Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, diolch i’n rhaglen diwygio addysg sy’n cynnwys ein cwricwlwm ysgol newydd, mae Cymru wedi hoelio sylw’r byd. Mae gennym gyfle bellach i greu llwybr unigryw i ddiwallu anghenion ein dysgwyr ac i fod yn genedl y mae eraill yn dewis ei dilyn. Wrth i ni symud ymlaen ar y daith hon, rwy’n benderfynol y bydd ein gwaith yn cael ei lywio gan y dystiolaeth fwyaf trwyadl a chadarn. Mae 2 agwedd hanfodol bwysig i hyn.

Yn gyntaf, rwyf am i’r holl bolisïau rydym yn eu mabwysiadu a’u gweithredu gael eu llywio gan ymchwil addysgol o ansawdd uchel, gan gynnwys y gwerthusiadau polisi rydym yn eu comisiynu a chanfyddiadau ymarferwyr wrth iddynt weithio i wella ein system addysg er budd dysgwyr. Mae hwn yn aml yn safbwynt sy’n cael ei arddel gan lywodraethau; mae’n fwriad gen i i’w wireddu. Wrth i bolisïau gael eu cyflwyno i mi i’w hystyried, byddaf yn cymhwyso’r egwyddorion hyn wrth benderfynu ar eu heffeithiolrwydd:

  • beth yw’r dystiolaeth ymchwil sy’n sail iddynt?
  • beth yw ein cynlluniau i werthuso’r polisïau hyn wrth iddynt gael eu gweithredu?
  • sut rydym yn bwriadu cynnwys ymarferwyr yn y broses honno?

Yn ail, fel sy’n aml yn digwydd mewn proffesiynau eraill, rwyf am i ymarfer ein harweinwyr, athrawon, staff cymorth a staff awdurdodau lleol gael ei lywio gan dystiolaeth ymchwil hygyrch ac ymholiad proffesiynol. Credwn y bydd hyn yn hanfodol i wireddu ein cwricwlwm ysgol newydd ac agweddau eraill ar ein rhaglen ddiwygio yn llwyddiannus.

Hoffwn ddiolch i bawb yn ein system addysg drwyddi draw am eu gwaith yn cyfrannu at ddatblygu’r ddogfen weledigaeth hon. Mae cymeradwyaeth sefydliadau ac academyddion o’r DU ac yn rhyngwladol hefyd yn fy nghalonogi’n fawr. Maent wedi nodi ei huchelgais a’i dyhead i fod yn wirioneddol flaengar yn fyd-eang, ac rydym yn falch o gadarnhau bod hynny’n wir.

Bydd tri cham gweithredu allweddol nawr yn dilyn lansiad y strategaeth hon. Yn gyntaf, byddwn yn ystyried y ffordd orau o sefydlu’r seilwaith i lywodraethu a gweithredu’r strategaeth wrth i ni ei symud yn ei blaen. Yn ail, byddwn yn gweithio gyda’n sector prifysgolion i sicrhau ein bod yn gallu datblygu capasiti ac allbwn ymchwil sy’n canolbwyntio’n benodol ar system addysg Cymru ac ar ein rhaglen ddiwygio. Yn olaf, ac yn fwyaf uchelgeisiol o bosibl, byddwn yn datblygu dull a fydd yn galluogi ein proffesiwn addysg i weithredu mewn ffordd sy’n fwy seiliedig ar dystiolaeth. Mae gwaith cwmpasu ar y prosiect hwn sy’n cynnwys ysgolion, awdurdodau lleol a phrifysgolion eisoes wedi dechrau, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau hynny cyn i ni ddechrau ar beth fydd yn rhaglen ddatblygu barhaus a hirdymor.

Mae’r ddogfen weledigaeth hon yn cynrychioli dechrau’r daith i sicrhau bod polisi ac ymarfer addysg yng Nghymru yn llwyr seiliedig ar dystiolaeth. Bydd llawer o waith i’w wneud wrth weithredu’r strategaeth hon; edrychaf ymlaen at weithio gyda phob rhan o’n system addysg a’n partneriaid rhyngwladol er mwyn i’r cyfan ddwyn ffrwyth.

Jeremy Miles AS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gefnogi’r farn a gyflwynwyd gan brif sefydliadau ysgolheigaidd y DU, y dylai polisi ac ymarfer addysgol gael eu llywio gan y dystiolaeth ymchwil orau sydd ar gael [troednodyn 1].

Mae hefyd yn cydnabod eu bod, yn eu hadroddiad, yn nodi diffyg difrifol o ymchwil addysgol yng Nghymru a sut y mae hynny’n rhwystr i ddefnyddio tystiolaeth a mewnwelediad i ymarferwyr a llunwyr polisi [troednodyn 2].

Ym mis Tachwedd 2018, ymrwymodd y Gweinidog Addysg ar y pryd y byddai Llywodraeth Cymru yn:

  • ‘datblygu proses dysgu proffesiynol gydol gyrfa sydd â’i gwreiddiau mewn ymchwil ar sail tystiolaeth a chydweithredu effeithiol
  • ‘buddsoddi mewn ymchwil i addysg sy’n benodol i Gymru, a sicrhau bod hyn yn cael ei drosi’n weithredu er mwyn gwella ysgolion
  • ‘creu ar y cyd strategaeth ymchwil i addysg genedlaethol sy’n darparu fframwaith cydlynus a thryloyw ar gyfer ymchwil i addysg yng Nghymru’ [troednodyn 3]

Er mwyn gwireddu’r ymrwymiad hwn a chefnogi ei rhaglen diwygio addysg gan gynnwys cyflwyno’r cwricwlwm ysgol newydd [troednodyn 4], mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda sefydliadau ac unigolion yng Nghymru (yr hyn y cyfeiriwn ato fel eco-system ymchwil addysgol Cymru), ledled y DU ac yn rhyngwladol i ddatblygu 'Strategaeth genedlaethol ar gyfer ymchwil ac ymholiad addysgol' (NSERE).

Mae cydnabod bod cynhyrchu ymchwil ac ymholiad a’u defnydd gan lunwyr polisi ac ymarferwyr cyn bwysiced â’i gilydd yn sylfaen i’r broses o ddatblygu’r NSERE a’r ddogfen weledigaeth hon.

Mae adroddiadau blaenorol wedi nodi’r angen i gryfhau capasiti a chyfanswm yr ymchwil addysgol yng Nghymru a’r rhwystrau sydd wedi atal cynnydd [troednodyn 5].

Wedi’i llywio gan yr adroddiadau hyn a’r ystod ehangach o dystiolaeth a gasglwyd, mae’r NSERE yn cynrychioli strategaeth gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu a chynnal ymchwil ac ymholiad addysgol yng Nghymru.

Mae’r strategaeth yn ymwneud â phob grŵp oedran, cyfnod a sector o fewn system addysg Cymru. Er bod llawer o’r cyfeiriadau a gynhwysir isod yn cyfeirio at addysg 3–18 ac ymchwil addysgol mewn addysg uwch, bydd aliniad rhwng yr NSERE a sectorau eraill o fewn y system addysg yn dilyn fel rhan o sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil [troednodyn 6].

Mae gwahanol agweddau ar y weledigaeth a nodir yn y ddogfen hon eisoes yn cael eu gweithredu; bydd eraill yn cael eu gweithredu fel rhan o ddatblygiadau yn y seilwaith ar gyfer ymchwil ac ymholiad addysgol yng Nghymru a nodir yn adran 2.

Mae’r adroddiad gan y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig, ac ymrwymiad y Gweinidog Addysg, yn cydnabod pwysigrwydd ymchwil i ymarferwyr addysgol. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod hwn yn faes y mae angen ei ddatblygu’n sylweddol yng Nghymru [troednodyn 7]. Bydd y datblygiadau rydym yn bwriadu eu gweithredu yn canolbwyntio ar alluogi ymarferwyr i fod yn ddefnyddwyr ymchwil o ansawdd uchel ac yn gynhyrchwyr ymholiad proffesiynol sy’n cael ei lywio gan ddulliau ymchwil trwyadl. Dyma pam y dewiswyd cynnwys ‘ymchwil’ ac ‘ymholiad’ yn ein strategaeth, fel bod y dull sydd ar waith yng Nghymru yn gynhwysol ac yn ‘agos at ymarfer’ [troednodyn 8].

