Neidio i'r prif gynnwy

1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Ar ffurf naratif, rhowch ddisgrifiad o’r mater a’r camau gweithredu a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Sut ydych chi wedi cymhwyso / sut byddwch chi’n cymhwyso’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i’r camau y bwriedir eu cymryd, drwy’r polisi a’r cylch cyflawni?

Mae’r heriau sy’n wynebu Cymru yn golygu bod angen inni drawsnewid ein hagwedd tuag at fuddsoddi mewn seilwaith a’i gyflawni. I baratoi Cymru ar gyfer y dyfodol, mae angen inni sicrhau wrth inni fuddsoddi mewn seilwaith fod y buddsoddiadau hynny yn gallu ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur; mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, ac ystyried anghenion y rhai mwyaf agored i niwed; tyfu’r economi a chreu swyddi; a chyflawni’r effaith fwyaf posibl gyda’n hadnoddau cyfyngedig. I wireddu’r trawsnewidiad hwn, rhaid newid ar bob lefel o safbwynt y ffordd y mae buddsoddiadau yn cael eu cynllunio, eu cymeradwyo, eu cyflawni a’u rheoli.

Y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (‘y Strategaeth’) yw ein hail strategaeth seilwaith 10 mlynedd ar draws y llywodraeth gyfan. Fe’i cynlluniwyd i bennu fframwaith ar gyfer ein holl fuddsoddiadau mewn seilwaith. Yn wahanol i’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru flaenorol, ac er mwyn adlewyrchu natur integredig ac anwahanadwy llesiant Cymru, mae'r Strategaeth newydd yn un sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Seiliwyd y cyfan ar y pedwar maes – economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol – o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Mae penodau’r Strategaeth wedi’u neilltuo i’r pedwar maes llesiant yn eu tro. Mae’r sectorau seilwaith, fel Trafnidiaeth a Thai, yn cael sylw ym mhob un o’r penodau hynny sydd wedi’u neilltuo i’r pedwar maes, ac nid oes penodau neilltuedig sydd wedi’u seilio ar bob un sector yn benodol. Drwy ddilyn dull thematig, mae’r Strategaeth yn cydnabod y gall buddsoddi mewn sector penodol gyflawni’n gryfach yn erbyn un thema nag un arall ond, yn aml, ceir dibenion buddsoddi eilaidd a thrydyddol amlwg hefyd sydd angen eu dal yn effeithiol. Mae hyn hefyd yn cydnabod y gydberthynas rhwng y gwahanol feysydd seilwaith a’r canlyniadau maen nhw’n eu cyflawni.

Mae’r Strategaeth yn mabwysiadu agwedd eang tuag at y diffiniad o seilwaith. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys grantiau cyfalaf, benthyciadau, a buddsoddiad mewn seilwaith “gwyrdd” fel coetiroedd, yn ogystal â’r amgylchedd adeiledig traddodiadol. Mae hefyd yn ystyried yr ysgogiadau ar gyfer cynyddu ein gallu buddsoddi i’r eithaf os caiff ein cyllidebau eu cyfyngu, gan gynnwys buddsoddi mewn seilwaith wedi’i gyllido drwy gyllidebau refeniw, fel y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, a defnyddio ein pwerau benthyg cyfalaf.

Mae’r Strategaeth yn darparu fframwaith ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith ar draws holl adrannau Llywodraeth Cymru. Nid rhestr o fuddsoddiadau na rhaglenni mohoni, ac ni fydd yn gwireddu newid ar ei phen ei hun. Yn hytrach, mae’n pennu’r canlyniadau y dylid gallu eu cyflawni drwy fuddsoddi mewn seilwaith, heb nodi’n union sut beth fydd y seilwaith hwnnw, a sut rydym yn bwriadu gweithio i gyflawni’r canlyniadau hynny. Bydd asesiadau effaith llawn yn cael eu cynnal o’r buddsoddiadau mewn seilwaith gan adrannau Llywodraeth Cymru o dan y Strategaeth i sicrhau bod yr effeithiau unigryw yn cael eu nodi, eu hystyried, a’u lliniaru yn ôl yr angen.    
Am y rhesymau hyn, mae’r asesiad effaith hwn yn cael ei gynnal ar lefel gymharol uchel.

