Neidio i'r prif gynnwy

Diben

Bwriedir i'r canllaw hwn fod yn fan cychwyn i gefnogi'r rhai a chanddynt ddiddordeb mewn datblygu systemau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach a all leihau costau trydan neu greu incwm trwy werthiannau ynni lleol. Gan ganolbwyntio ar fodelau "Y Tu Ôl i'r Mesurydd", mae'n darparu gwybodaeth hygyrch, ymarferol i helpu pobl i ddeall yr ystyriaethau dylunio, ariannol, cyfreithiol a gweithredol allweddol sy'n gysylltiedig â sefydlu system o'r fath.

Trwy amlinellu modelau profedig, megis gosodiadau Buddsoddi i Arbed a Chytundebau Prynu Ynni (PPAs) ar Les ar gyfer Toeau, nod y ddogfen yw darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol i nodi cyfleoedd a chymryd y camau cyntaf tuag at eu rhoi ar waith. Mae hefyd yn tynnu sylw at fanteision strategol, ariannol ac amgylcheddol systemau BTM, ochr yn ochr â'r risgiau a'r cyfyngiadau posibl.

P'un ai arbed arian ar drydan yw'r nod, neu greu incwm o ynni glân, neu gefnogi dyfodol ynni mwy gwydn, lleol, mae'r canllaw hwn yn fan cychwyn. 

Y tu ôl i'r mesurydd (BTM): disgrifiad

Mae systemau ynni y tu ôl i'r mesurydd yn atebion ynni lleol sy'n cael eu gosod ar safle penodol, ac sydd fel arfer yn golygu bod y trydan yn cael ei gynhyrchu ar y safle, megis trwy gyfrwng paneli solar ffotofoltaidd ar y to, a'r rheiny'n aml wedi'u paru â system storio mewn batrïau. Mae'r systemau hyn yn defnyddio prosesau rheoli ynni clyfar i flaenoriaethu defnydd ar y safle o'r trydan a gynhyrchir, gan leihau dibyniaeth ar bŵer y grid a'i gostau cysylltiedig. Gellir yn aml allforio ynni dros ben.

Yn eu hanfod, mae systemau BTM yn galluogi i drydan gael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio yn lleol, gan gynnig mwy o annibyniaeth ynni ac arbed costau. Er eu bod yn gweithredu ar raddfa lai, maent yn cynrychioli cam syml tuag at ynni datganoledig, a gallant fod yn gonglfaen ar gyfer Marchnadoedd Ynni Lleol mwy helaeth.

Fel arfer, caiff system BTM ei lleoli ar safle'r sawl sy'n defnyddio'r trydan, a gall weithiau gael ei hariannu a bod yn eiddo i drydydd parti, gyda chytundeb ar waith i werthu'r ynni i'r defnyddiwr ar gyfradd marchnad ostyngol.

Image
Diagram sy'n dangos cynhyrchu ynni lleol, sy'n dangos paneli solar yn darparu ynni i dŷ gydag ynni dros ben wedi'i allforio i grid pŵer sy'n tynnu sylw at gynhyrchu ynni, defnydd a manteision ariannol.

Dyluniad y system

Ffisegol: Yn y bôn, mae'n ofynnol i systemau BTM fod â thechnoleg cynhyrchu ar y safle, megis paneli solar ffotofoltaidd ar y to sydd, yn ddelfrydol, wedi'u cyplysu â system storio mewn batrïau ac wedi'u lleoli'n agos at y man lle caiff yr ynni ei ddefnyddio.

Masnachol: Yn gyffredinol, mae systemau BTM yn golygu prosesau cyfreithiol a gweinyddol syml, lle bo angen Cytundebau Prynu Ynni allforio i werthu ynni dros ben, a lle bo buddion ariannol allweddol yn deillio o ddadleoli trydan y grid neu, yn achos modelau megis Cytundeb Prynu Ynni ar Les ar gyfer Toeau, o werthu pŵer i feddianwyr.

Addasrwydd strategol

Mae systemau BTM yn strategol amlddefnydd ac addasadwy ar gyfer ystod eang o leoliadau, yn cynnwys adeiladau domestig a masnachol. Mae eu dull gweithredu yn arbennig o addas ar gyfer lleoliadau a chanddynt ddigon o le i osod asedau cynhyrchu (megis digon o arwynebedd to ar gyfer paneli solar ffotofoltaidd) a lle bo yna alw i ddefnyddio'r trydan a gynhyrchir. Er nad yw'n orfodol, mae cysylltiad â'r grid yn gwella gwerth systemau BTM am ei fod yn galluogi i'r trydan dros ben gael ei allforio. 