Rydym yn cydnabod y gall ‘ymchwil’ gwmpasu sbectrwm o weithgareddau sy’n defnyddio dulliau ymchwil. Nid ydym yn cytuno â’r farn bod ymchwil yn rhywbeth na ellir ond ei wneud gan ymchwilwyr addysgol proffesiynol ac nid gan weithwyr addysg proffesiynol. Mae gennym ddiddordeb yn y cysyniad o ‘gontinwwm’ datblygu lle mae gweithwyr addysg proffesiynol yn symud o fod yn ymholwyr proffesiynol i fod yn ymchwilwyr athrawon. Rydym yn dymuno dysgu o ddatblygiadau yn y maes hwn mewn proffesiynau eraill, yn enwedig y proffesiwn iechyd [troednodyn 9].

Wrth ddatblygu’r NSERE, fodd bynnag, rydym wedi ystyried barn rhai aelodau o’r gymuned ymchwil addysgol academaidd, sydd wedi dadlau y dylai’r strategaeth wahaniaethu rhwng ‘ymchwil academaidd’ ac ‘ymholiad proffesiynol’. I’r perwyl hwnnw, a heb droi cefn ar ein cred bod ‘ymholiad’ ac ‘ymchwil’ o werth cyfartal ac yn gyd-ddibynnol, cynigir y diffiniadau canlynol:

  • Mae ‘ymchwil academaidd’ yn broses ymchwilio sy’n arwain at wybodaeth newydd. Caiff ei chyhoeddi fel bod eraill yn gallu dysgu ohoni a’i beirniadu. Er mwyn cael ei hystyried o ansawdd uchel, dylai fod yn sylweddol, yn wreiddiol ac yn drwyadl. I’r perwyl hwnnw, dylid ei hadolygu gan gymheiriaid cyn iddi gael ei chyhoeddi. Fel arfer, mae’r math hwn o ymchwil yn cael ei gynnal gan academyddion, y rhai sy’n astudio ar gyfer graddau uwch ac ymchwilwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes llywodraeth a’r sectorau annibynnol.
  • Caiff ‘ymholiad proffesiynol’ fel arfer ei gynnal gan ymarferwyr yn eu gweithle fel ffordd o nodi problemau, sefydlu achosion, dod o hyd i atebion, gwerthuso ymarfer a sicrhau gwelliant. Os yw am fod o werth, dylai ddefnyddio dulliau ymchwil gweithredu sy’n systematig, yn gylchol ac yn rhoi pwyslais ar gasglu tystiolaeth.

Mae’r ddogfen weledigaeth hon yn defnyddio’r sail dystiolaeth ganlynol:

  • yr adroddiadau a’r cyhoeddiadau y cyfeirir atynt yn y ddogfen
  • trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol gydag amrywiaeth o sefydliadau o fewn eco-system ymchwil addysgol Cymru ac yn ehangach (fe’u rhestrir yn Atodiad A)
  • trafodaethau mewnol o fewn Llywodraeth Cymru
  • trafodaethau gyda chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban
  • trafodaethau gyda’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a’r Atlantic Rim Collaboratory
  • trafodaethau gydag ymchwilwyr academaidd yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Ontario, y Ffindir, Seland Newydd, yr Emiraethau Arabaidd Unedig a’r Iseldiroedd
  • adolygiadau o dystiolaeth rhyngwladol a gynhaliwyd gan interniaid o raglen Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol
  • gwaith a wnaed gan swyddogion ar secondiad o sefydliadau addysg uwch Cymru ac un o’r consortia rhanbarthol
  • gwaith ymholi a wnaed gan Gymdeithion Carfan 3 o’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Rhannwyd drafft cychwynnol a ddeilliodd o’r gwaith hwn gydag arweinwyr sefydliadau o fewn eco-system ymchwil addysgol Cymru. Roedd yr ymatebion a ddaeth i law i’r nodau a’r uchelgeisiau a nodir yn y drafft yn gefnogol iawn ar y cyfan, a gwnaethpwyd awgrymiadau ar gyfer cryfhau ac egluro’r testun, ac mae llawer ohonynt wedi eu mabwysiadu yn y drafft terfynol hwn.

Yn ogystal, anfonwyd y drafft cychwynnol i’w adolygu’n ddienw gan gymheiriaid at 5 ymchwilydd addysgol nodedig, pob un ohonynt yn gweithio y tu allan i Gymru ond sydd wedi ymwneud yn ddiweddar â rhaglen diwygio addysg Cymru. Maent yn cynnwys 2 o gyn-lywyddion Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain, aelodau o baneli rhyngwladol yr OECD a chyfranogwyr yn yr Atlantic Rim Collaboratory. Roedd eu hymatebion yn gefnogol iawn i’r drafft a’i uchelgais, ond ar yr un pryd ychwanegwyd awgrymiadau ar gyfer ei wella sydd wedi’u cynnwys i raddau helaeth yn y drafft terfynol hwn.

Ar ddechrau’r broses o ddatblygu’r NSERE, cytunwyd y byddai’n cael ei chyflwyno mewn 3 fformat, yn cynnwys:

  • gweledigaeth strategol (y ddogfen hon) a fyddai’n nodi cyfeiriad polisi a strategaeth weithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru
  • crynodeb gweithredol wedi’i dargedu at arweinwyr o fewn y system addysg
  • poster a fyddai’n sicrhau bod diben a bwriad y strategaeth ar gael mewn fformat hygyrch i ymarferwyr

​​​​​​[troednodyn 1] Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig (2018) 'Harnessing Educational Research', Llundain: Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig, 14.

[troednodyn 2] 'Ibid.', 38.

[troednodyn 3] BERA a Llywodraeth Cymru (2019) 'Dyfodol Ymchwil i Addysg yng Nghymru'. Llundain, BERA a Llywodraeth Cymru, 10.

[troednodyn 4] Donaldson, G (2015) Dyfodol llwyddiannus: 'Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru'.

Llywodraeth Cymru (2021) 'Cwricwlwm i Gymru: Cynllun Gweithredu'.

[troednodyn 5] Furlong, J a White, P (2001) 'Educational Research Capacity in Wales: A Review'. Caerdydd: UCET Cymru.

Gardner, J (2009) 'Welsh Education Research Network, WERN: Phase 2 Evaluation', Belfast: Ysgol Addysg Prifysgol Queen’s.

Tabberer, R (2013) 'Adolygiad o hyfforddiant cychwynnol athrawon'.

OECD (2014) 'Improving Schools in Wales: An OECD Perspective', Paris: OECD.

Power, S a Taylor, C (2017) 'Educational research in higher education in Wales: Findings from a national survey', Caerdydd: WISERD.

Oancea, A et al (2017) 'Evaluation of wiserdeducation: A report to HEFCW', Caerphilly: HEFCW.

OECD (2017) 'The Welsh Education Reform Journey', Paris: OECD.

Furlong, J (2015) 'Addysgu Athrawon Yfory: Opsiynau ynglŷn â dyfodol addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru', Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

OECD (2020) 'Achieving the New Curriculum for Wales'. OECD: Paris.

[troednodyn 6] Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), yn amodol ar ddeddfwriaeth, yn cael ei sefydlu fel corff annibynnol dan nawdd Llywodraeth Cymru erbyn 2023. Bydd yn gyfrifol am oruchwylio’r sector ôl-16 yng Nghymru sy’n cynnwys addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, dosbarthiadau chwech ac ymchwil ac arloesi wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru yn y sector AHO. 'Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (AHO) Egwyddorion ar Gyfer Newid'.

[troednodyn 7] Tripney, J et al (2018) 'Meithrin Cyswllt Athrawon â Thystiolaeth Ymchwil', Caerdydd: Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Estyn (2016) 'Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2015–2016' Caerdydd: Estyn, 20 i 21.

OECD (2020) 'Achieving the New Curriculum for Wales', Paris: OECD.

[troednodyn 8] Wyse, D et al (2018) 'The BERA Close-to-Practice Research Project: Research Report', Llundain: BERA.

[troednodyn 9] Gweler, er enghraifft, waith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Nodau, amcanion, blaenoriaethau a meysydd

Nod

Nod yr NSERE yw y dylai polisi ac ymarfer addysgol yng Nghymru gael eu llywio gan y dystiolaeth ymchwil orau sydd ar gael a’r ymholiad disgybledig a wneir gan weithwyr addysg proffesiynol.