Y tymor hir

Mae seilwaith yn fater ar gyfer y tymor hir. Bydd y penderfyniadau buddsoddi sy’n cael eu gwneud heddiw yn effeithio ar fywydau a bywoliaeth dinasyddion Cymru am ddegawdau i ddod, ac felly rhaid i ganlyniadau’r Strategaeth barhau’n berthnasol am amser hir. Mae angen inni hefyd feddwl am sut i ddiogelu seilwaith at y dyfodol. Nid mater o ddiogelu cyflwr ffisegol y seilwaith rhag newidiadau amgylcheddol fel llifogydd a thymereddau uchel yn unig yw hyn, ond rhaid hefyd ystyried y defnydd a wneir ohono. Felly, mae dull y Strategaeth sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn cydnabod y gall y defnydd a wneir o seilwaith newid dros amser wrth i ysgogwyr byd-eang a lleol a thueddiadau newid yr hyn yr ydym angen i seilwaith ei gyflawni.

Mewn cyferbyniad i'r canlyniadau hirdymor y mae'r Strategaeth yn eu cefnogi, cydnabyddir bod y sylfaen dystiolaeth, atebion technolegol ar gyfer prosiectau penodol - a'n cyllidebau – gallu newid yn gyflym. Am y rheswm hwn, mae'r canlyniadau yn y Strategaeth wedi'u pennu heb gyfeirio at fuddsoddiadau mewn seilwaith penodol. Bydd cyfres o gynlluniau – Cynlluniau Cyllid Seilwaith – yn cael eu cyhoeddi drwy gydol tymor y Strategaeth. Drwy bennu cynlluniau cyllid tymor byrrach yn sylfaen ar gyfer y Strategaeth, byddwn yn cadw'r gallu i adolygu dystiolaeth a gwneud buddsoddiadau mwyaf effeithiol i gyflawni canlyniadau tymor hwy y Strategaeth.

Atal

Mae'r canlyniadau a nodir yn y Strategaeth eu hunain yn ysgogwyr yr agenda atal. Er enghraifft, mae lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, lleihau'r defnydd anghynaliadwy o adnoddau naturiol, lleihau anghydraddoldeb cymdeithasol a hybu cydlyniant cymunedol, bob un ohonynt, yn amcanion penodol y mae'n rhaid inni weithio i’w cyflawni wrth inni fuddsoddi mewn seilwaith.

Ymhen amser, a thrwy’r buddsoddiadau mewn seilwaith y bydd yn eu hysgogi, bydd y Strategaeth yn ein cefnogi i atal problemau. Bydd yn ein galluogi i gydbwyso’r angen i sicrhau gwerth am arian wrth fuddsoddi mewn seilwaith gyda’n hymrwymiad i greu manteision ehangach i’r gymdeithas a'r economi gan sicrhau ar yr un pryd y bydd unrhyw niwed i'r amgylchedd yn cael ei gyfyngu i’r eithaf.

Integreiddio

Strategaeth sy’n seiliedig ar ganlyniadau yw hon. I’r perwyl hwnnw, mae’r fframwaith a nodir ynddi ar gyfer blaenoriaethu ein buddsoddiadau mewn seilwaith yn y dyfodol wedi’u cynllunio i sicrhau bod y buddsoddiadau hyn yn bodloni amryfal amcanion, ac yn cyflawni amryfal fanteision sy’n mynd y tu hwnt i ddiwallu anghenion y defnyddiwr yn unig. Mae’r manteision hynny yn cynnwys diogelu bioamrywiaeth, lleihau llygredd, neu adfywio ardaloedd o amddifadedd. Yn y gorffennol, mae ein penderfyniadau ynghylch buddsoddi mewn seilwaith wedi cael eu seilio, yn nodweddiadol, ar feini prawf nad oeddent yn ystyried y canlyniadau ehangach hyn. Er enghraifft, roedd penderfyniadau buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yn dueddol o gael eu seilio ar arbedion amser teithio i gwsmeriaid a’r cynnydd cysylltiedig o ran cynhyrchiant, tra bo’n bosibl na roddwyd pwyslais digonol ar y manteision ehangach, fel canlyniadau iechyd a llesiant gwell.

