Y Warant i Bobl Ifanc: adroddiad ar brif bwyntiau Mawrth 2024 i Mawrth 2025
Ein cynnydd yn 2025 o ran sut rydym yn helpu pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i ddod o hyd i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y penawdau
Mae'r Warant i Bobl Ifanc ("y Warant") yn rhoi cymorth i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n byw yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i gael gwaith neu i ddod yn hunangyflogedig.
Ers lansio'r Warant ym mis Tachwedd 2021, rydym wedi cefnogi dros 48,500 o bobl ifanc i ddechrau ar raglenni cyflogadwyedd a sgiliau. Mae dros 6,000 o bobl ifanc wedi cael swyddi ac mae o leiaf 724 wedi dechrau eu busnes eu hunain.
Twf Swyddi Cymru+ (TSC+)
Ein rhaglen flaenllaw o dan y Warant yn darparu pecyn o gymorth wedi'i deilwra i bobl ifanc 16 i 19 oed gan gynnig gweithgareddau hyfforddi a datblygu drwy gyflogaeth, hyfforddiant ffurfiol neu waith gwirfoddol i'w helpu i bontio i'r farchnad lafur. Hyd yn hyn, mae 13,345 o bobl ifanc wedi bod yn ymwneud â TSC+ ers lansio'r rhaglen ym mis Ebrill 2022.
Yn 2023 i 2024, roedd 60.1% o ymadawyr TSC+ a gwblhaodd eu rhaglen wedi cael canlyniad cadarnhaol, i fyny o 59.0% yn 2022 i 2023. Ar gyfer dysgwyr anabl a (neu'r) rhai ag anhawster dysgu, cynyddodd cyfradd y canlyniadau cadarnhaol o 54.1% yn 2022 i 2023 i 57.9% yn 2023 i 2024. Canfu'r gwerthusiad o TSC+ a gyhoeddwyd yn ddiweddar fod 89% o bobl ifanc yn dweud bod y gefnogaeth a roddwyd wedi bodloni neu ragori ar eu disgwyliadau a'i bod wedi helpu datblygiad eu gyrfa. Roeddent hefyd wedi dweud bod eu hanghenion fel unigolion wedi cael eu hystyried, gan olygu eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu wedi'u teilwra ar eu cyfer. Dywedodd 97% o bobl ifanc fod rhaglen TSC+ wedi gwella’u rhagolygon o ran cael gwaith.
Ym mlwyddyn ariannol 2023 i 2024, roedd 23.8% o'r rhai a ddechreuodd raglen TSC+ yn bobl ifanc sy'n cyfrif eu hunain yn anabl a (neu) ag anabledd dysgu. Yn 2023 i 2024, roedd 6.4% o'r rhai a ymunodd â'r rhaglen yn ddysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Yn ystod y cyfnod o fis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024, mae data cyrchfannau dysgwyr (o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen), yn dangos bod 765 o unigolion wedi dweud hyd yma eu bod wedi dod o hyd i gyflogaeth (llawn amser, rhan-amser, neu hunangyflogaeth) am 16 awr neu fwy yr wythnos. Mae ystadegau mwy cyflawn, gan gynnwys canlyniadau, ar gael ar dudalen we TSC+ Llywodraeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am Twf Swyddi Cymru+ ar gael ar ein tudalennau gwe.
ReAct+
Darparu cymorth grant ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol, costau teithio a chostau cynorthwyol eraill i'r rhai sy'n ceisio ailymuno â'r farchnad lafur, sy'n 20 oed neu'n hŷn. Mae'r grant wedi'i dargedu at y rhai sydd dan rybudd ffurfiol o ddiswyddo, y rhai sydd wedi cael eu diswyddo yn ystod y chwe mis diwethaf, cyn-droseddwyr a throseddwyr sy'n cyflawni dedfrydau cymunedol. Mae'r rhaglen wedi cefnogi 733 o bobl ifanc ers ei lansio ym mis Mehefin 2022.
Ceir rhagor o wybodaeth am ReAct+ ar ein tudalennau gwe.
Cymunedau am Waith a Mwy (CWM+)
Cael ei darparu gan awdurdodau lleol a dyma ein gwasanaeth allgymorth a mentora mewn cymunedau ledled Cymru. Mae'r rhaglen wedi canolbwyntio ei chefnogaeth ar y bobl sydd fwyaf mewn perygl o fod dan anfantais neu sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur, gan ddarparu cymorth a mentora cynghorol arbenigol ar gyflogaeth i unigolion NEET a'r rhai 16 oed a hŷn sy'n wynebu rhwystrau cymhleth rhag cael gyflogaeth. Ers mis Ebrill 2022, mae 9,750 o bobl ifanc wedi ymgysylltu â TSC+ ac mae 4,444 wedi dechrau gweithio gyda chefnogaeth gan TSC+.