Amcanion

Amcanion yr NSERE yw:

  • cefnogi ymhellach y gwaith o ddatblygu polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy ymgysylltu ag ystod eang o ymchwil gan Lywodraeth Cymru a rhannau eraill o’r system addysg yng Nghymru [troednodyn 10]
  • datblygu ymhellach gapasiti a chyfanswm yr ymchwil o ansawdd uchel (sy’n defnyddio ystod o ddulliau methodolegol) o fewn ein sefydliadau addysg uwch, sy’n gallu helpu i ddiwallu anghenion system addysg Cymru
  • datblygu proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru lle mae arweinwyr, athrawon, staff cymorth, staff awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol a gweithwyr addysg proffesiynol eraill yn defnyddio tystiolaeth ymchwil o ansawdd uchel ac yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymholiad proffesiynol cadarn
  • cyfrannu at ymchwil a thystiolaeth rhyngwladol a dysgu oddi wrth hynny

Blaenoriaethau

Bydd blaenoriaethau’r NSERE yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a byddant yn cynnwys:

  • y cwricwlwm ysgol a’r trefniadau asesu newydd, a’r addysgeg a fydd ei hangen i’w gwireddu
  • adferiad ein system addysg wedi effaith pandemig COVID-19
  • arweinyddiaeth yn ein system a darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel
  • tegwch a chynhwysiant yn ein system ar gyfer dysgwyr o bob cefndir a gallu, gan gynnwys y rhai â nodweddion bregus
  • Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog

Meysydd

Bydd yr NSERE yn ceisio gwireddu’r nodau, yr amcanion a’r blaenoriaethau hyn drwy waith mewn tri maes cyd-ddibynnol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu:

  • seilwaith cenedlaethol i gefnogi ymchwil ac ymholiad addysgol
  • capasiti a chyfanswm yr ymchwil o fewn sefydliadau addysg uwch
  • proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Bydd y gyd-ddibyniaeth a’r cysylltedd rhwng y meysydd hyn yn cael eu hyrwyddo drwy fanteisio ar gyfleoedd i ddod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi at ei gilydd i helpu i rannu gwybodaeth a’i gwneud yn hygyrch.

Image
Y 3 maes gweithgarwch yn yr NSERE a’r gyd-ddibyniaeth rhyngddynt.

Diagram 1: Meysydd yr NSERE a’u cyd-ddibyniaeth.

[troednodyn 10] Fel y mae’r Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig yn nodi, er mai anaml y mae tystiolaeth ymchwil yn darparu atebion pendant a diamod ar gyfer penderfyniadau am bolisi ac ymarfer addysgol oherwydd amrywiadau mewn cyd-destun, unigolion a gwerthoedd, serch hynny lle mae corff o ymchwil wedi cronni dros amser , mae’n sicr yn gallu llywio penderfyniadau. Gweler y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig (2018) 'Harnessing Educational Research', Llundain: Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig, 25.

Seilwaith cenedlaethol

Gan adlewyrchu un o ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig [troednodyn 11], bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau ar gyfer sefydlu’r seilwaith cenedlaethol sydd ei angen i wireddu gweledigaeth yr NSERE.

Bydd swyddogaethau’r seilwaith cenedlaethol hwn yn cynnwys:

  • cydlynu gweithgarwch polisi sy’n canolbwyntio ar ymchwil o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg gan weithio ochr yn ochr â phroffesiwn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, gan gynnwys datblygu gallu swyddogion i ddefnyddio ymchwil yn effeithiol mewn gwaith datblygu polisi
  • alinio’r gweithgaredd hwn â gwaith meysydd eraill yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
    • y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
    • Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
    • y Gyfarwyddiaeth Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
    • meysydd polisi eraill lle mae gwaith yn cael ei wneud sy’n effeithio ar addysg
  • gweithio gyda’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i ddatblygu cynllun strategol 5 mlynedd sy’n nodi meysydd o ddiddordeb ymchwil Llywodraeth Cymru a sicrhau ymwybyddiaeth o synergedd â’r cynllun gweithredu blynyddol ar gyfer ymchwil addysg i’w gomisiynu gan Lywodraeth Cymru
  • alinio ei waith â sefydliadau ac arolygiaethau eraill ar lefel llywodraethu gan gynnwys y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg, Cymwysterau Cymru, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • cysylltu â Phrifysgolion Cymru, Sefydliadau Ymchwil y DU, sefydliadau elusennau addysg, cymdeithasau dysgedig, Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain (BERA) a’r trydydd sector yng Nghymru
  • gweithio gyda sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i ddatblygu capasiti a chyfanswm yr ymchwil
  • gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a sefydliadau addysg uwch i ddatblygu proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Byddai’r seilwaith cenedlaethol hefyd yn rheoli llywodraethu, gweithredu, adrodd, adolygu a diweddaru’r NSERE, drwy:

  • gynllun busnes sy’n nodi prosesau monitro, adolygu ac adrodd
  • sefydlu grŵp cyfeirio allanol i gynnwys cynrychiolwyr o’r eco-system ymchwil addysgol

Bydd hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill yng Nghymru i hyrwyddo gweithgarwch ymchwil addysgol, gan gynnwys:

  • cynnal seminarau rheolaidd a digwyddiadau eraill
  • gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu ystorfa Gymreig ar gyfer ymchwil addysgol
  • meithrin cysylltiadau â sefydliadau tebyg ledled gwledydd y DU ac yn rhyngwladol
Image
Y 6 elfen sy’n rhan o’r eco-system ymchwil addysgol yng Nghymru.

Diagram 2: Ymchwil Addysgol Cymru a’r Eco-System

[troednodyn 11] Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig (2018) 'Harnessing Education Research', Llundain: Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig, 34.

Addysg uwch

Cyd-destun

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y dylai ymchwil addysgol fod yn feirniadol ac yn adeiladol, yn herio uniongrededd presennol ac yn cynnig adnoddau i ymarferwyr a llunwyr polisi sy’n eu galluogi i feddwl yn well am yr hyn maent yn ei wneud, ac er mwyn gwireddu hyn, dylai ymchwil fod yn annibynnol, gyda chanlyniadau nad ydynt yn cael eu dylanwadu gan gyllidwyr a llunwyr polisi [troednodyn 12].

Er ei bod yn cydnabod y bydd gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru eu strategaethau ymchwil eu hunain sy’n cwmpasu ystod eang o fuddiannau (nad yw rhai ohonynt o bosibl yn uniongyrchol berthnasol i system addysg Cymru nac i bolisi addysg Llywodraeth Cymru), mae gan Lywodraeth Cymru fudd i sicrhau capasiti a chyfanswm yr ymchwil sy’n bodoli o fewn y sector addysg uwch yng Nghymru drwy’r NSERE a all lywio ei hamcanion polisi a’u gweithrediad.

Yn ogystal â cheisio barn amrywiaeth o randdeiliaid wrth ddatblygu’r maes hwn o’r NSERE, rydym wedi cynnal adolygiadau tystiolaeth o’r dulliau a ddefnyddiwyd gan systemau addysg eraill y DU a rhai systemau rhyngwladol i ddatblygu capasiti ymchwil mewn addysg uwch [troednodyn 13] ac wedi gwahodd ein sefydliadau addysg uwch ein hunain i fynegi eu huchelgeisiau ar gyfer ymchwil addysgol.

Fel y nodwyd eisoes, mae’r adolygiad o dystiolaeth yn datgelu bod y rhan fwyaf o systemau addysg rhyngwladol, gyda rhai eithriadau, yn eithrio prifysgolion fel cyfranwyr at ddatblygiadau newydd mewn polisi ac ymarfer [troednodyn 14]. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â record Llywodraeth Cymru a’i chefnogaeth hirsefydlog i Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) [troednodyn 15] (canolfan ymchwil genedlaethol seiliedig ar bartneriaeth 5 prifysgol yng Nghymru), ac yn ogystal ag, yn fwy diweddar, gyfranogiad helaeth pob sefydliad addysg uwch yn ei rhaglen diwygio addysg a datblygiad yr NSERE.