Buddion

Mae systemau BTM yn cynnig sawl mantais. Maent yn syml a chosteffeithiol i'w gweithredu. Maent yn fuddiol yn ariannol am eu bod yn sicrhau arbedion o ganlyniad i leihau'r defnydd o drydan y grid a galluogi i drydan dros ben gael ei werthu'n ôl i'r grid. Mae systemau BTM yn addasadwy gan y gellir eu hintegreiddio â thechnolegau megis systemau storio mewn batrïau, systemau gwresogi a seiliau gwefru cerbydau trydan. Maent hefyd yn gwella gwydnwch y grid ac yn lleihau allyriadau carbon. Yn ogystal, gall incwm gael ei greu ar gyfer perchennog yr asedau cynhyrchu (h.y. mewn Cytundebau Les ar gyfer Toeau). 

Costau, cyfyngiadau a risgiau

Mae yna rai cyfyngiadau i systemau BTM hefyd. Mae'r tâl am drydan a allforir yn aml yn isel. Maent yn gofyn am fuddsoddiad cyfalaf cychwynnol, gwaith cynnal a chadw parhaus, a galw dibynadwy am drydan i gyfateb i'r trydan a gynhyrchir am oes yr ased cynhyrchu. Gallant yn ogystal fod yn ddarostyngedig i ofynion rheoleiddio, megis caniatâd gan awdurdodau cynllunio a Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu (DNOs). Gweithredwr Eich Rhwydwaith Dosbarthu sy'n eich cysylltu â'r rhwydwaith trydan. Gall fod yn ofynnol i chi wirio â'ch gweithredwr cyn ceisio cysylltu â'i rwydwaith.

Astudiaeth achos: SCEES

Sefydlwyd Cynllun Ynni a Menter Cymunedol Abertawe (SCEES) yn 2015 fel Cymdeithas Budd Cymunedol i ddatblygu a rheoli prosiectau solar sy'n eiddo i'r gymuned yn Abertawe. Mae SCEES wedi gosod systemau solar BTM yn llwyddiannus ar naw ysgol ac un cartref gofal. Ariannwyd y costau ymlaen llaw ar gyfer y gosodiadau hyn trwy gyfuniad o fenthyciad adeiladu byrdymor a chynnig o gyfranddaliadau cymunedol, a lwyddodd i godi £467,000 gan 170 o fuddsoddwyr, buddsoddwyr sydd bellach yn cael enillion blynyddol o 6%. Mae model busnes SCEES yn seiliedig ar ddal Les hirdymor a Chytundeb Prynu Ynni am 20 mlynedd gyda landlord a thenant yr adeilad. Mae'r les yn talu'r costau gweithredu a chynnal a chadw parhaus, tra bo'r Cytundeb Prynu Ynni yn sicrhau bod y trydan a gynhyrchir yn cael ei werthu i'r defnyddiwr am bris marchnad gostyngol, gan ddarparu ynni glanach a mwy fforddiadwy i'r adeiladau lletyol. Mae'r cynllun llwyddiannus hwn wedi creu cronfa budd cymunedol ac ynddi dros £500,000.

1. Y Tu Ôl i'r Mesurydd (BTM)

1.1 Disgrifiad

Mae systemau trydan BTM yn atebion ynni lleol sy'n cael eu gosod ar safle penodol ac sy'n integreiddio asedau cynhyrchu trydan ar y safle (ynni solar ar y to yn fwyaf cyffredin). Mae'r systemau hyn yn aml yn ymgorffori system storio mewn batrïau i wella annibyniaeth ynni ac optimeiddio'r defnydd, a all gynyddu arbedion ariannol ymhellach. Elfen hanfodol yw fod yna systemau rheoli ynni soffistigedig yn cael eu cynnwys; mae'r rhain yn mynd ati mewn modd dynamig i bennu'r defnydd mwyaf effeithiol o'r trydan a gynhyrchir, a hynny mewn amser real, gan flaenoriaethu'r anghenion ar y safle i ddadleoli'r broses o fewnforio pŵer drutach y grid (trydan sy'n mynd trwy'r mesurydd cyfleustodau). Gellir allforio ynni dros ben a gynhyrchir ac nad yw'n cael ei ddefnyddio ar y safle, gan ei werthu'n ôl i'r grid. Mae systemau BTM yn ddull cymharol syml o sefydlu cyflenwad ynni lleol a chânt fel arfer eu gweithredu ar raddfa lai. Mae gan systemau BTM y potensial i sicrhau buddion sylweddol i berchennog y system a'r defnyddiwr.

