfan gwbl ar gyfer ei amcanion ac ni all ddosbarthu incwm, cyfalaf a difidendau i aelodau, cyfarwyddwyr na swyddogion.
3.8 Bydd yn ofynnol gennym i’r Sefydliad Rheoli Ernes fod yn atebol am gyflawni’r targedau casglu y cyfeiriwyd atynt yn Offeryn Statudol Cynllun Dychwelyd Ernes i Gymru ar gyfer y deunyddiau sydd o fewn cwmpas y Cynllun Dychwelyd Ernes.
3.9 Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fydd rheoleiddiwr y Sefydliad Rheoli Ernes yng Nghymru a bydd yn rheoli cydymffurfiaeth y Sefydliad â rheoliadau Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru, amodau penodi’r Sefydliad a’r Cynllun Gweithredol.
3.10 Rhaid cyflwyno Cynllun Gweithredol drafft fel rhan o’r cais hwn a bydd CNC yn adolygu Cynllun Gweithredol wedi’i ddiweddaru bob blwyddyn o adeg y penodiad. Fel y rheoleiddiwr ac yn unol â’r Rheoliadau, bydd yn ofynnol i CNC gymryd camau gorfodi ar adegau pan fydd y Sefydliad Rheoli Ernes yn methu â chydymffurfio â’i Gynllun Gweithredol.
Adran B
4. Gwybodaeth am yr Ymgeisydd
4.1 Rhaid i’r ymgeisydd/ymgeiswyr gwblhau’r adran ganlynol fel rhan o’r cais.
4.2 Mae’n bosibl y bydd ymgeisydd yn penderfynu gwneud cais fel grŵp o gyrff corfforedig. Gallai hyn gynnwys un neu fwy o gwmnïau gwasanaeth sy’n darparu systemau TG neu wasanaethau casglu i’r Sefydliad Rheoli Ernes.
Enw’r sefydliad (gan gynnwys unrhyw enwau busnes)
Cyfeiriad cofrestredig neu gyfeiriad y brif swyddfa a chod post
Cyfeiriad ar gyfer y gwasanaeth (os yw’n wahanol i’r uchod)
Cyfeiriad e-bost
Rhif cyswllt
Rhif cofrestru’r cwmni (os yw’n gymwys)
Rhif cofrestru TAW (os yw’n berthnasol ac os yw ar gael)
Enw cyswllt
Teitl swydd
Dull hysbysu dewisol (dewiswch o leiaf un) E-bost / Post
4.3 Os bydd yr ymgeisydd yn penderfynu gwneud cais fel grŵp, rhaid iddo nodi sut y caiff y grŵp ei strwythuro, gan nodi pa endid a gynigir fel y Sefydliad Rheoli Ernes a pha wasanaethau a gefnogir gan aelodau eraill o’r grŵp.
5. Gofynion penodi a llywodraethu mewnol
5.1 Rhaid i’r Sefydliad Rheoli Ernes fod mewn bodolaeth ar y dyddiad y cyflwynir y cais i ni. Dylai’r wybodaeth a ddarperir nodi’n glir natur yr endid y mae’r ymgeisydd yn cynnig y bydd yn cyflawni rôl y Sefydliad Rheoli Ernes. Mae trefniadau llywodraethu mewnol y Sefydliad Rheoli Ernes yn allweddol er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu’n effeithiol ac yn parhau’n atebol i’w aelodau. Dylid cyflwyno unrhyw ddogfennau sefydlu sy’n rhoi gwybodaeth i’r perwyl hwn fel rhan o’r cais.
5.2 Mae angen i’r ymgeisydd nodi sut y byddai trefniadau llywodraethu’r Sefydliad Rheoli Ernes yn cael eu strwythuro, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- rôl y bwrdd a’r tîm arwain, gan gynnwys manylion aelodaeth gychwynnol yr unigolion hynny (h.y. enw’r aelod, enw’r cwmni/corff masnachu/ac ati y mae’n ei gynrychioli neu y mae’n perthyn iddo)
- dulliau adrodd a phrosesau gwneud penderfyniadau gan gynnwys hawliau pleidleisio.
5.3 Mae angen manylion ar wneud penderfyniadau yn y sefydliad hefyd, gan gwmpasu sut y gwneir penderfyniadau masnachol ac ariannol allweddol, sut y caiff risg ei rheoli a sut y caiff prosesau atebolrwydd, gwyliadwriaeth a goruchwyliaeth eu defnyddio i sicrhau proses gaffael a gweithredu lwyddiannus.
5.4 Croesewir gwybodaeth hefyd am yr arbenigedd y bydd yr uwch dîm arwain arfaethedig, gwybodaeth a drosglwyddir gan y diwydiant ac arferion gorau rhyngwladol yn ei gynnig i’r Sefydliad Rheoli Ernes.
5.5 Wrth gyflwyno’r cais, mae’r ddogfennaeth ganlynol yn ofynnol:
- manylion aelodaeth
- copïau o unrhyw gytundebau cyfranddalwyr/aelodau
- manylion uwch-reolwyr a thystiolaeth o’u haddasrwydd ar gyfer y rôl
- erthyglau a memorandwm cymdeithasu, neu ddogfennau eraill sy’n ei sefydlu, os nad yw’n gwmni cyfyngedig
- cadarnhad drwy gyfeirio at y dogfennau cyfansoddiadol perthnasol mai corff nid-er-elw yw’r Sefydliad Rheoli Ernes yn hytrach nag elusen ac y bydd yn parhau felly.