Mae crynodeb o farn  sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, fel y mynegwyd drwy Gynghrair Ymchwil Addysg Sefydliadau Addysg Uwch Cymru (WHERA), yw y dylai’r NSERE:

  • adeiladu ar gryfderau presennol y sector, gan gynnwys strwythurau ymchwil cydweithredol presennol (gweler Atodiad 2)
  • sicrhau cefnogaeth lawn i’r bwriad a fynegwyd yn y meini prawf achredu ar gyfer rhaglenni addysg gychwynnol athrawon newydd yng Nghymru (y dylai’r holl staff ddod yn weithgar ym maes ymchwil [troednodyn 16] gan ganiatáu i fwy ohonynt gael eu cynnwys mewn ymarferion Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn y dyfodol nag o’r blaen [troednodyn 17]

Er mwyn datblygu ymhellach ymchwil o ansawdd uchel sy’n berthnasol i system addysg Cymru ac sy’n meithrin cydweithio pellach ar lefel genedlaethol, y DU ac yn rhyngwladol, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch a chyrff eraill i ddatblygu capasiti a chyfanswm ymchwil addysg o ansawdd uchel drwy:

  • gryfhau llwybrau gyrfa ar gyfer ymchwilwyr addysgol
  • hyrwyddo gweithgarwch cydweithredol pellach rhwng sefydliadau addysg uwch
  • datblygu canolfannau ymchwil cenedlaethol

Llwybrau gyrfa ar gyfer ymchwilwyr addysgol

Fel arfer, mae datblygiad gyrfa ar gyfer ymchwilwyr academaidd yn digwydd drwy gamu ymlaen o astudiaeth israddedig i raglen meistr sy’n cynnwys cwmpas o dechnegau ymchwil, ac yna i astudiaeth ddoethurol (drwy raglenni PhD neu Ddoethuriaethau Proffesiynol mewn Addysg) ac yn y pen draw i benodiadau academaidd i swyddi ymchwil neu addysgu/ymchwil.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad MA cenedlaethol mewn Addysg a fydd yn galluogi nifer fawr o ymarferwyr addysgol i ddatblygu eu sgiliau ymchwil ac ymholiad. Bydd y rhaglen meistr ar gael o fis Medi 2021.

I’r rhai sy’n dymuno camu ymlaen o’r rhaglen hon neu gymwysterau lefel meistr eraill, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a chyfleoedd sydd ar gael drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Er mwyn gwella’r cyfleoedd hyn ar lefel doethuriaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector addysg uwch a chyrff eraill i:

  • hyrwyddo mwy o gyfleoedd ar gyfer astudio ar lefel PhD drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Ar hyn o bryd, dim ond 1 o 8 sefydliad addysg uwch Cymru sy’n cael ei gymeradwyo i gefnogi’r llwybr addysg o fewn y bartneriaeth hyfforddiant doethurol, cyfran llawer is nag ar draws y DU, lle mae 55% o sefydliadau addysg uwch yn rhan o’r rhwydwaith goruchwylio [troednodyn 18]. Drwy drafod â’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a chan ddibynnu ar ganlyniadau asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ehangu’r rhwydwaith goruchwylio
  • archwilio’r potensial ar gyfer ariannu llwybrau PhD eraill drwy oruchwyliaeth gydweithredol, gyda thimau goruchwylio yn dod o amrywiaeth o sefydliadau addysg uwch a chyda phob sefydliad addysg uwch yn datblygu arbenigeddau ar gyfer astudio lefel doethuriaeth
  • darparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr PhD wedi’u hariannu mewn meysydd sy’n gysylltiedig ag addysg ymgymryd ag interniaethau o fewn Llywodraeth Cymru a rhannau eraill o’r eco-system ymchwil addysgol
  • archwilio’r potensial ar gyfer ariannu rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg fel ffordd o roi mwy o ddewis ac argaeledd astudio priodol ar lefel doethuriaeth i ymarferwyr addysgol
  • cryfhau ymwybyddiaeth sefydliadau addysg uwch o gyfleoedd gyrfa ymchwil o fewn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’u dealltwriaeth o rôl a swyddogaeth proffesiwn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth

Er mwyn annog recriwtio ymchwilwyr ôl-ddoethurol i system addysg Cymru, a’u cadw, bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio opsiynau i ddatblygu cymuned ymchwil addysg gyrfa gynnar yn seiliedig ar y cynllun llwyddiannus a ddarperir gan Sêr Cymru. Byddai hyn yn galluogi ymchwilwyr i ymgymryd â chymrodoriaethau ymchwil ‘yn agos at ymarfer’ ôl-ddoethurol, , ym meysydd blaenoriaeth o’r NSERE ac i fod yn rhan o gymuned hunangynhaliol o ymchwilwyr.

Byddai’r cymrodoriaethau’n cael eu hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r sefydliad addysg uwch sy’n eu cynnal, a byddent yn cael eu cynnig am gyfnod o 3 blynedd. Edrychir hefyd ar botensial y cymrodoriaethau hyn i arwain at benodiadau parhaol o fewn y sefydliadau sy’n eu cynnal. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidog, y gobaith yw cychwyn y cynllun Cymuned Ymchwil Addysg Gyrfa Gynnar o fis Medi 2022.

Hyrwyddo gweithgarwch cydweithredol pellach rhwng sefydliadau addysg uwch

Gan adeiladu ar y dulliau presennol o gydweithio yn y sector addysg uwch (gweler Atodiad 2) yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo gweithgarwch cydweithredol ychwanegol sylweddol ymhlith sefydliadau addysg uwch Cymru. Cynigiwyd hyn ar sail y gred bod capasiti, ansawdd a chyfanswm yr ymchwil yn debygol o gael eu gwella drwy weithgarwch cydweithredol mewn gwlad fach sydd â nifer gymharol fawr o sefydliadau addysg uwch. Mae Prifysgolion Cymru, y corff sy’n cynrychioli sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, hefyd wedi hyrwyddo syniadaeth o’r fath [troednodyn 19].

Mae’r gweithgaredd cydweithredol newydd hwn wedi cynnwys:

  • datblygu’r MA cenedlaethol mewn Addysg
  • datblygu adnoddau ymarferwyr ar gyfer iechyd a lles, myfyrio/ymholiad proffesiynol a chefnogi myfyrwyr Blwyddyn 13 wrth iddynt drosglwyddo i addysg uwch yn 2021
  • gweithgarwch ymchwil a datblygu ar gyfer dylunio addysgeg yn y dyfodol
  • ymchwil sylfaenol ar:
    • Effaith pandemig COVID-19 ar wahanol agweddau ar y system addysg
    • barn dysgwyr ar newidiadau i drefniadau asesu yn 2021
    • Rhaglen Llywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion uwchradd sy’n destun mesurau arbenni

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi parhau i gefnogi WISERD (i barhau â’i gwaith ar y Labordy Data Addysg a’r Astudiaeth Aml-Garfan.

Yn 2021 darparwyd arian ysgogi i alluogi pob sefydliad addysg uwch yng Nghymru i gydweithio i ddatblygu 4 rhwydwaith ymchwil cydweithredol sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru:

  • Cwricwlwm, Asesu ac Addysgeg
  • Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol
  • Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
  • Tegwch a Chynhwysiant

Mae gan bob rhwydwaith gynrychiolaeth o ‘adrannau’ addysg ym mhob un o’r sefydliadau addysg uwch ac arweinydd rhwydwaith. Y cylch gwaith a roddwyd i’r rhwydweithiau ar gyfer y gwaith cychwynnol oedd nodi:

  • meysydd o ddiddordeb ymchwil o fewn y rhwydwaith
  • cyhoeddiadau posibl ar y cyd
  • anghenion datblygiad proffesiynol aelodau’r rhwydwaith
  • cyfleoedd ariannu posibl
  • y potensial i ehangu’r rhwydweithiau i gynnwys ymchwilwyr o feysydd eraill o’u Prifysgolion, rhwydweithiau cydweithredol presennol yng Nghymru (fel y rhai yn Atodiad 2 isod) ac o’r tu allan i Gymru, a thrwy hynny’n adlewyrchu un o ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig, sef yr angen am ymchwil ryngddisgyblaethol i ymateb i gwestiynau strategol mawr ymchwil addysgol [troednodyn 20]

Bydd y rhwydweithiau’n cyflwyno adroddiadau cwmpasu i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021 yn nodi’r gweithgareddau a gynhaliwyd mewn perthynas â’r cylch gwaith hwn a’r potensial ar gyfer datblygu yn y dyfodol.

