Mae gofod cymunedol a agorodd flwyddyn yn ôl yng nghanol dinas Abertawe bellach yn helpu pobl hŷn y ddinas i gysylltu ag eraill, aros yn egnïol a chymryd rhan yn eu cymunedau.
Ymwelodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, â'r Cwtsh Cydweithio yn Abertawe ddoe i weld drosti'i hun sut mae Grant Cymunedau Oed-gyfeillgar Llywodraeth Cymru yn helpu pobl hŷn.
Mae amrywiaeth eang o weithgareddau wythnosol ar gael yn yr hwb ar gyfer pobl 50 oed a hŷn, gan gynnwys Tai Chi, sesiynau sgiliau digidol ar ddydd Mawrth, boreau coffi LHDTC+, teithiau cerdded cymdeithasol a digwyddiadau cymunedol. Bwriad y gweithgareddau hyn yw mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd, ond maent hefyd yn helpu pobl i heneiddio'n iach, yn cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd, ac yn darparu gwybodaeth a chyngor hanfodol.
Mae'r gweithgareddau wedi'u datblygu mewn partneriaeth agos â phobl hŷn, gan adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda chymunedau, nid dim ond ar eu cyfer nhw.
Mae sesiynau "Heneiddio'n Dda" hefyd ar gael yn ddyddiol, lle y mae swyddogion, arweinwyr gwasanaethau a sefydliadau partner yn bresennol ynddynt. Mae'r sesiynau'n helpu pobl hŷn i wneud cysylltiadau dibynadwy â gwasanaethau a chymorth y gallai fod eu hangen arnynt, gan roi dull ataliol a chymorth cynnar ar waith.
Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Dawn Bowden:
Mae'r hyn a welais heddiw yn y Cwtsh Cydweithio yn dangos yn union sut mae cymunedau oed-gyfeillgar yn gweithio yn ymarferol. Yn ogystal â manteisio ar y gwasanaethau, mae'r bobl hŷn yma yn eu siapio nhw hefyd. Dyna'r safon rydyn ni eisiau ei gweld ledled Cymru.
Ers 2021, mae Cymru wedi buddsoddi cyllid gwerth £3.8 miliwn i helpu cymunedau oed-gyfeillgar, ac mae 12 awdurdod lleol bellach yn aelodau o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar. Mae Abertawe ar y trywydd iawn i ymuno â nhw.
Mae model Cymru o gael strategaeth drawsbynciol ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio, Comisiynydd Pobl Hŷn a chymorth ariannol pwrpasol i awdurdodau lleol i hyrwyddo cymunedau oed-gyfeillgar, wedi'i nodi gan Sefydliad Iechyd y Byd yn enghraifft o arfer dda yn rhyngwladol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gymorth Cymunedol, Hayley Gwilliam:
Bob wythnos mae dros 500 o bobl yn mynychu digwyddiadau Heneiddio'n Dda yn Abertawe sy’n cynnwys grwpiau cerdded hynod boblogaidd, bowlio, canu neu gyfleoedd i gyfarfod am sgwrs a phaned o de.
Roeddwn yn falch o'r cyfle i groesawu'r Gweinidog i'r Cwtsh Cydweithio iddi gael clywed yn uniongyrchol sut mae'r gweithgareddau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o bobl hŷn trwy greu cyfleoedd i gymdeithasu.