5.6 Hefyd, rhaid darparu’r wybodaeth ganlynol wrth gyflwyno’r cais:
- Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd ddangos bod ganddo gefnogaeth eang ar draws y diwydiant o blaid cael ei benodi fel Sefydliad Rheoli Ernes, yn arbennig gan gynhyrchwyr y cynllun a chyflenwyr y cynllun, o ystyried y rôl sydd gan y Sefydliad Rheoli Ernes i’w chwarae wrth weithredu’r cynllun ar ran y sectorau hyn. Dylai’r gefnogaeth ddod gan ystod mor eang â phosibl o’r diwydiant, gan gynnwys cynhyrchwyr a manwerthwyr bach a mawr, gweithgynhyrchwyr, mewnforwyr a llenwyr, cyfanwerthwyr a sefydliadau masnach.
- Strategaeth arfaethedig sy’n sicrhau y caiff safbwyntiau holl gynhyrchwyr a chyflenwyr y cynllun a defnyddwyr eu casglu a’u hystyried wrth gyflawni swyddogaethau’r Sefydliad Rheoli Ernes.
- At ba ddiben y mae’r ymgeisydd i fod yn Sefydliad Rheoli Ernes yn bwriadu defnyddio unrhyw symiau ariannol y gall eu cadw o dan y Rheoliadau nad oes eu hangen i ariannu’r Cynllun Dychwelyd Ernes.
5.7 Rhaid i’r ymgeisydd hefyd gadarnhau nad oes unrhyw sail dros ddirymu penodiad y Sefydliad Rheoli Ernes yn gymwys i unrhyw ymgeisydd i fod yn Sefydliad Rheoli Ernes nac i unrhyw aelodau grŵp, gan gynnwys unrhyw unigolion sy’n gysylltiedig â’r ymgeisydd hwnnw. Rhaid i’r ymgeisydd roi manylion y diwydrwydd dyladwy a gyflawnwyd er mwyn rhoi’r cadarnhad hwnnw.
5.8 Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd roi gwybodaeth am y contractau a’r cytundebau y mae’n bwriadu eu rhoi ar waith gyda busnesau perthnasol, yn benodol cynhyrchwyr a’r rhai sy’n gweithredu mannau dychwelyd. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth fel gofynion adrodd, telerau talu, trefniadau diogelu data/defnydd o ddata ac unrhyw ragofynion neu amodau ychwanegol y tu hwnt i’r rheoliadau. Mae penawdau telerau yn dderbyniol. Rhaid cyflwyno’r canlynol hefyd, ond gellir eu cyflwyno ar ffurf ddrafft:
- Cynllun clir ar gyfer llunio strwythur y Sefydliad Rheoli Ernes a’i roi ar waith.
- Prosesau a chyfrifoldebau llywodraethu a gwneud penderfyniadau.
- Y contractau neu’r cytundebau y cynigir eu llunio â chynhyrchwyr y cynllun, cyflenwyr y cynllun, manwerthwyr y cynllun, gweithredwyr cynlluniau dychwelyd a gweithredwyr mannau dychwelyd.
5.9 Os mai grŵp yw’r ymgeisydd, mae angen cadarnhad o’r canlynol hefyd:
- Esboniad llawn o strwythur y grŵp, ynghyd â grŵp ei sefydlu a’i roi ar waith.
- Manylion y trefniadau o fewn y grŵp a gynigir rhwng aelodau amrywiol unrhyw grŵp, gan gynnwys sut y bydd y trefniadau hynny yn sicrhau mai dim ond tâl rhesymol y bydd yr ymgeisydd i fod yn Sefydliad Rheoli Ernes yn ei dalu am nwyddau neu wasanaethau a gyflenwir.
Adran C
6. Cynllun Gweithredol
6.1 Rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno Cynllun Gweithredol sy’n dangos yn glir sut y caiff y cynllun ei gyflawni ynghyd â sut mae’n bwriadu cyflawni’r targedau casglu yng Nghymru, y buddiannau y mae’n bwriadu eu cyflawni i’r amgylchedd, yr economi gylchol a diwydiant, a disgrifio sut mae’n bwriadu lliniaru’r effeithiau posibl ar ddefnyddwyr a busnesau.
6.2 Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn unol â’r cyfrifoldebau cyfreithiol, dylai’r ymgeisydd llwyddiannus i fod yn Sefydliad Rheoli Ernes adolygu rheoliadau Cymru ar gyfer Sefydliadau Rheoli Ernes ynghyd â’r canllawiau ar gyfer Cynlluniau Gweithredol.
7. Sicrhau Cylcholrwydd Cynwysyddion Diodydd o Fewn y Cwmpas a’u Diogelu at y Dyfodol
7.1 Mae sicrhau cylcholrwydd cynwysyddion diodydd o fewn y cwmpas yn un o ofynion craidd y Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rhaid i Weinyddwr y Cynllun hefyd ddangos sut y caiff y cynllun ei ddylunio a’i weithredu i’w ddiogelu at y dyfodol, i fod yn hyblyg ac yn gydnerth yn erbyn amodau amgylcheddol, amodau technolegol ac amodau’r farchnad sy’n datblygu.
7.2 Rhaid i’r ymgeisydd roi tystiolaeth glir o sut y bydd yn gwneud y canlynol:
- Cydweithio â’r diwydiant i ddiogelu’r cynllun at y dyfodol, gan gynnwys drwy fabwysiadu a hyrwyddo arferion a thechnolegau arloesol.
- Sefydlu llwybr credadwy a all dyfu yn unol â’r anghenion i ailddefnyddio, gan sicrhau y caiff cynwysyddion diodydd a gesglir eu hailddefnyddio pan fo hynny’n briodol ac yn ymarferol.
- Rhoi’r gofynion i gynhyrchwyr gael y cynnig cyntaf ar ddeunydd a ddychwelir i’w ailgylchu, gan gefnogi systemau dolen gaeedig a systemau adfer deunyddiau o ansawdd uchel.
- Gweithredu cynllun yn unol â gofynion deddfwriaethol terfynol, yn amodol ar i’r ddeddfwriaeth gael ei gwneud.
- Rhoi tystiolaeth gadarn o ganlyniadau lleihau sbwriel o ganlyniad uniongyrchol i’r Cynllun Dychwelyd Ernes, gan gynnwys drwy ddulliau monitro, adrodd a gwerthuso.