Er mwyn hyrwyddo gweithgarwch cydweithredol pellach yn y sector, bydd Llywodraeth Cymru yn:

  • chwilio am gyfleoedd pellach drwy Grant Cydweithredol Sefydliadau Addysg Uwch i ariannu gweithgarwch ymchwil o ansawdd uchel
  • gweithio gyda WHERA i ddatblygu capasiti ac allbynnau ymchwil addysgol sy’n berthnasol i bolisi ac ymarfer addysg yng Nghymru
  • cynnwys sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn y gwaith o ddatblygu proffesiwn addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth (gweler adran 5)
  • ceisio cynnal gweithgarwch cydweithredol, rhwydweithiol yn amodol ar gynnydd y rhwydweithiau ymchwil cydweithredol a deilliannau asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2021

Canolfannau ymchwil cenedlaethol

Fel rhan o’i hymrwymiad i ddatblygu rhagoriaeth mewn meysydd ymchwil sy’n cefnogi amcanion polisi system addysg Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sefydlu canolfan/canolfannau rhagoriaeth cenedlaethol ar gyfer ymchwil addysgol.

Bydd datblygiad y ganolfan/canolfannau yn dechrau wedi deilliannau asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, a bydd yn cynnwys gwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, CCAUC, Prifysgolion Cymru, WHERA a phartïon eraill â diddordeb.

Bydd y broses hon yn archwilio opsiynau amrywiol ar gyfer sefydlu canolfannau ymchwil cenedlaethol gan gynnwys:

  • un ganolfan ymchwil genedlaethol gyda gweithgarwch yn defnyddio’r model prif ganolfan a lloerennau yn gysylltiedig â meysydd blaenoriaeth cenedlaethol
  • nifer penodedig o ganolfannau sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol gyda rhwydweithiau cydweithredol traws-sefydliad addysg uwch
  • modelau eraill
  • ariannu’r ganolfan/canolfannau i ddatblygu capasiti ymchwil

Swyddogaethau’r ganolfan/canolfannau fyddai:

  • datblygu capasiti ymchwil o fewn meysydd blaenoriaeth cenedlaethol
  • sicrhau bod yr holl staff ym maes addysg gychwynnol athrawon yn cael cyfle i fod yn weithgar ym maes ymchwil
  • cefnogi’r gwaith o ddatblygu gyrfaoedd ymchwil addysg drwy gyfranogiad sylweddol mewn rhaglenni PhD a Doethuriaethau Proffesiynol mewn Addysg wedi’u hariannu a’r Gymuned Ymchwil Addysg Gyrfa Gynnar
  • cyflwyno cynigion cyllid i sefydliadau ymchwil y DU a chyllidwyr ymchwil addysg eraill
  • cynhyrchu allbynnau ymchwil cydweithredol
Image
Y cysylltiadau rhwng sefydliadau addysg uwch Cymru a’r 4 sefydliad sy’n darparu capasiti ac allbwn ymchwil  NSERE.

Diagram 3: Sefydliadau addysg uwch a’r NSERE

[troednodyn 12] 'Ibid.', 26.

[troednodyn 13] Simpson, A (2021) 'Developing Educational Research Capacity and Volume in Higher Education: A review of evidence from selected case-study countries', Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Goldstone, R (2021) 'The Infrastructure to Support Educational Research in UK and International Education Systems: A review of evidence', Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

[troednodyn 14] Furlong, J (2013) 'Education – An Anatomy of the Discipline', Abingdon: Routledge, 191.

[troednodyn 15] Mae WISERD yn ganolfan ymchwil genedlaethol sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru ac sy’n seiliedig ar bartneriaeth o 5 prifysgol.

[troednodyn 16] Llywodraeth Cymru (2018) 'Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru', Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

[troednodyn 17] Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig (2018) 'Harnessing Education Research', Llundain: Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig.

[troednodyn 18] 'Ibid.', 45.

[troednodyn 19] Reid, G (2020) 'Strength in Diversity: Exploring opportunities for collaboration in research and innovation between universities in Wales', Caerdydd: Prifysgolion Cymru.

[troednodyn 20] Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig (2018) 'Harnessing Education Research', Llundain: Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig, 41.

Proffesiwn addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Cefndir

Cefnogir uchelgais Llywodraeth Cymru i greu proffesiwn addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru gan y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig sy’n tynnu sylw at y canlynol: ‘High-performing education systems emphasise evidence-informed teacher self- improvement. These systems encourage teachers to use and take part in, educational research’ [troednodyn 21].

Mae adolygiad o dystiolaeth ryngwladol a gynhaliwyd fel rhan o ddatblygiad yr NSERE wedi nodi’r canfyddiadau allweddol canlynol mewn perthynas ag adeiladu proffesiynau addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth:

  • y rôl hwyluso sy’n ofynnol gan lywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol
  • cydweithio rhwng sefydliadau addysg uwch, ysgolion a rhwydweithiau o ysgolion
  • cefnogaeth arweinwyr ysgolion
  • dysgu proffesiynol gydol gyrfa i athrawon, sy’n dechrau mewn addysg gychwynnol athrawon [troednodyn 22]

Mae Estyn wedi datgan bod rhai o’r nodweddion hyn eisoes ar waith yng Nghymru, gan nodi bod yr ‘ysgolion gorau yn defnyddio dulliau ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth’ a bod yr arweinwyr gorau ‘yn cefnogi datblygu diwylliant o ymholi, ac yn helpu athrawon i ddatblygu a chymhwyso’u medrau ymchwil’ [troednodyn 23].

Fodd bynnag, mae’r graddau y mae ymarferwyr ac ysgolion yng Nghymru yn defnyddio ymchwil yn gyfyngedig ac fel mae Estyn yn ei nodi, ‘diddordeb a brwdfrydedd unigolion yn bennaf sy’n llywio ymchwil’ yn aml [troednodyn 24]. Canfu adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018 fod ‘ansicrwydd ynglŷn â gallu’r gweithlu ar hyn o bryd i fyfyrio’n feirniadol ar y sylfaen dystiolaeth a meithrin cyswllt â hi’ [troednodyn 25], gan adlewyrchu canfyddiadau tebyg yn Lloegr lle gwelwyd mai effaith gymharol fach oedd ymchwil academaidd yn ei chael ar benderfyniadau athrawon [troednodyn 26].

Fel y mae Estyn a’r adolygiad gan Bristow ar gyfer yr NSERE yn amlygu, ac fel y mae adroddiad y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig [troednodyn 27], hefyd yn ei nodi, mae rôl arweinyddiaeth ysgolion yn hanfodol bwysig o ran hyrwyddo diwylliant lle mae athrawon yn cael eu hannog i ddefnyddio ymchwil a gwneud gwaith ymholi. Mae’r olaf yn cyfeirio at adroddiad a gynhyrchwyd ar gyfer Adran Addysg y DU a ganfu mai cefnogaeth arweinwyr ysgolion i ymgysylltu ag ymchwil yw’r sbardun pwysicaf i ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth [troednodyn 28].

Fodd bynnag, mae’r graddau y mae athrawon yn cyfranogi mewn ymchwil addysgol yng Nghymru ar ffurf ymholiad proffesiynol bob amser wedi bod yn nodwedd o’r system addysg ôl-ddatganoli [troednodyn 29] ac mae hynny wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru (yn enwedig y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol – PYPC), y consortia rhanbarthol, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ac eraill wedi rhoi cyfle i athrawon ddatblygu eu sgiliau ac ymgymryd ag ymholiad agos i ymarfer.

Fodd bynnag, roedd cyrhaeddiad y cyfleoedd hyn yn gyfyngedig. Maent yn aml ynghlwm wrth gyllid tymor byr, ac er bod PYPC wedi cael cyllid tymor hwy, dim ond gyda oddeutu 70 o athrawon ledled Cymru y mae wedi gweithio’n ddwys.

Mae brwdfrydedd a chynhyrchiant athrawon sy’n cyfranogi yn y rhaglenni ymholiad proffesiynol hyn yn drawiadol, ond prin yw’r dystiolaeth empirig o’r effaith y mae’r gwaith hwn yn ei wneud ar ansawdd yr addysgu, deilliannau dysgwyr a gwella ysgolion.