1.2 Modelau ac amrywiadau

Y model safonol

Mae hyn yn golygu gosod asedau cynhyrchu trydan ar y safle (paneli solar ffotofoltaidd ar y to yn fwyaf cyffredin), sydd yn aml yn cael eu cyplysu â thechnolegau system storio mewn batrïau. Ar y safle y defnyddir y trydan a gynhyrchir yn bennaf, sy'n lleihau neu ddileu ar unwaith yr angen i fewnforio trydan trwy'r mesurydd cyfleustodau.

Image
Diagram sy'n dangos model BTM safonol sy'n tynnu sylw at ryngweithio a chytundebau rhwng system defnyddwyr a'r grid.

Cytundeb prynu ynni ar les ar gyfer toeau

Yn y model hwn, mae trydydd parti (megis sefydliad ynni cymunedol, cymdeithas dai, neu landlord) yn ariannu costau ymlaen llaw a chostau cynnal a chadw y system BTM. Yna mae perchennog yr ased yn creu incwm trwy werthu'r trydan a gynhyrchir i feddiannydd yr adeilad. Cyfeirir at y model hwn weithiau fel y model 'rhentu to'. Mae buddion ariannol y model hwn yn cael eu rhannu rhwng perchennog yr asedau cynhyrchu a'r defnyddiwr, gyda'r buddion i'r defnyddiwr yn aml yn golygu bod y trydan a gynhyrchir yn cael ei werthu iddo am bris is na phrisiau'r farchnad.

Image
Diagram sy'n dangos model BTM cytundeb prynu pŵer prydles ar ben y to sy'n cynnwys defnyddiwr, perchennog asedau ynni, a grid.

Gwifrenni preifat (safle-i-safle)

Mae'r cysyniad hwn yn debyg i system BTM safonol o ran bod cynhyrchu'r trydan a'r defnydd ohono yn digwydd yn annibynnol ar y grid. Fodd bynnag, y gwahaniaeth allweddol yw fod cysylltiad trydanol ffisegol (gwifren breifat) yn ofynnol i drosglwyddo'r trydan rhwng y fan lle caiff yr ynni ei gynhyrchu a'r fan lle caiff ei ddefnyddio.

Yn ogystal, mae'r cynhyrchydd a'r defnyddiwr fel arfer yn endidau ar wahân, ac mae Cytundeb Prynu Ynni Gwifrenni Preifat (PPA) yn llywodraethu telerau'r trosglwyddiad trydan rhyngddynt. (Cyfeiriwch at ein proffil ar wahân i gael esboniad mwy manwl ar systemau Gwifrenni Preifat).

Image
Diagram sy'n dangos model BTM gwifren breifat sy'n cynnwys generadur ynni adnewyddadwy, defnyddiwr a'r grid.

1.3 Partïon allweddol

Mae systemau trydan BTM fel arfer yn cynnwys un prif barti: meddiannwr yr adeilad, sy'n gwneud y gwaith gosod ac sydd â rheolaeth uniongyrchol dros y trydan a gynhyrchir ar y safle. Er bod modelau megis y Cytundeb Prynu Ynni ar Les ar gyfer Toeau yn dwyn rhanddeiliaid ychwanegol i mewn sy'n berchen ar yr asedau cynhyrchu ac sy'n gwerthu'r ynni i'r meddiannydd, mae cysyniad craidd system BTM wedi'i chanoli ar fesur yr ynni a gynhyrchir ar safle i gyfateb i'r defnydd ar y safle hwnnw.

1.4 Tymor/hirhoedledd

Yn eu hanfod, mae systemau trydan BTM yn atebion hirdymor, gyda'u hirhoedledd yn cael ei bennu'n bennaf gan oes y cyfarpar a osodir mewn modelau a weithredir gan y perchennog (e.e. paneli solar, gwrthdroyddion, a systemau storio mewn batrïau). Fodd bynnag, yn achos systemau Cytundeb Prynu Ynni ar Les ar gyfer Toeau, caiff y parhad ei lywodraethu'n bennaf gan delerau'r contract rhwng perchennog y BTM a meddiannydd yr adeilad, a all gyfateb yn uniongyrchol i hyd oes y cyfarpar neu beidio.

2. Astudiaeth achos: EGNI Co-op

Mae Egni Co-op, Cymdeithas Budd Cymunedol, wedi datblygu model llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer defnyddio systemau ynni solar BTM. Trwy ariannu costau ymlaen llaw gosodiadau solar ffotofoltaidd a gwerthu'r trydan a gynhyrchir yn ôl i ddefnyddwyr am bris marchnad gostyngol, mae Egni Co-op yn darparu ateb cymhellol i sefydliadau sy'n ceisio lleihau eu costau ynni a'u hôl troed carbon heb wario ar gyfalaf. 