7.3 Rhaid i’r Sefydliad Rheoli Ernes hefyd roi Cynllun Dychwelyd Ernes ar waith sy’n mynd ati i gefnogi arloesedd o ran lleihau sbwriel, gan sicrhau y caiff cynwysyddion o fewn y cwmpas eu caffael gan ddefnyddio sawl dull ategol y tu hwnt i fannau dychwelyd traddodiadol.
Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:
- Annog gwaith i ddatblygu ac integreiddio technolegau neu ddulliau newydd sy’n gwella prosesau adfer cynwysyddion mewn mannau cyhoeddus ac ardaloedd anodd eu cyrraedd.
- Ysgogi trefniadau cydweithio strategol â’r trydydd sector, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol ac arloeswyr i gasglu data, dylunio, treialu a graddio modelau casglu amgen sy’n dylanwadu ar ymddygiadau newydd ac yn eu hymgorffori.
- Mynd ati i addasu’r cynllun mewn ymateb i ymddygiadau newidiol gan ddefnyddwyr a phatrymau taflu sbwriel, gan sicrhau ei fod yn parhau’n effeithiol o ran hyrwyddo newid ymddygiadol hirdymor a chyflawni buddiannau amgylcheddol a chymdeithasol mesuradwy.
8. Proses cofrestru cynhyrchwyr, ffioedd cofrestru ac adrodd
8.1 I gofrestru â’r cynllun, mae angen i gynhyrchwyr ddeall hyd y broses gofrestru, sut mae’r broses yn rhyngweithredol â chynlluniau eraill yn y DU, a pha mor aml y disgwylir adroddiadau am gynwysyddion o fewn y cwmpas a roddir ar y farchnad. Felly, maeangen i ni ddeall cynllun yr ymgeisydd ar gyfer cofrestru cynhyrchwyr â’r cynllun. Gall Sefydliad Rheoli Ernes godi ffi ar gynhyrchwyr cofrestredig, a dim ond i dalu costau gweinyddol y Sefydliad Rheoli Ernes ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes a chost swyddogaethau rheoleiddiol CNC a’r Timau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol y gellir ei defnyddio.
8.2 Rhaid i’r ymgeisydd roi tystiolaeth o’r canlynol:
- Y dull arfaethedig ar gyfer cofrestru cynhyrchwyr newydd gyda Chynllun Dychwelyd Ernes Cymru, y broses barhaus o reoli’r rhestr gofrestru a thynnu cynhyrchwyr nad ydynt yn cymryd rhan yn y cynllun mwyach.
- Y wybodaeth y mae’r ymgeisydd yn disgwyl ei chael gan gynhyrchwyr y cynllun, a sut y bydd yn hwyluso’r broses o gofrestru cynhyrchwyr a’r broses o adrodd ar ddata gofynnol, fel manylion cynwysyddion a gwerthoedd rhoi ar y farchnad.
- Unrhyw gontractau neu gytundebau a phrosesau (ar ffurf penawdau telerau pan fydd angen) y bydd angen i’r Sefydliad Rheoli Ernes eu trefnu â chynhyrchwyr.
- Manylion y ffactorau y bydd yr ymgeisydd yn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid codi ffioedd cofrestru.
- Gwybodaeth am y broses ar gyfer adolygu’r ffi gofrestru yn rheolaidd, gan gynnal yr adolygiad cynhwysfawr bob blwyddyn eglurder o ran sut y bydd cynhyrchwyr yn talu’r ffi gofrestru.
9. Ffioedd cynhyrchwyr fesul cynhwysydd
9.1 Rhaid codi ffioedd ychwanegol ar sail ‘fesul cynhwysydd’ ac yn gymesur â’r hyn y mae cynhyrchydd yn ei roi ar y farchnad. Ni ddylai fod unrhyw groes-gymorthdaliadau rhwng deunyddiau a/neu rhwng cynlluniau o fewn y DU. Rhaid darparu pob rhagamcan neu amcangyfrif perthnasol, a rhaid rhannu manylion sut y cyfrifwyd ffioedd â chynhyrchwyr cofrestredig.
9.2 Rhaid i ymgeiswyr ddarparu:
- yn unol â’r rheoliadau, y dull y bwriedir ei ddefnyddio i gyfrifo, adolygu, diwygio a chasglu ffioedd cynhyrchwyr fesul cynhwysydd
- cynlluniau ymgynghori ar ffioedd cynhyrchwyr fesul cynhwysydd
- gwybodaeth am y broses ar gyfer adolygu’r ffi fesul cynhwysydd yn rheolaidd, gan gynnal yr adolygiad cynhwysfawr bob blwyddyn.
10. Cofrestru a rheoli gweithredwyr mannau dychwelyd
10.1 Bydd y Sefydliad Rheoli Ernes yn gyfrifol am sefydlu, gweithredu a rheoli’r rhwydwaith o fannau dychwelyd ledled Cymru.Mae hyn yn cynnwys:
- Cofrestru gweithredwyr mannau dychwelyd.
- Asesu a phenderfynu ar geisiadau am eithriadau rhag rhwymedigaethau gorfodol mannau dychwelyd.
- Adolygu a chymeradwyo ceisiadau ar gyfer mannau dychwelyd gwirfoddol.
- Gweithredu ei fannau dychwelyd ei hun pan fydd angen, gan gynnwys canolfannau didoli lleol neu ganolfannau dychwelyd lleol a seilwaith ategol arall ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain.
10.2 Rhaid i’r Sefydliad Rheoli Ernes fod yn gyfrifol am sefydlu, gweithredu ac adolygu’r rhwydwaith o fannau dychwelyd ledled Cymru yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y rhwydwaith yn hygyrch, yn effeithlon ac yn ymateb i anghenion pob cymuned – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd anodd eu cyrraedd.