Mae gweithgarwch ymholiad proffesiynol wedi’i gyfyngu i raddau helaeth i’r grŵp cymharol fach hwn o athrawon, ac nid yw eto wedi cynnwys gweithwyr addysg proffesiynol eraill gan gynnwys staff cymorth, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

Er bod mwy o ddiddordeb, felly, yn y proffesiwn addysg yng Nghymru o ran defnyddio ymchwil ac ymholiad addysg a dod yn rhan ohonynt, a bod gwaith datblygu cychwynnol addawol wedi digwydd, mae llawer mwy i’w wneud i ymgorffori’r gwaith hwn yn llawn yn y proffesiwn.

Proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Gyda hyn yn gefndir, bydd Llywodraeth Cymru, felly, yn datblygu dull systemig a pharhaus o sefydlu addysg fel proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru.

Mae’r rhesymau dros wneud hyn yn cynnwys:

  • cefnogi cyflwyno’r cwricwlwm ysgol newydd
  • gwella ansawdd hunanwerthuso ysgolion
  • cynorthwyo ysgolion i ddatblygu dull parhaus o oresgyn effaith anfantais economaidd-gymdeithasol ar gyflawniad addysgol
  • adlewyrchu canfyddiadau Estyn bod defnyddio tystiolaeth ymchwil a chyfranogi mewn ymholiad proffesiynol ymhlith nodweddion ysgolion hynod effeithiol
  • adeiladu ar y ffocws ar ymchwil ac ymholiad o fewn ein rhaglenni addysg gychwynnol athrawon a rhaglenni sefydlu
  • adlewyrchu ei bresenoldeb fel elfen allweddol o Ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu, y dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol a’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
  • galluogi safbwyntiau dysgwyr (llais y dysgwr) i gael eu cynrychioli’n llawn ac yn systematig yn y dystiolaeth y mae ymarferwyr yn ei chasglu a’i defnyddio

Bydd y cysylltiadau rhwng defnyddio tystiolaeth, ymholiad proffesiynol a gwella ysgolion yn ganolog i’r model rydym yn ceisio ei ddatblygu fel rhan o’n hymrwymiad i system hunanwella i ysgolion. Nododd adolygiad o dystiolaeth ryngwladol ar hunanwerthuso ar gyfer gwella ysgolion, a gynhaliwyd fel rhan o ddatblygiad yr NSERE, fod ymarfer sy’n seiliedig ar ymholiad a’r defnydd o ystod eang o dystiolaeth ansoddol a meintiol yn allweddol o ran hwyluso ymarfer effeithiol [troednodyn 30].

Oherwydd y rhesymau hyn, rydym wedi cynnwys defnyddio ystod eang o dystiolaeth ac ymholiad proffesiynol fel nodweddion canolog ein dull newydd o wella ysgolion ac atebolrwydd [troednodyn 31].

Roedd gwaith ymholi, a wnaed fel rhan o ddatblygiad yr NSERE, gan grŵp o benaethiaid sy’n rhan o Garfan 3 y cymdeithion a benodwyd gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, yn ystyried gwaith y Rhwydwaith Ysgolion Ymchwil a sefydlwyd gan y Sefydliad Gwaddol Addysg yn Lloegr yn ogystal â datblygiadau mewn proffesiynau eraill yn y DU, a daeth i gasgliadau tebyg.

Bydd datblygu proffesiwn addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru yn adeiladu ar waith sydd eisoes yn cael ei wneud ym maes addysg gychwynnol athrawon, sefydlu athrawon newydd gymhwyso, PYPC, rhaglenni eraill sy’n seiliedig ar ymholiad, y prosiect ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a thrwy’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth.

Fodd bynnag, bydd ganddo ei ddibenion penodol ei hun trwy:

  • fod yn weithredol ar draws y system: cynnwys pob ysgol a phob ymarferydd
  • canolbwyntio ar ymarferwyr yn defnyddio ymchwil ac yn cyfranogi mewn ymholiad proffesiynol (defnydd a chynhyrchu)
  • canolbwyntio ar wella systemau ac ysgolion gan gynnwys gwerthuso effaith mewn ffordd systematig

Datblygu model ar gyfer proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth

O fis Mai 2021, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac ysgolion hwb i gynllunio model ar gyfer datblygu proffesiwn addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ‘ddatblygu sail wybodaeth, arbenigedd ac ymchwil y system hunanwella drwy gefnogi cydweithio o fewn ysgolion, consortia rhanbarthol a sefydliadau addysg uwch, a rhyngddynt, ac ymrwymo i rannu tystiolaeth ymchwil ac ymarfer effeithiol ym mhob rhan o’r system’ [troednodyn 32].

Rhagwelir mai rôl y sefydliadau addysg uwch o fewn y model hwn fydd:

  • ymgymryd â rôl arwain strategol ar ran Llywodraeth Cymru
  • darparu crynodebau a synthesisau o dystiolaeth ymchwil addysg o ansawdd uchel i ymarferwyr
  • gweithio gydag ysgolion hwb i ddatblygu’r defnydd o dystiolaeth a chyfranogiad mewn ymholiad proffesiynol gan ymarferwyr addysgol
  • yn barhaus, arfarnu effaith ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar ansawdd athrawon, deilliannau dysgwyr a gwella ysgolion

Rhagwelir mai rôl awdurdodau lleol/consortia rhanbarthol fydd:

  • sefydlu trefniadau clwstwr fel bod ysgolion hwb yn gysylltiedig â phob ysgol arall yn eu hardal/rhanbarth
  • cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n galluogi ysgolion i rannu eu dysgu sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ymholiad
  • monitro effaith arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar wella ysgolion

Rhagwelir mai rôl ysgolion hwb fydd:

  • cyflwyno a mireinio canfyddiadau ymchwil o ansawdd uchel yn eu hymarfer eu hunain
  • rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau gyda’u clwstwr o ysgolion
  • mabwysiadu ymholiad proffesiynol fel ymarfer safonol ledled eu hysgol a sicrhau bod hyn yn canolbwyntio ar wella ysgolion
  • gweithio gydag eraill i ddatblygu sgiliau ymholi proffesiynol ysgolion o fewn eu clwstwr
  • gweithio gyda’u hawdurdod lleol/consortia rhanbarthol i gefnogi dysgu proffesiynol a rhwydweithio

Yn dilyn gwaith datblygu yn 2021 i 2022 ac yn amodol ar gytundeb y Gweinidog ac argaeledd cyllid, cyflwynir cynllun peilot o’r model hwn yn 2022 i 2023. Yn seiliedig ar ganlyniadau’r peilot hwn, bydd y model proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cael ei ehangu i gynnwys pob ysgol a phob gweithiwr proffesiynol o fewn system addysg Cymru.

Image
Y 4 cyfranogwr wrth ddatblygu proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru.

Diagram 4: Elfennau model ar gyfer proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth

[troednodyn 21] Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig (2018) 'Harnessing Educational Research', Llundain: Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig, 51.

[troednodyn 22] Bristow, E (2021) 'Developing an Evidence-Informed Education Profession: A review of international research evidence', Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

[troednodyn 23] Estyn (2016) 'Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2015-2016', Caerdydd: Estyn, 21.

[troednodyn 24] 'Ibid.'.

[troednodyn 25] Tripney, J et al (2018) 'Meithrin Cyswllt Athrawon â Thystiolaeth Ymchwil', Caerdydd: Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, 4.

[troednodyn 26] Walker, M et al (2019) 'Teachers’ engagement with research: what do we know? A research briefing', Llundain: Sefydliad Gwaddol Addysg (Education Endowment Foundation).

[troednodyn 27] Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig (2018) 'Harnessing Educational Research', Llundain: y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig, 57.

[troednodyn 28] Coldwell, M et al (2018) 'Evidence-informed teaching: an evaluation of progress in England', Llundain: Yr Adran Addysg.

