Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Yn dilyn pleidlais yn y Senedd, bydd polisi nodedig i helpu i leihau nifer y marwolaethau a'r niwed sy'n gysylltiedig â yfed gormod o alcohol yn cael ei estyn yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Aelodau'r Senedd wedi pasio rheoliadau i barhau â'r polisi isafbris am alcohol ac i godi'r isafbris uned o 50c i 65c, gan ei wneud yn gyson â’r gyfradd yn yr Alban.

Mae'r isafbris am alcohol wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau, drwy leihau'r defnydd o alcohol ymhlith yfwyr peryglus a niweidiol.

Mae ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi canfod y gallai cynyddu'r isafbris uned i 65c atal mwy na 900 o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol dros 20 mlynedd a lleihau nifer yr yfwyr niweidiol bron i 5,000.

Yn dilyn y bleidlais yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:

Mae alcohol rhad, cryfder uchel yn effeithio'n anghymesur ar yfwyr peryglus a niweidiol. Mae'r dystiolaeth yn glir – mae'r isafbris uned yn gweithio.

Rydym heddiw wedi gwneud penderfyniad a fydd yn achub bywydau ac yn helpu i amddiffyn llawer o bobl rhag y niwed a achosir gan yfed gormod o alcohol

Croesawodd Cyfarwyddwr Cymru Alcohol Change UK, Andrew Misell, barhad y polisi, gan ddweud:

Mae chwyddiant wedi erydu'n raddol effaith yr isafbris uned ers iddo gael ei gyflwyno yn 2020. Mae'r cynnydd hwn yn adfer effeithiolrwydd y polisi ac yn sicrhau y gall barhau i wneud hi'n anoddach cael gafael ar yr alcohol rhataf a chryfaf sy'n achosi'r niwed mwyaf.

Cafodd yr isafbris uned ei gyflwyno yng Nghymru yn wreiddiol ym mis Mawrth 2020 pan ddaeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i rym. Roedd y Ddeddf yn cynnwys cymal machlud, a oedd yn golygu y byddai'r isafbris uned wedi dod i ben ar 1 Mawrth 2026, pe na bai'r Senedd wedi pleidleisio i estyn y polisi.

Bydd y rheoliadau newid prisiau yn dod i rym ar 1 Hydref 2026.