10.3 Rhaid i’r Sefydliad Rheoli Ernes hefyd weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol i gefnogi’r broses o leoli, gweithredu ac integreiddio mannau dychwelyd yn effeithiol o fewn y seilwaith gwastraff ac ailgylchu presennol a sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag anghenion darparu gwasanaethau ac anghenion cymunedol lleol. Dylid hefyd roi ystyriaeth i’r systemau casglu wrth ymyl y ffordd presennol. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn Adran 16 Casgliadau a Logisteg.
10.4 Rhaid i’r ymgeisydd roi gwybodaeth fanwl am y canlynol:
- Sut y bydd y Sefydliad Rheoli Ernes yn adolygu nifer, lleoliad a hygyrchedd y mannau dychwelyd yn rheolaidd, gan roi ystyriaeth benodol i ardaloedd gwledig ac ardaloedd a danwasanaethir.
- Y contractau neu’r cytundebau y bydd y Sefydliad Rheoli Ernes yn eu llunio â manwerthwyr, endidau â rhwymedigaethau a gweithredwyr mannau dychwelyd, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cofrestru a chyflwyno data.
- Y broses ar gyfer adolygu a phenderfynu ar geisiadau ar gyfer eithriadau rhag rhwymedigaethau mannau dychwelyd gorfodol, gan gynnwys amserlenni, meini prawf a gweithdrefnau gwneud penderfyniadau.
- Y broses i gyflenwyr y cynllun wneud cais ar gyfer mannau dychwelyd gwirfoddol,
ac i’r Sefydliad Rheoli Ernes eu hawdurdodi. - Sut y bydd y Sefydliad Rheoli Ernes yn monitro ac yn gwerthuso perfformiad y rhwydwaith o fannau dychwelyd, gan gynnwys dulliau gwella parhaus.
- Unrhyw gontractau drafft neu ddangosol neu benawdau telerau y bydd y Sefydliad Rheoli Ernes yn eu defnyddio mewn cytundebau â manwerthwyr a gweithredwyr mannau dychwelyd.
- Y weithdrefn ar gyfer dirymu cofrestriad gweithredwr mannau dychwelyd pan fydd angen, gan gynnwys sail dros ddirymu a dulliau apelio.
11. Cofrestru a rheoli opsiynau dychwelyd (gan gynnwys dychwelyd ar-lein)
11.1 Sicrhau mynediad a chyfleustra eang i ddefnyddwyr Dylai manwerthwyr y cynllun sefydlu a gweithredu gwasanaethau dychwelyd sy’n hwyluso’r broses o gasglu cynwysyddion o fewn y cwmpas o gartrefi defnyddwyr sy’n galluogi cynwysyddion o fewn y cwmpas i gael eu dychwelyd y tu allan i fannau dychwelyd ffisegol.
11.2 Felly, rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno’r canlynol:
- Manylion y dull arfaethedig i gofrestru gwasanaethau dychwelyd a gynigir i ddefnyddwyr gan fanwerthwyr y cynllun.
- Manylion y dull arfaethedig o gasglu neu dderbyn cynwysyddion o fewn y cwmpas a gaiff eu dychwelyd gan ddarparwyr gwasanaethau dychwelyd.
- Eglurder o ran sut y bydd yr ymgeisydd yn gwneud taliadau i ddarparwyr gwasanaethau dychwelyd ar gyfer y cynwysyddion o fewn y cwmpas y bydd yn casglu neu’n derbyn ganddynt.
- Dangos cynllun clir ar gyfer eu cyflwyno a’u hintegreiddio’n raddol i’r rhwydwaith dychwelyd ehangach.
- Amserlen a dull gweithredu arfaethedig ar gyfer cofrestru gwasanaethau dychwelyd a gynigir gan fanwerthwyr y cynllun, gan gynnwys modelau ar-lein a chasgliadau cartref.
- Proses ar gyfer casglu neu dderbyn cynwysyddion o fewn y cwmpas gan ddarparwyr gwasanaethau dychwelyd cofrestredig, gan sicrhau gallu i olrhain, cydymffurfiaeth a chysondeb ag amcanion y cynllun.
- Dull tryloyw o gyfrifo a gwneud taliadau i ddarparwyr gwasanaethau am y cynwysyddion a gaiff eu casglu neu eu dychwelyd, gan gynnwys sut y caiff ansawdd a pherfformiad gwasanaethau eu monitro.
- Amlinelliad o sut y bydd yr ymgeisydd yn cefnogi ac yn annog y broses o ddatblygu gwasanaethau dychwelyd dros amser, yn enwedig er mwyn gwella hygyrchedd i ddefnyddwyr a fydd o bosibl yn wynebu rhwystrau i ddefnyddio mannau dychwelyd ffisegol.
- Rhaid i’r dull hwn sicrhau y gellir tyfu gwasanaethau dychwelyd yn ôl yr angen, eu bod yn gynhwysol ac yn cyd-fynd â nodau hirdymor y cynllun.
12. Lefel ernes a chasglu ernes
12.1 Rhaid i’r ymgeisydd nodi ei lefel ernes (neu lefelau ernes) dewisol, gan sicrhau bod y broses o bennu lefel(au) ernes yn gyson, yn seiliedig ar dystiolaeth a’i bod yn lleihau’r heriau o ran ei gallu i ryngweithredu â chynlluniau eraill yn y DU. Dylid adlewyrchu’r lefel(au) ernes yng nghynllun busnes a rhagolygon ariannol yr ymgeisydd. Hefyd, dylai fod gan yr ymgeisydd gynlluniau yn dangos sut y bydd yn derbyn taliadau o ernesau a gesglir gan gyflenwyr y cynllun.
12.2 Ar gyfer hyn, dylai’r ymgeisydd ddarparu’r canlynol:
- Y dull arfaethedig o bennu’r lefel(au) ernes.
- Cynlluniau ymgynghori ar y lefel(au) ernes.
