Neidio i'r prif gynnwy

Bydd blwch a ddatblygwyd yng Nghymru, sef y SepsisBox,  yn cael ei ddadlennu i gynulleidfa ryngwladol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yr wythnos nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:
Bydd Rocialle yn hyrwyddo'r SepsisBox yn ystod digwyddiad Medica, sef marchnad feddygol fwyaf y byd. Cynhelir y ffair fasnach a chynhadledd dros bedwar diwrnod (14-17 Tachwedd) yn Düsseldorf. Mae'n arbenigo mewn technoleg feddygol, electrofeddygaeth, offer labordy, diagnosteg a chyffuriau.


Mae Rocialle, sy'n cyflogi 350 o bobl yn ei leoliad yn Abepennar, yn un o 44 o gwmnïau o Gymru sy'n mynd ar y daith fasnach i Medica yr wythnos nesaf.


Datblygodd Rocialle y SepsisBox ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a 1000 o Fywydau, sef Gwasanaeth Gwella GIG Cymru, fel rhan o raglen arloesi Comisiwn Bevan, Esiamplau Technoleg Iechyd.


Mae'r blwch tafladwy ac hawdd ei ddefnyddio yn cael ei brofi mewn Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ledled Cymru a Lloegr ar hyn o bryd. 


Mae blwch Rocialle yn cynnwys chwe drws. Y tu ôl i'r drysau ceir yr eitemau sydd eu hangen i ddarparu'r bwndel gofal chwe cham ar gyfer sepsis.   Gyda'r SepsisBox, mae popeth wrth law ac mae'r nyrsys yn cael eu harwain gam wrth gan drwy'r broses. Mae'n gymorth i sicrhau'r gofal cywir yn ystod yr awr gyntaf dyngedfennol ar ôl cael diagnosis o sepsis.

Mae'r canlyniadau interim yn dangos gwelliant o ran y canlyniadau i gleifion a lleihad yn nifer y cleifion y mae'n rhaid eu trosglwyddo i'r adran gofal critigol, sydd wedi arwain at arbediad o £1,200 y claf, bob nos, i ysbytai. 

Dywedodd Rheolwr Masnachu Rocialle, Mark Birchmore: 

"Mae adnabod sepsis yn gynnar a'i drin yn ddi-oed yn hanfodol i sicrhau canlyniadau llwyddiannus i'r claf. Gyda SepsisBox, mae'r nyrs yn gallu dechrau rhoi triniaeth ar unwaith, sy'n golygu ei bod yn bosibl darparu gofal ble bynnag a phryd bynnag y mae ei angen. Mae hynny'n helpu i achub bywydau ac arbed arian i'r GIG. 

"Mae'r potensial yn enfawr, o ran achub bywydau ac arbed arian i ysbytai, yn ogystal â darparu cyfleoedd gwerthu a chyfleoedd busnes newydd i Rocialle.  Mae canlyniadau interim y treialon yn galonogol iawn a bydd Medica yn gyfle gwych i arddangos a hyrwyddo'r SepsisBox i gynulleidfa ryngwladol."

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: 

"Mae Medica yn un o'r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr rhyngwladol y sector gwyddorau bywyd, gan ei fod yn cynnig y cyfle i gwmnïau arloesol fel Rocialle hyrwyddo eu cynhyrchion a'u gwasanaethau i gynulleidfa ryngwladol. 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo busnesau i fasnachu'n rhyngwladol ac rwy'n falch iawn y bydd gennym daith fasnach i Medica eto eleni. Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o raglen ehangach o deithiau masnach ac arddangosfeydd tramor sy'n derbyn pecyn cymorth cynhwysfawr i helpu busnesau i gael mynediad at farchnadoedd allforio newydd a chyfleoedd newydd.”

Eleni, mae 44 o gwmnïau a 90 o gynrychiolwyr - sef y nifer fwyaf hyd yma, yn cymryd rhan yn nhaith fasnach Llywodraeth Cymru i Medica.