Dechreuodd taith Egni gyda phrosiect peilot yn 2013, pan osodwyd paneli solar ffotofoltaidd ar saith adeilad cymunedol. Ers 2019, mae'r gymdeithas gydweithredol wedi ehangu ei gweithrediadau i dros 80 o safleoedd, gan gyflawni cyfanswm capasiti o 4.3 MWp. Mae'r twf cyflym hwn yn dangos hyfywedd ac apêl ei model BTM.

Elfen graidd i lwyddiant Egni yw ei dull ariannu arloesol. Mae'r gymdeithas gydweithredol wedi codi swm rhyfeddol o £5 miliwn trwy gyfranddaliadau cymunedol, gan amlygu cefnogaeth leol gref ac ymrwymiad i ranberchnogaeth. Wedi'i ychwanegu at y cyfalaf hwn, a lywir gan y gymuned, y mae buddsoddiad o £2 filiwn gan Fanc Datblygu Cymru, sy'n darparu sylfaen ariannol gadarn ar gyfer eu prosiectau. Mae'r model ariannu hybrid hwn yn caniatáu i Egni ariannu'r gosodiad cyfan a'r costau cysylltiedig, sy'n cynnwys paneli solar, gwrthdroyddion, a'r llafur.

Mae busnes Egni wedi'i adeiladu ar fodel y Cytundeb Prynu Ynni ar Les ar gyfer Toeau. O dan gytundeb 21 mlynedd nodweddiadol, mae tenant yr adeilad yn cytuno i brynu'r trydan solar a gynhyrchir ar y safle. Nodweddion allweddol y cytundeb hwn yw fod y pris fesul uned o drydan solar wedi'i osod ar ganran gytunedig sy'n is na phris safonol uned o'r grid, ac mae felly'n darparu arbedion uniongyrchol a gwarantedig i'r defnyddiwr. Er bod y pris yn cynyddu'n flynyddol yn ôl y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), mae yna elfen ddiogelu hanfodol ar waith: mae yna gap ar y pris, sy'n sicrhau na fydd y defnyddiwr fyth yn talu mwy na'r pris am drydan yn ystod y dydd a gyflenwir o'r grid. Mae Egni, yn ei dro, yn lleihau'r risg o brisiau amrywiol ar gyfer trydan y grid trwy osod 'pris gwaelodol' sy'n seiliedig ar y pris prynu solar cychwynnol wedi'i chwyddo gan y Mynegai Prisiau Manwerthu. Mae'r lefel incwm sefydlog, ofynnol hon yn sicrhau y gall y gymdeithas gydweithredol dalu ei dyledion a'i chostau rhedeg, ac mae hefyd yn caniatáu iddi gynnig y disgownt mwyaf posibl i ddefnyddwyr.

Mae Egni'n darparu gwasanaethau cynhwysfawr i sicrhau bod y systemau'n gweithredu ar eu gorau trwy gydol tymor y les. Egni sy'n gyfrifol am yr holl lanhau, y gwiriadau rheolaidd, y gwaith monitro o bell ar gyfer diogelwch a pherfformiad, ac am unrhyw atgyweiriadau ac amnewidiadau angenrheidiol. Trwy ddefnyddio system Orsis, mae'r trydan a ddefnyddir yn cael ei fesur yn awtomatig a biliau'n cael eu hanfon yn chwarterol, gan symleiddio'r broses i'r tenant. Os bydd gofyn atgyweirio'r to, bydd Egni'n mynd ati i dynnu ac ailosod y paneli ffotofoltaidd ar ei chost ei hun. Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gyfyngu i deirgwaith a chyfanswm o 270 o ddiwrnodau dros gyfnod y les, sy'n sicrhau darpariaeth eglur a theg ar gyfer amgylchiadau annisgwyl.

Mae model Egni Co-op yn enghraifft bwerus o sut y gall dull sy'n canolbwyntio ar y gymuned sbarduno camau i fabwysiadu ynni adnewyddadwy. Trwy ddileu'r rhwystr ariannol o gostau ymlaen llaw, cynnig gostyngiad gwarantedig ar drydan, a rheoli pob agwedd ar y gosodiad a'r cynnal a chadw, mae Egni'n darparu ateb cymhellol, risg isel i ddefnyddwyr. Mae'r strategaeth ariannu a gweithredu arloesol hon nid yn unig o fudd i denantiaid unigol ond mae hefyd yn cyfrannu at y gymuned ehangach trwy gynhyrchu ffynhonnell sefydlog a chynaliadwy o ynni glân a defnyddio unrhyw elw er budd y gymuned.