Mae’r Strategaeth yn cydnabod felly y rhyngddibyniaeth rhwng yr hyn yr ydym yn ei gyflawni a’r ffaith bod cyflawni un amcan yn gallu cael effaith gadarnhaol ar amcanion eraill. Er enghraifft, drwy fuddsoddi mewn tai, natur a teithio llesol yn cael effaith ar wella canlyniadau iechyd tymor hir.

Ymhellach at hyn, mae’r bennod o’r Strategaeth ar egwyddorion trawsbynciol yn cynrychioli’r gofynion sylfaenol pwysig y mae’n rhaid i holl gynigion buddsoddi mewn seilwaith y dyfodol eu bodloni. Bydd yr egwyddorion trawsbynciol hyn, fel sicrhau bod buddsoddiadau yn cyflawni yn erbyn ein hamcanion datgarboneiddio, yr agenda creu lleoedd, a’u bod yn dangos ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol drwy fabwysiadu dulliau cyllidebu ar sail rhywedd, yn cael eu hymwreiddio gan bob adran o Lywodraeth Cymru pan fydd buddsoddiadau mewn seilwaith yn cael eu cynllunio.

Ni fydd fframwaith strategol ar gyfer blaenoriaethu buddsoddiadau ond mor effeithiol â’r cynigion a gaiff eu blaenoriaethu gan y fframwaith hwnnw. Mae’n ofynnol o dan y Strategaeth felly i adrannau gynllunio, dylunio a datblygu eu cynigion seilwaith. Yn ogystal â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, mae’r rhain yn cynnwys:

  • dangos bod dull cyd-drefnus ac integredig wedi’i ddilyn wrth gynllunio a datblygu
  • cofleidio’n llawn y cyfleoedd i gydleoli gwasanaethau allweddol i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.

Cydweithredu

Mae’r Strategaeth yn darparu fframwaith ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith ar draws Llywodraeth Cymru gyfan. Mae holl adrannau Llywodraeth Cymru yn rhannu’r cyfrifoldeb felly am gynllunio, datblygu a chyflawni’r buddsoddiadau. Datblygwyd y Strategaeth drwy ddull ailadroddol a chydweithredol gyda swyddogion o adrannau ar draws Llywodraeth Cymru. Ymhellach at hyn, yn unol ag egwyddorion trawsbynciol y Strategaeth, a’r Pum Ffordd o Weithio, mae disgwyl i bob adran o Lywodraeth Cymru gydweithredu i ddatblygu eu buddsoddiadau penodol o dan y Strategaeth i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i ddarparu atebion integredig.  

Cyfranogiad

Cafodd y Strategaeth ei datblygu drwy gynnal ymarferion ymgysylltu a gweithdai o fewn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys sicrhau bod canlyniadau'r Strategaeth yn cyd-fynd â strategaethau allweddol, fel Cymru Sero Net. Gan gydnabod fuddiannau penodol rhanddeiliaid allweddol yn ein buddsoddiadau seilwaith, ymgysylltwyd â swyddogion Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ogystal â chynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru.

Effeithiau

Ni fydd y Strategaeth ar ei phen ei hun yn cyflawni unrhyw effeithiau. Darparu’r fframwaith i sicrhau mai’r buddsoddiadau mewn seilwaith hynny sy’n cynnig yr effeithiau mwyaf fydd yn cael blaenoriaeth wrth ddyrannu ein hadnoddau cyfyngedig y mae’r Strategaeth. Bydd asesiadau effaith llawn yn cael eu cynnal o’r buddsoddiadau mewn seilwaith a wneir gan adrannau Llywodraeth Cymru o dan y Strategaeth, er mwyn sicrhau bod yr effeithiau unigryw yn cael eu nodi, eu hystyried a’u lliniaru yn ôl yr angen. 

