Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r trydydd brechlyn Covid-19 yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o heddiw ymlaen, a chleifion yn Sir Gaerfyrddin fydd y rhai cyntaf yn y Deyrnas Unedig i'w dderbyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fe wnaeth yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) gymeradwyo’r brechlyn Moderna fel un diogel ac effeithiol fis Ionawr 2021 ar ôl treialon clinigol llym.

Cyrhaeddodd cyflenwadau Gymru ddoe (dydd Mawrth 6 Ebrill) ac anfonwyd 5,000 o ddosau i ganolfannau brechu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd y dosau cyntaf yn cael eu rhoi yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin  heddiw (7 Ebrill).

Mae'r brechlyn Moderna yn frechlyn dau ddos sy’n cael eu rhoi o fewn cyfnod o rhwng pedair a 12 wythnos.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

"Dyma garreg filltir allweddol arall yn ein brwydr yn erbyn y pandemig Covid-19. Mae cael trydydd brechlyn i'w ddefnyddio yng Nghymru yn ychwanegu'n sylweddol at ein hamddiffyniad yn erbyn y coronafeirws a bydd yn helpu i ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed.

"Mae pob brechiad a roddir i rywun yng Nghymru yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws ac rydym yn annog pawb i fynd i gael eu brechu pan gânt eu gwahodd.

"Os na all pobl fynychu eu hapwyntiad rydym yn gofyn iddynt roi gwybod i'r bwrdd iechyd drwy'r manylion cyswllt yn eu gwahoddiad, gan y gellir cynnig y slot brechu i rywun arall yn hytrach na’i wastraffu. 

"Unwaith y byddwch wedi cael eich brechu, dylech barhau i ddilyn y canllawiau, cadw ddau fetr ar wahân, golchi eich dwylo a gwisgo gorchudd wyneb i ddiogelu'r rhai o'ch cwmpas.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio'n ddiflino i ddarparu'r brechiadau ledled Cymru a'n helpu i gyrraedd ein hail garreg filltir o gynnig brechiad i bob grŵp blaenoriaeth yng ngham 1. Hoffwn ddiolch hefyd i'r 1.5 miliwn o bobl yng Nghymru sydd eisoes wedi dod i gael eu brechu ac wedi gwneud eu rhan yn yr ymdrech genedlaethol hon."

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

"Rydym yn falch iawn o allu cael y brechlyn Moderna i'w ddefnyddio ar draws gorllewin Cymru.

"Byddwn yn defnyddio'r brechlyn newydd hwn, ochr yn ochr â brechlyn Rhydychen Astra-Zeneca, i barhau i ddarparu’r rhaglen frechu i'n cymunedau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

"Rydym yn hynod ffodus o gael trydydd brechlyn yng Nghymru – un sy’n para’n hir ac sy’n hawdd ei gludo – i’n helpu i ddarparu'r rhaglen frechu i glinigau bach ar draws ein cymunedau gwledig."