- Y dull arfaethedig o bennu, adolygu, diwygio a chyhoeddi’r lefel(au) ernes.
- Y mathau o ddata a thystiolaeth y bydd yr ymgeisydd yn eu defnyddio i bennu’r lefel(au) ernes.
- Y dull arfaethedig o gasglu ernesau gan gyflenwyr y cynllun.
- Manylion sut y bydd yr ymgeisydd yn rhoi gwybod i gyflenwyr y cynllun faint y mae’n rhaid iddynt ei dalu, y dyddiadau ar gyfer taliadau a’r dulliau talu a dderbynnir.
- Gwybodaeth am sut y bydd yr ymgeisydd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ymdrin ag achosion o beidio â thalu.
13. Taliadau trin manwerthwyr
13.1 I gwmpasu costau’r gwasanaeth mannau dychwelyd, rhaid i’r Sefydliad Rheoli Ernes dalu ffi trin i bob gweithredwr mannau dychwelyd (gan gynnwys manwerthwyr siopau groser a mannau dychwelyd gwirfoddol).
13.2 Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol y rhwydwaith o fannau dychwelyd, rhaid i bob gweithredwr mannau dychwelyd – gan gynnwys manwerthwyr siopau groser, mannau dychwelyd gwirfoddol a, lle y bo’n berthnasol, Awdurdodau Lleol – gael ffi trin gan y Sefydliad Rheoli Ernes i dalu costau darparu gwasanaethau dychwelyd.
13.3 Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu dull gweithredu cynhwysfawr sy’n cynnwys:
- Methodoleg glir ar gyfer cyfrifo taliadau trin, gydag ystyriaeth benodol i anghenion a strwythurau costau manwerthwyr bach a mannau dychwelyd yn y gymuned.
- Cynlluniau ymgynghori i ymgysylltu â manwerthwyr, Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid eraill ar ddyluniad a thegwch y strwythur ffioedd trin.
- Y broses taliadau arfaethedig, gan gynnwys amlder, dulliau dilysu a sut y caiff anghydfodau neu addasiadau eu rheoli.
- Lefelau ffioedd trin dangosol, gan gynnwys unrhyw amrywiadau arfaethedig yn seiliedig ar y math o fan dychwelyd, lleoliad (e.e. gwledig neu drefol), neu’r niferoedd dan sylw.
- Esboniad o’r modd y gellid cefnogi neu gymell Awdurdodau Lleol i weithredu mannau dychwelyd – yn enwedig mewn ardaloedd lle mae cyrhaeddiad manwerthu yn gyfyngedig neu lle gallai seilwaith cyhoeddus wella hygyrchedd.
13.4 Rhaid i’r dull hwn sicrhau bod taliadau trin yn dryloyw, yn deg ac yn ddigonol i gefnogi rhwydwaith amrywiol a chydnerth o fannau dychwelyd ledled Cymru.
14. Gofynion labelu a logo
14.1 Pan fydd Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru yn weithredol, rhaid i’r Sefydliad Rheoli Ernes gyhoeddi logo’r cynllun (ynghyd â logo pecynnu dewisol ar gyfer diodydd a werthir mewn pecynnau aml-gynnwys). Er mwyn sicrhau gallu i ryngweithredu, rhaid i’r Sefydliad Rheoli Ernes gytuno ar ddull cyffredin ar gyfer logos a chodau dychwelyd â’r cynlluniau eraill yn y DU.
14.2 Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu’r canlynol:
- y dull arfaethedig o bennu logo’r cynllun (ac unrhyw logos pecynnu dewisol)
- y dull arfaethedig ar gyfer codau dychwelyd y cynllun
- y dull arfaethedig ar gyfer pennu logos cynllun, logos pecynnu’r cynllun a gofynion o ran codau dychwelyd cyson ledled y DU.
15. Ad-daliadau i weithredwyr pwyntiau dychwelyd
15.1 Bydd y Sefydliad Rheoli Ernes yn goruchwylio llifoedd ernes gan sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu had-dalu pan fyddant yn dychwelyd cynwysyddion. Yna bydd yn ad‑dalu manwerthwyr a chasglwyr y cynllun am yr ernesau a ad-dalwyd i ddefnyddwyr.
15.2 Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu’r canlynol:
- dull arfaethedig o ad-dalu manwerthwyr y cynllun a chasglwyr y cynllun am yr ad‑daliadau a dalwyd ganddynt i ddefnyddwyr
- gwybodaeth am sut y bydd y broses gysoni yn gweithio gyda chynlluniau eraill ledled y DU
- amlinellwch y broses i weithredwyr mannau dychwelyd weinyddu’r rhodd elusennol sy’n gysylltiedig ag ernesau defnyddwyr, i achosion elusennol lleol a chenedlaethol.
16. Casgliadau a logisteg
16.1 Bydd y Sefydliad Rheoli Ernes yn gyfrifol am gasglu’r holl gynwysyddion o fewn y cwmpas a ddychwelwyd gan y canlynol:
- gweithredwyr mannau dychwelyd cofrestredig
- safleoedd manwerthu adeg gwerthu neu gymysg
- darparwyr gwasanaethau dychwelyd.
16.2 Er mwyn sicrhau system gasglu sy’n effeithlon, yn deg ac yn gyfrifol yn amgylcheddol, rhaid i’r ymgeisydd ddarparu dull manwl ar gyfer gweithredu a rheoli casgliadau a logisteg drwy fframwaith casglu cynhwysfawr.
Rhaid i’r fframwaith hwn gynnwys:
- Amlder arfaethedig casgliadau, gan gynnwys sut y bydd hyn yn amrywio yn ôl lleoliad, math o fan dychwelyd a niferoedd;
- Y dulliau o ddidoli a chludo deunyddiau, gan sicrhau canlyniadau ailgylchu ac ailddefnyddio o ansawdd uchel.