[troednodyn 29] Rhwng 2001 a 2007, roedd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (rhagflaenydd Cyngor y Gweithlu Addysg) – drwy gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru – yn gallu cynnig cyfle i athrawon unigol ymgymryd â gweithgareddau datblygiad proffesiynol wedi’u hariannu, gan gynnwys ymholiad proffesiynol ac ysgoloriaethau ymchwil athrawon. Gweler Egan, D a James, R (2004). 'Gwerthusiad o Brosiectau Peilot datblygiad proffesiynol ar gyfer Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 2001–2002', Caerdydd: Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

[troednodyn 30] Goldstone, R (2021) 'Self-Evaluation for School Improvement: An evidence review', Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

[troednodyn 31] Llywodraeth Cymru (2021) Canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd, Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

[troednodyn 32] Llywodraeth Cymru (2017) 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl', Caerdydd: Llywodraeth Cymru, 36.

Atodiadau

Atodiad A: sefydliadau a fu’n rhan o’r ymgynghoriad i ddatblygu gweledigaeth NSERE

Prifysgol Aberystwyth

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Prifysgol Bangor

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

Consortiwm Canolbarth y De

Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol

Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (DTP) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)

Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS)

Sefydliad Gwaddol Addysg (Education Endowment Foundation)

Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)

Cyngor y Gweithlu Addysg

Estyn

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

GwE

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (NAEL)

Sefydliad Nuffield

Cymwysterau Cymru

Prifysgol Abertawe

Yr Academi Brydeinig

Y Gymdeithas Frenhinol

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD)

Atodiad B: ymchwil Gydweithredol Gyfredol a Nodwyd gan WHERA

  • Mae WISERD yn ganolfan ymchwil genedlaethol wedi’i dynodi gan Lywodraeth Cymru sy’n cyfuno ymchwilwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Mae’n darparu seilwaith helaeth a manwl sy’n cefnogi ymchwil.
  • Mae grwpiau ymchwil cydweithredol mewn llawer o brifysgolion, megis grŵp ymchwil Technoleg mewn Addysg Prifysgol Metropolitan Caerdydd gyda Phrifysgolion Durham a Chaergrawnt, a’i grŵp ymchwil Addysg Iechyd Corfforol ar gyfer Dysgu Gydol Oes (PHELL) gyda chydweithredwyr niferus, gan gynnwys Coleg Prifysgol Cork, Prifysgolion Canberra a Griffith, Awstralia, a Phrifysgol Caeredin.
  • Mae ARDEC, sef Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae’n un o sefydliadau mwyaf blaenllaw’r byd o ran datblygu addysg entrepreneuriaeth sy’n seiliedig ar greadigrwydd. Mae ARDEC yn gweithio gyda nifer o bartneriaid rhyngwladol ac mae wedi llywio’r gwaith o ddatblygu addysg entrepreneuriaeth yn uniongyrchol mewn 42 o wledydd, gan gynnwys drwy’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, Llywodraeth Cymru, yr UE, y Cenhedloedd Unedig a Banc y Byd.
  • Mae Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi’i leoli ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae ganddo enw da yn genedlaethol am waith sy’n rhychwantu’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pob oed.
  • Mae DECIPHer, y ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd yn ganolfan ragoriaeth ymchwil iechyd cyhoeddus UKCRC dan arweiniad Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgolion Bryste ac Abertawe, gyda llawer o’i gwaith yn canolbwyntio ar ddysgwyr ysgol.
  • Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a’i rhagflaenydd yn cynnwys 20 llwybr gwyddor cymdeithasol achrededig ar draws 6 sefydliad, 5 ohonynt yng Nghymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Abertawe). Mae adolygiad y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn dangos ei fod yn dal yn un o’r mwyaf llwyddiannus o 14 partneriaeth hyfforddiant doethurol y DU, yn enwedig o ran gweithio ar draws sefydliadau ac ysgoloriaethau ymchwil cydweithredol, llawer ohonynt gyda Llywodraeth Cymru ac yn canolbwyntio ar ddiwygiadau addysgol.
  • Mae CASCADE, y ganolfan ar gyfer ymchwilio i ofal cymdeithasol plant a’i datblygu, yn  ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd gyda chysylltiadau helaeth â gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau elusennol. Mae’n gwneud gwaith ymchwil ar blant a theuluoedd mewn angen ac mae ganddi gryfderau penodol ym maes ymchwil ar addysg pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
  • Prif nod CIEREI, y Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith  yw creu tystiolaeth ymchwil sy’n dylanwadu’n gadarnhaol ar ddysgu a lles i blant drwy ysgolion. Y partneriaid allweddol yw Prifysgol Bangor a GwE (Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru) ac mae cydweithredu pellach gyda’r ganolfan ar gyfer Datblygu, Arfarnu ac Ymchwil Addysg (CEDAR) ym Mhrifysgol Warwig.

Atodiad C: argymhellion y Gymdeithas Frenhinol/Adroddiad yr Academi Brydeinig a gweledigaeth NSERE

Argymhelliad 1: cysylltu cyflenwad a galw

Dylai llywodraethau 4 gwlad y DU gychwyn proses i ddatblygu strwythur sefydliadol newydd ar gyfer ymchwil addysgol, gan weithio gydag UK Research and Innovation (UKRI), cyrff addysgu a chyllidwyr eraill. Wrth wraidd ei strwythur dylid cael swyddfa ymchwil addysgol i nodi a cheisio mynd i'r afael â chamgymariadau yn y cyflenwad a'r galw. Bydd angen i'r swyddfa ddwyn ynghyd cynrychiolwyr olywodraeth, cyllidwyr ymchwil cyhoeddus a phreifat allweddol, athrawon ac ymchwilwyr.

Gall y gynrychiolaeth hon gynnwys:

  • bwrdd rhaglen sy'n adolygu
  • cyfleoedd ar gyfer cyfleoedd ymchwil addysgol ar draws cynghorau UKRI
  • prif gynghorwyr gwyddonol adrannau addysg llywodraeth y 4 gwlad i archwilio lle mae blaenoriaethau a rennir ledled y DU
  • sefydliadau ymbarél ar gyfer athrawon (er enghraifft Coleg Addysgu Siartredig) i sicrhau bod lleisiau ymarferwyr yn cael eu clywed
  • cymdeithasau dysgedig a chymdeithasau pwnc, er mwyn sicrhau bod ymchwilwyr yn ymgysylltu'n llawn
  • fforwm ar gyfer holl gyllidwyr ymchwil addysg, fel elusennau yn ogystal ag UKRI, i nodi cyfleoedd i gydlynu ar gyfeiriad cyllid
  • cyrff cyflogwyr a sgiliau (er enghraifft Ffederasiwn Hunangyflogedig a Busnesau Bach (FSB), Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) i sicrhau bod anghenion gweithlu'r dyfodol yn cael eu hystyried
Gweledigaeth NSERE

Mae'r NSERE yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i sefydlu seilwaith cenedlaethol i oruchwylio ymchwil ac ymholiad addysgol. Byddai'r sefydliad hwn yn gallu cynrychioli Cymru wrth ymateb i'r argymhelliad hwn.

Argymhelliad 2: daearyddiaeth yr ecosystem

Dylai'r swyddfa newydd ar gyfer  ymchwil addysgol gynnal adolygiad o ddosbarthiad capasiti ymchwil addysgol ledled y DU. Dylai ddefnyddio ei rôl gydlynu i hwyluso cydweithrediadau sy'n galluogi ymchwilwyr, ymarferwyr, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill i weithio gyda'i gilydd. Gallai'r cydweithrediadau hyn fod yn rhanbarthol neu'n thematig.

Gweledigaeth NSERE

Hoffai Llywodraeth Cymru gefnogi a chyfrannu at yr adolygiad hwn.

Argymhelliad 3: gwella cydweithredu

Bydd angen ymchwil addysgol rhyngddisgyblaethol i ymateb i'r cwestiynau strategol mawr mewn ymchwil addysgol. Dylai llywodraethau'r DU a'u hasiantaethau (gan gynnwys UKRI a chyllidwyr eraill ymchwil addysgol) yn ogystal â sefydliadau addysg uwch a sefydliadau ymchwil eraill, fuddsoddi mewn cydweithio rhyngddisgyblaethol, trawsadrannol a thraws-sefydliadol. Mae cronfa blaenoriaethau strategol UKRI yn creu cyfle i ariannu â ffocws ymchwil addysgol rhyngddisgyblaethol. Dylai ei gwmpas gael ei lywio gan dystiolaeth gan lunwyr polisi, athrawon ac ymchwilwyr (fel y nodir yn argymhelliad 1).