3. Dylunio ffisegol

3.1 Gofynion o ran y seilwaith

Fel arfer, mae i systemau trydan BTM ofynion cyfyngedig o ran y seilwaith, yn enwedig o'u cymharu â modelau ynni lleol mwy cymhleth. Mae'r prif ofynion yn golygu prynu a gosod technolegau cynhyrchu ar y safle, a all gynnwys paneli solar ffotofoltaidd, tyrbinau gwynt, neu systemau storio mewn batrïau. Er nad yw'n ofyniad llym, mae cynnal cysylltiad â'r grid yn cynnig y fantais o ganiatáu i unrhyw drydan dros ben a gynhyrchir gael ei werthu'n ôl i'r grid cenedlaethol. Ar gyfer systemau bach, fel arfer mae'n ddigon rhoi gwybod i'r DNO. Ar gyfer systemau mwy (dros 3.68 kW), bydd angen cael cymeradwyaeth gan y DNO cyn eu cysylltu â'r grid.

3.2 Gofynion dylunio

Mae technoleg gynhyrchu, megis paneli solar ffotofoltaidd ar y to, yn ofyniad sylfaenol ar gyfer y systemau hyn. Mae integreiddio system storio ynni mewn batrïau yn cynnig buddion sylweddol, yn enwedig wrth fynd i'r afael â natur ysbeidiol cynhyrchu ynni adnewyddadwy a darparu ar gyfer patrymau defnyddio anrhagweladwy neu dymhorol. Gall systemau storio mewn batrïau hefyd gael eu defnyddio ar eu pen ei hunain i brynu trydan ar yr adegau pan fo'r trydan yn rhad, a'i ollwng pan fo prisiau'r trydan yn uwch.

Yn hollbwysig, rhaid i'r asedau cynhyrchu gysylltu'n uniongyrchol â'r safle lle defnyddir yr ynni, sydd fel arfer yn golygu eu lleoli ar y safle hwnnw. Mae hyn yn ei dro yn gofyn am ddigon o le ar gyfer gosodiadau ar y ddaear (megis paneli solar ffotofoltaidd neu dyrbinau gwynt) neu ardal addas ar y to ar gyfer paneli solar. 

Yn ddelfrydol, dylai swm y capasiti cynhyrchu gyfateb yn agos i'r galw ar y safle, gan leihau'r ynni dros ben a anfonir i'r grid; mae hwn yn gydbwysedd a all gael ei gefnogi gan system storio mewn batrïau ar y safle, ynghyd â thechnolegau eraill megis pympiau gwres a seilwaith gwefru cerbydau trydan.

Yn achos gosodiadau solar, mae sicrhau digon o arbelydriad a'r cysgod lleiaf posibl yn hanfodol. Toeau sy'n wynebu'r de sydd fel arfer yn cynnig yr amlygiad uchaf o ran golau dyddiol yn y DU, er y gall araeau amlgyfeiriol helpu i hwyluso prosesau cynhyrchu ynni ar draws adegau gwahanol o'r dydd.

3.3 ‘Clyfrwch’

Gall 'clyfrwch' cynhenid systemau BTM amrywio'n sylweddol. Er bod gosodiadau BTM syml yn gweithredu'n bennaf i leihau dibyniaeth ar fewnforion o'r grid a gwella gwydnwch, gall integreiddio technolegau cynhyrchu â systemau storio mewn batrïau a Systemau Rheoli Adnoddau Ynni Dosbarthedig (DERMS) gynyddu eu 'clyfrwch' yn sylweddol. Mae DERMS yn galluogi prosesau gwneud penderfyniadau dynamig ynghylch y defnydd gorau posibl o'r ynni sydd ar gael ar unrhyw adeg benodol, ac mae systemau storio mewn batrïau yn darparu'r hyblygrwydd i storio a gollwng ynni i gefnogi'r penderfyniadau hyn. Ar ben hynny, gellir gwella 'clyfrwch' systemau BTM trwy ymgorffori technolegau eraill megis dargyfeirwyr dŵr poeth solar, gwefrwyr cerbydau trydan, a gwefrwyr cerbydau-i'r-grid (V2G), gan alluogi rheolaeth fwy soffistigedig ar yr ynni a mwy o ddefnydd ohono ar y safle.

4. Dylunio masnachol

4.1 Ystyriaethau cyfreithiol a gweinyddol

O ystyried natur gymharol syml systemau trydan BTM, nid oes yna unrhyw rwystrau cyfreithiol na gweinyddol mawr yn gyffredinol. Fodd bynnag, os yw perchennog y system yn bwriadu cael taliad am unrhyw drydan dros ben a allforir i'r grid, bydd Cytundeb Prynu Ynni allforio yn ofynnol. Ar ben hyn, mae'n ddoeth ymgynghori â darparwyr morgeisi a chwmnïau yswiriant cyn mynd ati i osod er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'u telerau ac amodau.