- Strategaeth glir ar gyfer gwasanaethu ardaloedd gwledig ac anghysbell yng Nghymru, gan gynnwys sut y cynhelir tegwch y gwasanaeth.
- Ymdrechion i ystyried sut y gellid defnyddio asedau a gwasanaethau sy’n eiddo cyhoeddus yng Nghymru– gan gynnwys y rhai a weithredir gan Awdurdodau Lleol – i gefnogi neu gyflawni swyddogaethau casglu a logisteg.
- Cyfleoedd am bartneriaethau ag Awdurdodau Lleol er mwyn gwella effeithlonrwydd, lleihau achosion o ddyblygu a sicrhau cysondeb â seilwaith gwastraff ac ailgylchu presennol.
- Sut y bydd y Sefydliad Rheoli Ernes yn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd ac yn monitro perfformiad ar draws y rhwydwaith casglu.
16.3 Rhaid i’r dull gweithredu ddangos sut y bydd y system logisteg yn gydnerth, yn gallu tyfu yn ôl yr angen ac yn cyd-fynd â nodau amgylcheddol ac economi gylchol Cymru, gan hefyd gyflawni gwerth am arian a chefnogi’r broses o ddarparu gwasanaethau yn lleol.
17. Ystyried rheoliadau trawsbyniol Llywodraeth Cymru a’r DU
17.1 Mae rheoliadau eraill yng Nghymru a’r DU y bydd angen i’r Sefydliad Rheoli Ernes eu hystyried.
17.2 Bydd angen i’r ymgeisydd ddangos:
- Sut y bydd yn cydymffurfio â Deddf Iaith Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 ar gyfer gweithredu yng Nghymru a darparu dulliau cyfathrebu ar gyfer cyflenwyr y cynllun.
- Sut mae wedi ystyried ei weithrediad o safbwynt cefnogi Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018.
- Sut y bydd yn cydymffurfio â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.
- Sut y bydd yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth gwastraff berthnasol gan gynnwys Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 a Rheoliadau Dyletswydd Gofal 1991, ymhlith eraill.
18. Cydberthynas â Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol
18.1 Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r rheoleiddiwr amgylcheddol sy’n gyfrifol am reoleiddio’r Sefydliad Rheoli Ernes yng Nghymru.
Mae Safonau Masnach Awdurdodau Lleol Cymru yn cydlynu cyngor ac orfodi’r deddfau sy’n llywodraethu’r ffordd y caiff nwyddau a gwasanaethau eu gwerthu, eu rhentu a’u hurio i ddefnyddwyr.
18.2 Rhaid i’r Sefydliad Rheoli Ernes wneud taliadau i CNC er mwyn talu’r costau yr eir iddynt wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y rheoliadau. Rhaid i’r Sefydliad Rheoli Ernes hefyd wneud trefniadau gyda CNC i sicrhau mynediad priodol i unrhyw wybodaeth sydd ei hangen i alluogi’r awdurdod i gyflawni ei swyddogaethau o dan y rheoliadau.
18.3 Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu:
- Cynllun manwl ar sut mae’n bwriadu talu costau CNC a Timau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol a sicrhau bod y rhain yn cael eu talu y tu allan i’r Cynllun Dychwelyd Ernes, drwy’r ffi gofrestru, ernesau heb eu hawlio, neu werthu deunyddiau ailgylchadwy i gynhyrchwyr.
- Cynllun manwl ar sut y bydd yn rhoi mynediad i reoleiddwyr i’r data sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu dyletswyddau.
19. Gweithredu a strategaeth cyfathrebu
19.1 Fel y nodir yn Rheoliadau Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diod (Cymru) 2026, disgwylir i’r Cynllun Dychwelyd Ernes fynd yn fyw yng Nghymru ar 1 Hydref 2027, ac fel y cyfryw mae’r wybodaeth ganlynol yn ofynnol gan yr ymgeisydd:
- Amserlen gweithgarwch o adeg y penodiad hyd at pan fydd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn gwbl weithredol yng Nghymru.
- Y strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu i helpu busnesau a defnyddwyr i baratoi.
19.2 Rhaid i’r ymgeisydd hefyd gyhoeddi templedi dogfennau ar gyfer:
(a) y wybodaeth am y Cynllun a gyfeirir at yn rheoliad 28(8)
(b) y wybodaeth cynhyrchwyr cyfaint isel cofrestredig a gyfeirir at yn rheoliad 29
(c) y wybodaeth optio allan a gyfeirir at yn rheoliad 31(3)
(d) y wybodaeth a gyfeirir at yn rheoliad 38 ar gyfer manwerthwyr groser i’w darparu yn neu ar safleoedd manwerthu heb bwynt dychwelyd
(e) y wybodaeth i’w darparu mewn pwynt dychwelyd fel y nodir yn rheoliad 41
(f) y wybodaeth am y gwasanaeth cymryd yn ôl fel y nodir yn rheoliad 43(6).
Yn ogystal, rhaid i’r ymgeisydd adolygu penderfyniadau perthnasol yn unol â Rheoliad 80.
Adran D
20. Rheolaeth ariannol a chynllun busnes
20.1 Rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno Cynllun Busnes credadwy, hyfyw a chyflawnadwy. Rhaid i’r ymgeisydd gwblhau’r templed ategol ar gyfer Cynllun Busnes gyda mewnbwn a thybiaethau ariannol allweddol wedi’u nodi yn y meysydd gofynnol. Gall yr ymgeisydd gynnwys manylion ategol yn ôl yr angen gyda chyfrifiadau wrth gefn er mwyn sicrhau cyflwyniad cynhwysfawr.