Gweledigaeth NSERE

Mae'r NSERE yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gefnogi ymhellach ddatblygu cydweithredu rhyngddisgyblaethol, trawsadrannol a thraws-sefydliadol mewn ymchwil. Rhyddhawyd cyllid i annog cydweithredu rhwng sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn y maes hwn.

Argymhelliad 4: sicrhau sylfaen y biblinell

Rhaid i UKRI, cyllidwyr eraill, a sefydliadau addysg uwch, gyda chefnogaeth cymdeithasau dysgedig:

  • sicrhau bod hyfforddiant myfyrwyr ôl-raddedig ymchwil addysgol yn diwallu anghenion dysgwyr hŷn – athrawon yn aml, gydag ysgoloriaethau ymchwil rhan-amser
  • galluogi pob myfyriwr ôl-raddedig ymchwil addysgol i elwa ar hyfforddiant yn yr ystod lawn o ddulliau gwyddorau cymdeithasol
  • meithrin gwell cysylltiadau rhwng myfyrwyr ymchwil a pholisi a chymunedau addysgu

Gellid cyflawni hyn trwy:

  • ehangu'r defnydd o'r seilwaith ysgoloriaethau ymchwil cydweithredol i annog a galluogi llywodraeth a chyrff perthnasol eraill, gan gynnwys sefydliadau ymchwil annibynnol, i gefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig mewn ymchwil addysgol
  • adolygu'r canllawiau ar gyfer partneriaethau hyfforddiant doethurol ynghylch dulliau hyblyg o ariannu a chefnogi myfyrwyr hŷn
  • sefydliadau addysg uwch a chyllidwyr yn gofyn i bob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn addysg i gael tîm goruchwylio sy'n cydnabod natur ryngddisgyblaethol ymchwil addysgol
Gweledigaeth NSERE

Mae'r NSERE yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gefnogi ymhellach ddatblygiad llwybrau ymchwil addysg. Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno cymryd rhan mewn trafodaethau ar lefel y DU yn y maes hwn.

Argymhelliad 5: cyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd (QR) ar gyfer ymchwil addysgol

Mae angen i Research England a'r cyrff cyfatebol yn y gwledydd datganoledig sicrhau bod cyllid QR yn parhau i fod yn rhan gref o'r portffolio cyllido. Mae'r cyllid hwn yn sicrhau'r seilwaith ymchwil sylfaenol ac yn galluogi sefydliadau addysg uwch i wneud penderfyniadau ynghylch pa ymchwil sy'n bwysig, yn annibynnol ar flaenoriaethau uniongyrchol y llywodraeth a chyllidwyr. Dylai sefydliadau addysg uwch sicrhau eu bod yn parhau i ddefnyddio cyllid QR i gefnogi ymchwil awyr las a gweithgaredd rhyngddisgyblaethol a chynnal piblinell ymchwilwyr, sy'n hanfodol i gynnal ymchwil addysgol fel disgyblaeth iach.

Gweledigaeth NSERE

Mae Llywodraeth Cymru trwy'r NSERE yn cefnogi'r argymhelliad hwn yn llawn.

Argymhelliad 6: cefnogi defnydd o ymchwil i lywio'r addysgu

Mae angen mwy o gefnogaeth ar athrawon i ddefnyddio tystiolaeth a mewnwelediadau o ymchwil i ddatblygu eu hymarfer a'u dealltwriaeth. Gellid mynd i'r afael â hyn trwy:

  • yr Adran Addysg a'r cyrff cyfatebol yn y gweinyddiaethau datganoledig yn egluro eu disgwyliad y dylai athrawon fod yn wybodus trwy ymchwil ac yn cymryd rhan ynddo; gallant gyflawni hyn trwy gydnabod pwysigrwydd arfer sy'n seiliedig ar ymchwil o fewn y safonau proffesiynol i athrawon, yn y gofynion ar gyfer addysg gychwynnol athrawon, y cyfnod sefydlu a'r fframwaith datblygiad proffesiynol
  • y Coleg Addysgu Siartredig yn Lloegr, y Cynghorau Addysgu Cyffredinol ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban a Chyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru gan ddefnyddio ymchwil am arfer effeithiol i wneud gwybodaeth yn hygyrch er mwyn nodi enghreifftiau lle mae athrawon wedi defnyddio tystiolaeth i newid arfer a gweithio i ymgorffori arfer o'r fath yn ehangach
  • yr Adran Addysg a'i chyrff gyfatebol yn y gweinyddiaethau datganoledig yn adeiladu ar fentrau fel y Rhwydwaith Ysgolion Ymchwil a sicrhau bod gan bob ysgol a choleg gysylltiad agos â sefydliadau canolfan ymchwil
  • Swyddfa Safonau mewn Addysg (Ofsted), a'r arolygiaethau cyfatebol yn y gweinyddiaethau datganoledig, yn sicrhau bod fframweithiau ar waith sy'n annog arweinyddiaeth ysgolion a cholegau i ddatblygu diwylliant o werthuso beirniadol ac arfer seiliedig ar ymchwil
Gweledigaeth NSERE

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi symud ymlaen â'r argymhellion hyn trwy ei diwygiadau i addysg gychwynnol i athrawon, cyflwyno safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, trefniadau sefydlu newydd ar gyfer ANG.

Mae'r NSERE yn cynnig cyflwyno model a ddyluniwyd i greu Proffesiwn Addysg sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth, sydd wedi’i ddylanwadu gan Rhwydwaith Ysgolion Ymchwil a thystiolaeth ryngwladol.

Argymhelliad 7: hwyluso anghenion llunwyr polisïau

Mae rhwystrau ymarferol a diwylliannol, ynghyd â gwydnwch gwleidyddol ac ideolegol, yn rhwystro llif gwybodaeth a syniadau rhwng ymchwilwyr a llunwyr polisi. Er mwyn galluogi gweithwyr proffesiynol polisi i fodloni safonau'r Gwasanaeth Sifil ar gyfer dadansoddi a defnyddio tystiolaeth, gellid lleihau'r rhwystrau hyn trwy adeiladu ar gynlluniau sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys:

  • llywodraeth, UKRI a chyrff eraill yn cynyddu'r raddfa a gwella cynaliadwyedd lleoliadau i ymchwilwyr o fewn adrannau'r llywodraeth
  • llywodraethau yn rhoi ar secondiad lunwyr polisi i dimau ymchwil.
  • llywodraethau, UKRI, prifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill yn creu cyfleoedd i ymchwilwyr greu cysylltiadau â llunwyr polisi a dysgu sut i lywio'r llywodraeth a'i hasiantaethau, er enghraifft trwy seminarau ymchwil neu gysgodi gwaith
  • academïau cenedlaethol y DU a chyrff hwyluso eraill yn cynnull fforymau lefel uchel i archwilio atebion i heriau polisi
Gweledigaeth NSERE

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r argymhelliad hwn yn llawn a thrwy'r NSERE bydd yn cymryd camau i gyflwyno'r mesurau hyn yng Nghymru.

Argymhelliad 8: cefnogi cynhyrchu a defnyddio synthesis tystiolaeth

Gall synthesis tystiolaeth ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr i ymchwilwyr, athrawon a llunwyr polisi ond ar hyn o bryd nid yw'n cael ei ddefnyddio ddigon. Gellid cyflawni mwy o gynhyrchu a defnyddio synthesis tystiolaeth trwy:

  • y swyddfa newydd ar gyfer ymchwil addysgol, llywodraethau ac athrawon yn gweithio gyda'r gymuned ymchwil i adnabod meysydd ymchwil sydd angen synthesis
  • llywodraethau a'u hasiantaethau, ymchwilwyr ac athrawon yn mabwysiadu dulliau cyffredin ar gyfer synthesis tystiolaeth sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod y canfyddiadau'n cael eu cymhwyso'n ymarferol mewn polisi ac arfer
  • cyhoeddwyr a chyrff ymchwil addysgol, fel y Coleg Addysgu a BERA, yn darparu arweiniad i awduron ar ddulliau synthesis tystiolaeth.
  • Research England yn sicrhau bod synthesis tystiolaeth yn cael ei werthfawrogi mewn fframweithiau atebolrwydd ymchwil fel y REF
Gweledigaeth NSERE

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r argymhelliad hwn yn llawn a thrwy'r model Proffesiwn ar Sail Tystiolaeth yn NSERE rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod synthesisau tystiolaeth ar gael i ymarferwyr.