Costau ac arbedion

Nid oes unrhyw gostau sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i gyhoeddi'r Strategaeth. Mae’r costau sy'n gysylltiedig â datblygu, cyhoeddi a monitro'r Strategaeth yn cael eu bodloni gan gyllidebau ac adnoddau presennol.

Drwy gymhwyso’r Strategaeth wrth flaenoriaethu ein buddsoddiadau mewn seilwaith, yn y tymor hwy, dylai’r gwerth a fydd yn deillio o'n buddsoddiadau wella yn sgil cyflawni canlyniadau ar draws y pedwar maes llesiant.

Mecanwaith

Ni chynigir unrhyw ddeddfwriaeth. Fframwaith strategol yw’r Strategaeth sy'n nodi'r canlyniadau y dylai buddsoddi mewn seilwaith eu galluogi dros y 10 mlynedd nesaf. Y prif ysgogiad wrth gyflwyno’r Strategaeth yw sicrhau bod y gyfres o fuddsoddiadau mewn seilwaith a wneir gan adrannau Llywodraeth Cymru o dan y Strategaeth, ar y cyd, yn cyflawni'r canlyniadau a nodwyd. Fodd bynnag, mae'r "egwyddorion trawsbynciol" a nodir yn y Strategaeth yn sicrhau bod cynigion seilwaith wedi'u cynllunio, eu dylunio a'u datblygu i gyflawni canlyniadau'r Strategaeth, ond hefyd drwy ddilyn dull cydweithredol er mwyn darparu atebion integredig, hirdymor, carbon isel, sy'n canolbwyntio ar atal.

Mae’r bennod ar gyflawni yn y Strategaeth yn nodi gofyniad i sicrhau bod buddsoddiadau mewn seilwaith yn cael eu gwerthuso’n gadarn. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dull cyffredin i’r adrannau ei ddilyn wrth iddynt fynd ati i werthuso. Mae'n deillio o ganllawiau’r Llyfr Magenta: canllawiau’r llywodraeth ganolog ar werthuso a’r Llyfr Gwyrdd: arfarnu a gwerthuso yn y llywodraeth ganolog. Datblygwyd y dull gweithredu ar y rhagdybiaeth y bydd ymarferion gwerthuso o dan y Strategaeth yn cael eu cynnal gan adrannau Llywodraeth Cymru ar lefel maes buddsoddi mewn seilwaith. Wrth werthuso o dan y Strategaeth, bydd unrhyw sicrwydd presennol a thystiolaeth arall a reolir gan yr adrannau yn cael eu tynnu ynghyd mewn un ddogfen er mwyn asesu cyfraniad y meysydd buddsoddi hynny tuag at gyflawni canlyniadau'r Strategaeth. Bydd ystyried a lynir at egwyddorion trawsbynciol y Strategaeth yn elfen hanfodol wrth werthuso’r meysydd buddsoddi.

2. Casgliadau

Mae'r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn strategaeth sy'n seiliedig ar ganlyniadau, wedi'i seilio ar y pedwar maes llesiant – economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol – o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae’r Strategaeth yn cyfrannu at ein cynnydd tuag at yr holl nodau llesiant cenedlaethol. Fodd bynnag, ni fydd y Strategaeth yn sicrhau unrhyw fanteision ar ei phen ei hun. Y buddsoddiadau mewn seilwaith a wneir o dan y Strategaeth, yn hytrach, fydd yn gwireddu'r manteision hyn. Bydd y buddsoddiadau hyn yn destun Asesiadau Effaith Integredig, yn ôl yr angen, a fydd yn ystyried y bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y buddsoddiadau penodol a gynigir.