20.2 Rhaid i’r Cynllun Busnes a’r wybodaeth ategol ddarparu:
- manylion y dull arfaethedig ar gyfer dyrannu unrhyw orbenion canolog i’r Sefydliad Rheoli Ernes, lle mae’r ymgeisydd yn cynnig grŵp o gwmnïau i gyflwyno’r Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru
- sut y caiff y gorbenion hynny eu dyrannu i Gynllun Dychwelyd Ernes Cymru
- manylion pa ddadansoddiadau a ddefnyddiwyd i ddilysu’r amcangyfrifon sy’n ategu’r Cynllun Busnes (e.e. meincnodau’r diwydiant a’r cynllun, ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi i lywio amcangyfrifon refeniw a chostau)
- manylion y lefel o fuddsoddiad ymlaen llaw a fydd yn ofynnol i gefnogi’r broses o sefydlu’r Sefydliad Rheoli Ernes cyn dyddiad lansio’r cynllun a sut y lluniwyd yr amcangyfrifon hynny
- manylion cyfalaf gweithio arfaethedig, isafswm lefelau hylifedd ac unrhyw orddrafft neu gyfleusterau benthyciad byrdymor eraill y bwriedir iddynt reoli newidiadau mewn cyfalaf gweithio, yn enwedig yn ystod y cyfnod rhwng dyddiad lansio’r cynllun a’r adeg y bydd cyflenwr y cynllun yn dechrau cael taliadau ernes
- manylion y broses arfaethedig ar gyfer cronni’r gronfa wrth gefn sy’n ofynnol gan Reoliadau Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru
- manylion y lefelau arfaethedig o risg a hapddigwyddiad sydd wedi’u cynnwys
yn y rhagolygon i ddelio â’r senarios gwaethaf - manylion unrhyw ddadansoddiadau senario/sensitifrwydd a gwblhawyd ar y Cynllun Busnes i brofi’r senarios gwaethaf.
21. Rheoli a threfniadau risg ariannol
21.1 Ynghyd â chynllun busnes, disgwylir i’r ymgeisydd ddarparu cofrestr yn nodi ei fod yn deall risgiau ariannol allweddol, ei ddull o reoli risgiau ariannol parhaus a’i gamau lliniaru arfaethedig.
21.2 Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu:
- cofrestr â disgrifiad manwl o’r holl brif risgiau ariannol i’r Sefydliad Rheoli Ernes (ac eithrio twyll ar y pwynt hwn gan fod twyll yn cael ei hystyried yn ddiweddarach yn Adran E), a sut mae’r ymgeisydd yn disgwyl y cânt eu lliniaru, gan gyd-fynd â’r senarios gwaethaf yn y Cynllun Busnes
- trosolwg o ddull arfaethedig yr ymgeisydd o reoli risgiau ariannol yn barhaus.
22. Yswiriant a threth
22.1 Er mwyn diogelu yn erbyn colledion ariannol, rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth o’r canlynol:
- cynigion ar gyfer trefniadau polisi yswiriant corfforaethol yn y dyfodol gan gynnwys telerau dymunol a chynlluniau i gyflawni hyn
- unrhyw bolisïau yswiriant corfforaethol presennol gan gynnwys manylion y darparwr a thelerau’r polisi (gan gynnwys terfynau’r polisi).
22.2 Rhaid i’r ymgeisydd roi unrhyw fanylion am ei gynigion cychwynnol neu ei gynlluniau presennol, os ydynt wedi’u llunio, mewn perthynas â threth (gan gynnwys TAW).
23. Cynllunio ariannol a chostau
23.1 Rhaid i’r ymgeisydd roi manylion ei gynllun cyllido arfaethedig a’r modd y mae’n cynrychioli cynllun credadwy, hyfyw a chyflawnadwy i sicrhau digon o arian ymlaen llaw ac ar sail barhaus.
23.2 Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu’r canlynol:
- dadansoddiad o ffynonellau a defnyddiau arfaethedig cyfalaf/cyllid
- y defnydd disgwyliedig a phroffil ad-dalu ar gyfer pob ffynhonnell
- manylion y cyfraddau llog a’r costau disgwyliedig sy’n gysylltiedig â’r cyfalaf/cyllid (gan gynnwys cyfraddau a ffioedd disgwyliedig).
24. Cyrchu cyllid
24.1 Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu’r holl bethau canlynol:
- Manylion darparwyr cyfalaf/cyllid arfaethedig a sut y caiff hyn ei ddarparu (e.e. cyfalaf neu fenthyciadau gan endidau sydd i bob pwrpas yn berchen ar yr ymgeisydd neu’n ei reoli, neu fenthyciadau trydydd parti).
- Manylion telerau arfaethedig y cyfalaf/cyllid hwnnw, ar ffurf penawdau telerau fel sy’n briodol.
- Tystiolaeth bod y cyfalaf/cyllid yn cael ei ddarparu ar delerau’r farchnad neu, yn achos cyfalaf/cyllid a ddarperir gan bartïon sy’n gysylltiedig â’r ymgeisydd, ar delerau nad ydynt yn darparu ar gyfer dosbarthu incwm yr ymgeisydd i’w aelodau, cyfarwyddwyr neu swyddogion, heblaw fel cydnabyddiaeth resymol am y cyfleusterau ariannol a gyflenwyd.
- Manylion y trefniadau diogelwch arfaethedig sy’n gymwys mewn perthynas â’r cyfalaf/cyllid arfaethedig.
- Manylion statws y trefniadau cyllido arfaethedig, gan gynnwys darparu unrhyw dystiolaeth trydydd parti o ran ymrwymiadau cyfredol.
- Manylion yr holl ffynonellau o gymorth ariannol wrth gefn (fel gwarantau rhiant-gwmni neu gyfleusterau wrth gefn).
- Os yw’n berthnasol (h.y. wedi bodoli’n flaenorol), copïau o’r datganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer dwy flwyddyn ariannol ddiwethaf unrhyw ddarparwyr cymorth ariannol cyfalaf, cyllidol neu wrth gefn gan endidau sydd o fewn strwythur grŵp ehangach yr ymgeisydd.