Yn achos prosiectau les ar gyfer toeau, lle bo trydydd parti yn berchen ar y paneli solar, mae'r trefniant fel arfer yn golygu cytundeb lesio neu logi gyda pherchennog yr adeilad ar gyfer gosod y cyfarpar, ochr yn ochr â Chytundeb Prynu Ynni sy'n nodi'r telerau a'r prisiau ar gyfer trydan a gyflenwir i'r tenant neu berchennog yr adeilad. Mae'r strwythur hwn yn golygu rhwymedigaethau cyfreithiol mwy cymhleth ac, yn gyffredinol, yn golygu bod gwasanaeth cynrychiolwyr cyfreithiol yn ofynnol ar gyfer y ddau barti.

4.2 Ystyriaethau rheoleiddio

Ychydig iawn o ofynion rheoleiddio sy'n berthnasol i systemau BTM o gymharu â modelau LEM mwy cymhleth. O safbwynt cynllunio, mae gosod cyfarpar BTM fel arfer yn dod o dan ddatblygiad a ganiateir, a dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig (megis datblygiad mewn ardal gadwraeth neu ar adeilad rhestredig) y bydd cymeradwyaeth gynllunio yn ofynnol. Mae'n bwysig ymgysylltu â Gweithredwr y Rhwydwaith Dosbarthu yn gynnar yn natblygiad y system i sicrhau bod eich system BTM a'ch safle yn gallu cysylltu â'r grid.

4.3 Hyfywedd y systemau a'r gallu i'w hatgynhyrchu yn y dyfodol

O ystyried y gostyngiad a ragwelir mewn costau ar gyfer batris solar ffotofoltaidd a batris lithiwm, mae'n debygol y bydd systemau trydan BTM yn dod yn opsiwn cynyddol ddeniadol. Mae'r ffaith eu bod yn hawdd eu hatgynhyrchu yn cael ei gefnogi gan gadwyni cyflenwi technoleg aeddfed a rhwystrau cyfreithiol a rheoleiddiol cyfyngedig. O'i chymharu â modelau LEM mwy cymhleth, mae system BTM ac iddi gynllun da ac sy'n gweithredu'n dda yn un gosteffeithiol, ac mae'n cynnig manteision eglur trwy ddadleoli trydan y grid. Mae datblygiad parhaus cyfleoedd newydd yn y farchnad, megis gwasanaethau cyfuno a gwasanaethau hyblygrwydd, yn cryfhau eu potensial ar gyfer y dyfodol ymhellach.

5. Addasrwydd strategol

5.1 Addasrwydd strategol

Mae systemau BTM yn rhai hynod o amlddefnydd, a gellir eu gweithredu mewn ystod eang o sefyllfaoedd, yn cynnwys adeiladau domestig a masnachol. Un ffactor galluogi allweddol yw meddu ar ddigon o le i osod yr asedau cynhyrchu, sy'n cynnwys ardaloedd addas ar doeau ar gyfer gosodiadau solar ffotofoltaidd neu argaeledd tir ar gyfer systemau ar y ddaear, a digon o alw am drydan ar y safle i gyfateb i'r trydan a gynhyrchir. Mae cysylltiad grid gweithredol hefyd yn fuddiol, ac yn caniatáu i unrhyw drydan dros ben gael ei allforio ar gyfer refeniw posibl. Bydd asedau cynhyrchu â chapasiti mwy na 3.68 kW yn ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog roi gwybod i Weithredwr y Rhwydwaith Dosbarthu. Yn bwysig, gall systemau BTM ddarparu gwerth, gan gynnig modd i leihau mewnforion o'r grid a chostau cysylltiedig, a hynny ym mron unrhyw senario, ar yr amod bod yr asedau cynhyrchu o faint priodol i broffil galw'r safle am drydan.

5.2 Partneriaethau gofynnol

Ychydig o bartneriaethau sy'n ofynnol ar gyfer systemau BTM. Mae'r mwyafrif o systemau'n cael eu gweithredu a'u cynnal a'u cadw gan ddefnyddiwr yr ynni. Mae modelau amgen, megis model y Cytundeb Prynu Ynni ar Les ar gyfer Toeau, yn ei gwneud yn ofynnol i bartner osod a chynnal a chadw'r system. Mae'r partner hwn yn tueddu i fod yn sefydliad ynni cymunedol, yn gymdeithas dai neu'n landlord. Gall defnyddio'r partneriaid hyn ddarparu manteision, megis peidio â gorfod ariannu costau ymlaen llaw gosod y system.