- Camau ac amserlen ddisgwyliedig ar gyfer sicrhau’r cyfalaf/cyllid gyda defnydd yn cyd‑fynd â’r amserlen a ddarparwyd mewn ymateb i Adran C 19, fel y gall yr ymgeisydd gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arno i sefydlu a gweithredu’r Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru.
24.2 Os bydd costau’r ymgeisydd ar gyfer sefydlu’r Sefydliad Rheoli Ernes yn fwy na’r hyn a ragwelir, rhaid i’r ymgeisydd hefyd gadarnhau bod y cyfalaf/cyllid neu unrhyw gymorth ariannol arall wrth gefn sydd ar gael i’r Sefydliad Rheoli Ernes yn ddigon i sicrhau cyllid wrth gefn rhesymol.
Adran E
25. Mynediad cyfartal
25.1 Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth am sut y caiff mynediad teg ei reoli yn y cynllun.
25.2 Dylai hyn gynnwys manylion am y canlynol:
- Sut y caiff gohebiaeth y Sefydliad Rheoli Ernes ei chyhoeddi mewn ieithoedd a fformatau gwahanol (e.e. ieithoedd lleiafrifol a fformat sain).
- Sut y caiff ystyriaethau hygyrchedd eu nodi mewn canllawiau a roddir i weithredwyr mannau dychwelyd. Er enghraifft:
-Mynediad cadair olwyn i beiriannau gwerthu gwrthdro a/neu giosgau sy’n cynnwys mannau dychwelyd.
-Darparu cymorth dychwelyd â llaw i’r sawl na allant gyrraedd prif fannau dychwelyd.
-Y Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol a siaredir yng Nghymru, ynghyd â fformat sain neu braille.
- Sut y bydd yr ymgeisydd yn ystyried a/neu’n annog y broses o gasglu a dychwelyd cynwysyddion o fewn y cwmpas ar gyfer defnyddwyr â gofynion hygyrchedd.
- Cynlluniau ar gyfer ymgynghori â rhanddeiliaid o ran hygyrchedd i’r Cynllun Dychwelyd Ernes.
26. Datrysiadau digidol
26.1 Er mwyn cefnogi’r broses o weithredu’r Cynllun Dychwelyd Ernes yn effeithiol yng Nghymru, bydd angen datblygu datrysiadau digidol a’u rhoi ar waith. Bydd angen i’r datrysiadau hyn hwyluso gofynion cofrestru, adrodd, anfonebu a thalu ar gyfer cynhyrchwyr a chasglwyr y Cynllun Dychwelyd Ernes. Bydd hefyd angen i systemau alluogi llifoedd data a gwybodaeth ar draws y gweithrediad casglu a logisteg.
26.2 O ystyried y gofynion ar gyfer y gallu i ryngweithredu ledled y DU, bydd angen dylunio datrysiadau digidol â’r gallu i gefnogi’r gofynion hyn pan fydd angen.
26.3 Mae rheoliadau Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei chyfnewid â Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi ei swyddogaethau gorfodi (heblaw mewn perthynas â’r Sefydliad Rheoli Ernes). Gall hyn gynnwys data am gontractau, cofrestriadau, data gwerthu cynhyrchwyr, seilwaith casglu gwastraff a data dychwelyd/cyfraddau casglu yn seiliedig ar y math o ddeunydd fesul gwlad.
26.4 Rhaid i’r ymgeisydd roi gwybodaeth am sut mae’n bwriadu dylunio, adeiladu, gweithredu a phrofi datrysiadau digidol y Cynllun Dychwelyd Ernes i sicrhau y gellir cyflwyno a gweithredu’r cynllun. Bydd hyn yn golygu y bydd angen i sawl system fod ar waith i sicrhau y gall cynhyrchwyr a manwerthwyr y cynllun sy’n weithredwyr mannau dychwelyd gorfodol gofrestru cyn dyddiad lansio’r Cynllun Dychwelyd Ernes.
26.5 Rhaid i’r ymgeisydd nodi sut mae’n bwriadu cynnal a datblygu system TG y Cynllun Dychwelyd Ernes ymhellach ar ôl y dyddiad hwn.
26.6 Rhaid i’r ymgeisydd hefyd nodi’r mesurau bwriadedig ar gyfer sicrhau diogelwch parhaus y systemau TGCh, gan gynnwys camau i liniaru unrhyw risgiau canfyddedig.
27. Twyll
27.1 Mae risgiau posibl o ran twyll a gwallau yn gysylltiedig â’r Cynllun Dychwelyd Ernes. Gall twyll a gwallau ddigwydd ar ddechrau a diwedd y broses o weithredu’r Cynllun Dychwelyd Ernes. Er enghraifft, os bydd un o gynhyrchwyr y cynllun yn tan-dalu’r ernesau ar gynwysyddion diodydd o fewn y cwmpas neu os bydd gweithredwyr mannau dychwelyd yn gwneud ceisiadau twyllodrus am ad-daliadau.
27.2 Bydd technoleg yn chwarae rôl sylweddol yn lleihau twyll a gwallau ar bob pwynt o’r system, o godau bar cofrestredig a roddir ar gynwysyddion o fewn y cwmpas, i gaffael data gan beiriannau gwerthu gwrthdro.
27.3 Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth am risgiau gweithgarwch twyllodrus yn y cynllun, o leiaf mewn perthynas â’r pedwar maes a restrir isod a’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud ynghylch atal gweithgarwch o’r fath ar y cyd â’r rheoleiddwyr, fel sy’n briodol.
- twyll sy’n gysylltiedig â gwerthu
- twyll sy’n gysylltiedig â chasglu
- twyll sy’n gysylltiedig â materion trawsffiniol
- twyll sy’n gysylltiedig â materion mewnol y Sefydliad Rheoli Ernes.
27.4 Gall yr ymgeisydd ystyried cynnwys matrics risg sy’n asesu difrifoldeb a thebygolrwydd pob risg o dwyll ac sy’n nodi’r mesur lliniaru dewisol ym mhob achos.