5.3 Galluogwyr allweddol

Yn gyffredinol, caiff modelau y Tu Ôl i'r Mesurydd eu galluogi gan y canlynol:

  • bod yn berchen ar y tir a'r adeiladau lle rydych yn dymuno gosod y system
  • meddu ar y cyfalaf gofynnol i'w wario ar osod y system
  • meddu ar gysylltedd gweithredol â'r grid
  • meddu ar ganiatâd gan ddarparwyr morgeisi ac yswiriant
  • mae meddu ar y gallu i gysylltu â'r grid yn aml yn bwysig, yn enwedig yn ystod cyfnodau pan nad yw'r trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio ar y safle
  • bod â digon o alw am drydan ar y safle i gyfateb i'r trydan a gynhyrchir

6. 6. Buddion

6.1 Buddion a chanlyniadau

  • Gweithredu syml a chosteffeithiol: Mae systemau trydan BTM ymhlith yr atebion LEM hawsaf. Maent fel arfer yn cynnwys un parti a safle, ac yn gofyn am drefniadau contractiol cyfyngedig neu sylfaenol. Yn ogystal, mae systemau BTM yn gyflym i'w datblygu ac yn aml yn cynrychioli ateb costeffeithiol (o safbwynt gofynion cyfalaf ac adenillion ar fuddsoddiad).
  • Manteision ariannol sylweddol: Mae systemau BTM yn un o'r ffurfiau ariannol mwyaf buddiol o gyflenwi ynni lleol, a hynny am fod arbedion yn cael eu creu trwy ddefnyddio'r trydan a gynhyrchir a thrwy ddadleoli'r mewnforion drud o'r grid. Ar ben hynny, gall unrhyw drydan a gynhyrchir nad yw'n cael ei ddefnyddio ar y safle gael ei werthu'n ôl i'r grid (er bod yr arbedion fel arfer ar eu huchaf os yw'r holl ynni a gynhyrchir, neu'r mwyafswm ohono, yn cael ei ddefnyddio'n lleol). Ymhellach, prin yw'r angen i osod rhagor o dechnoleg gostus a fyddai’n lleihau’r adenillion ar fuddsoddiad.
  • Integreiddio ac addasu: Gall systemau BTM integreiddio ag ystod eang o dechnolegau sy'n gwella systemau, megis systemau storio mewn batrïau, pympiau gwres, seilwaith gwefru cerbydau trydan, seilwaith gwefru cerbydau-i'r-grid, a dargyfeirwyr dŵr poeth solar.
  • Y grid a gwydnwch: Gall systemau BTM olygu bod y gweithredwr yn dibynnu llai ar y grid, ac mae rhai systemau'n cynnig 'modd ynys', sy'n golygu y gellir cynhyrchu a defnyddio trydan ar y safle yn ystod toriadau i'r grid. Mae yna hefyd botensial i systemau BTM gyrchu mentrau system-gyfan, megis gwasanaethau cyfuno a gwasanaethau hyblygrwydd. Ar ben hynny, gellir sicrhau llai o golledion wrth drosglwyddo a dosbarthu, sy'n cyfrannu at rwydwaith trydan mwy effeithlon.
  • Manteision Amgylcheddol: Mae defnyddio prosesau cynhyrchu adnewyddadwy megis solar ffotofoltaidd yn lleihau allyriadau carbon yn uniongyrchol. 

6.2 Mecanwaith masnachol

Isod nodir y mecanweithiau masnachol (h.y. y modd y mae buddion ariannol yn cael eu creu) ar gyfer y ddau fodel BTM nodedig:

  • Y Model Safonol (Buddsoddi i Arbed): Cyflawnir arbedion trwy ddadleoli mewnforion trydan o'r grid a defnyddio trydan a gynhyrchir ar y safle. Defnyddir yr arbedion i dalu am y costau cyfalaf ymlaen llaw dros amser (mae'r systemau'n aml yn ad-dalu cyn pen 10 mlynedd) ac mae'r arbedion yn cael eu hyrwyddo lle bo'r galw'n cyfateb i'r cyfanswm a gynhyrchir.
  • Model y Cytundeb Prynu Ynni ar Les ar gyfer Toeau: Mae'r sefydliad sy'n buddsoddi yn y BTM yn talu'r costau ymlaen llaw ar gyfer y technolegau gofynnol. Yna caiff y trydan a gynhyrchir ei werthu i feddianwyr y safle trwy'r defnydd o drefniant contractiol syml (h.y. Cytundeb Prynu Ynni syml neu gytundeb rhentu). Gall pris y trydan fod yn sefydlog neu'n amrywiadwy. Mae prisiau amrywiadwy yn tueddu i fod yn gysylltiedig â'r pris manwerthu am drydan, sydd fel arfer yn cynnig cyfradd ostyngol (rhwng 10% a 50% yn dibynnu ar y cytundeb) ac yn aml yn cynnwys cynnydd chwyddiannol blynyddol yn unol â'r Mynegai Prisiau Manwerthu. 

7. Costau, cyfyngiadau a risgiau

7.1 Cyfyngiadau, costau a chymhlethdodau

Ychydig iawn yw'r cyfyngiadau o ran systemau BTM. Mae'r rhestr isod yn trafod rhai o'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â systemau BTM; fodd bynnag, mae'r mwyafrif ohonynt yn fach eu natur ac mae'r manteision posibl y maent yn eu creu yn drech na'r cyfyngiadau.

  • Tâl isel am drydan nas defnyddir: yn gyffredinol, caiff ynni nas defnyddir ei allforio i'r grid ar gyfradd sy'n sylweddol is na thariffau'r farchnad ar gyfer defnydd. 
  • Amseriad ac ysbeidiolrwydd y cynhyrchu: yn gyffredinol, mae systemau BTM yn defnyddio system solar ffotofoltaidd, sy'n golygu na allant gynhyrchu trydan yn y nos a'u bod yn destun cynhyrchu anghyson ac amrywiadau tymhorol.
  • Buddsoddiad cyfalaf ymlaen llaw yn ofynnol: mae gofyn cael buddsoddiad cychwynnol mewn technolegau cynhyrchu trydan (megis paneli solar ffotofoltaidd neu wynt) a system storio mewn batrïau (dewisol) i weithredu system BTM.
  • Gofynion monitro a chynnal a chadw: mae gofyn monitro a chynnal a chadw (sy'n cynnwys glanhau yn achos systemau solar ffotofoltaidd) y technolegau a osodir er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu ar eu gorau.
  • Gofynion rheoleiddio: gallai systemau BTM fod â gofynion o ran cynllunio, gweithredwr y rhwydwaith dosbarthu, morgais neu yswiriant adeiladau, ond yn y rhan fwyaf o achosion mae'r rhain yn finimol.

7.2 Risgiau

Prin iawn yw'r risgiau y mae gofyn eu hystyried yn achos systemau BTM. Y risg fwyaf sylweddol yw methiant cynnar y system neu'r cyfarpar, a allai arwain at yr angen i amnewid elfennau o'r system. Wedi dweud hynny, mae methiant cyfarpar fel arfer yn dod dan y gwarantau a ddarperir adeg ei osod. Mae yna hefyd risg o fethu bodloni gofynion rheoleiddio cysylltiedig, ac anogir datblygwyr systemau i ymgysylltu â'u hawdurdod cynllunio lleol a Gweithredwr eu Rhwydwaith Dosbarthu i weld a oes unrhyw ofynion yn berthnasol yn ystod cam cynnar datblygu'r prosiect. Mae hefyd yn ddoeth cysylltu ag unrhyw ddarparwyr morgeisi ac yswiriant cysylltiedig cyn gosod system BTM.   

Mae cynnal defnydd cyson o'r trydan trwy gydol oes yr asedau cynhyrchu yn bwysig. Gall gostyngiad yn y galw olygu gostyngiad mewn arbedion i ddefnyddwyr neu yn incwm perchnogion trydydd parti, a allai wedyn atal y broses o adfer y costau cyfalaf cychwynnol.

8. Y camau nesaf

Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio systemau BTM ar gyfer eich sefydliad cymunedol neu eich busnes gallwch:

9. 9. Casgliad

Mae systemau ynni y tu ôl i'r mesurydd yn cynnig ffordd syml ac effeithiol o gynhyrchu a defnyddio trydan yn lleol, gan helpu i ostwng biliau ynni, gwella gwydnwch, a lleihau allyriadau carbon. P'un a ydynt yn cael eu gosod gan feddiannydd yr adeilad neu drwy fodel les trydydd parti, mae systemau BTM yn addasadwy i ystod eang o leoliadau a gallant ddarparu buddion ariannol ac amgylcheddol hirdymor.

Os ydych yn ystyried system BTM, boed i dorri costau, i greu incwm, neu i gefnogi dyfodol ynni mwy cynaliadwy, mae'r canllaw hwn yn fan cychwyn ymarferol. Y cam nesaf yw archwilio sut y gallai'r model weithio ar gyfer eich safle neu eich sefydliad chi.

I gael cyngor wedi'i deilwra, cymorth ymarferol, neu help i wireddu eich syniadau, cysylltwch ag Ynni Cymru.