Mae mwy o wybodaeth am Cymunedau am Waith + ar gael ar ein tudalennau gwe.
Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru
cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu dyheadau trwy gystadlaethau galwedigaethol sy'n cael eu cynnal yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae Cystadlaethau Sgiliau yn annog pobl ifanc i ragori yn eu gyrfa ddewisol ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Cynhaliwyd Cystadlaethau Sgiliau Cymru yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror eleni gan redeg cystadlaethau ar draws 58 o wahanol feysydd sgiliau gyda thua 1,500 o bobl ifanc ledled Cymru yn cymryd rhan. Yng Nghymru, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnal naw cystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol, o Arlwyo a'r Cyfryngau i Waith Coed a Sgiliau Byw'n Annibynnol. Mae hyn yn cynnig cyfle i bobl ifanc anabl a'r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) herio eu hunain, meincnodi eu sgiliau a dathlu llwyddiant.
Yn y rowndiau terfynol ar gyfer y DU gyfan ym mis Tachwedd 2024, daeth Cymru i'r amlwg fel un o ardaloedd blaenllaw y gystadleuaeth. Cymerodd 118 o gystadleuwyr o Gymru ran yn y Rownd Derfynol ar gyfer y DU gyfan gan ennill cyfanswm o 70 o fedalau, gan osod y llwyfan ar gyfer eleni pan fydd Cymru'n croesawu Rownd Derfynol WorldSkills UK am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2025. Yn rownd derfynol WorldSkills yn Lyon ym mis Medi 2024, bu 6 myfyriwr o Gymru yn cystadlu fel rhan o Dîm y DU, gydag un cystadleuydd o Gymru, Ruben Duggan, yn ennill medal arian. Daeth bron i draean o dîm hyfforddi WorldSkills UK o'r sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru ar gael ar ein tudalennau gwe.
cymorth hunangyflogaeth
Mae Syniadau Mawr Cymru yn cefnogi pobl ifanc 25 oed ac iau sy'n wynebu rhwystrau i ddechrau busnes. O fis Ebrill 2021 hyd fis Ionawr 2025, mae 245,966 o bobl ifanc dan 25 oed wedi cymryd rhan mewn weminarau a gweithdai menter wedi'u harwain gan Fodelau Rôl Syniadau Mawr Cymru i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hunangyflogaeth. Mae 3,332 o bobl ifanc wedi datblygu eu syniadau ar gyfer busnes ac wedi cael cyngor busnes ac, o ganlyniad, mae 724 o gleientiaid wedi dechrau eu busnesau eu hunain drwy Syniadau Mawr Cymru.
Lansiwyd Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc ym mis Gorffennaf 2022 er mwyn darparu cymorth ariannol ychwanegol i bobl ifanc ddi-waith. Rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Ionawr 2025, cymeradwywyd 616 o grantiau i gefnogi pobl ifanc i ddechrau busnes.
Prentisiaethau
Yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn swydd ochr yn ochr ag astudio, gan ganiatáu i brentis ennill profiad gwaith, dysgu sgiliau newydd a chael cymhwyster a gydnabyddir ar draws y wlad gan ennill cyflog ar yr un pryd. Ers dechrau'r Warant ym mis Tachwedd 2021, dechreuwyd mwy na 24,015 o brentisiaethau (data dros dro). Mae dolen at y ffigurau ar gael ar wefan Medr.
Ceir rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ar ein tudalennau gwe.
Biwroau Cyflogaeth a Menter
Helpu cyflogwyr i gysylltu â myfyrwyr a datblygu gweithlu'r dyfodol. Maent yn gweithredu ym mhob Coleg Addysg Bellach yng Nghymru, ac yn gwahodd cyflogwyr i ymgysylltu'n uniongyrchol â'u myfyrwyr i drafod cyfleoedd am swyddi. O fis Awst 2024 trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am brif ffrydio'r Biwroau Cyflogaeth a Menter i Medr.
Gwasanaeth mentora gan gymheiriad y Gwasanaeth Di-waith
Mae cymorth mentora gan gymheiriad y Gwasanaeth Di-waith yn canolbwyntio ar gynnig cymorth hirdymor i bobl ifanc 16 i 24 oed, sy'n gwella o broblemau iechyd meddwl a (neu) gamddefnyddio sylweddau, ac sy'n NEET. Mae'n helpu'r rhai mwyaf agored i niwed, a'r rheini sydd bellaf o'r farchnad lafur, i ailadeiladu eu bywydau a mynd yn ôl i hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth.
Rhwng mis Hydref 2022 a mis Rhagfyr 2024, mae'r gwasanaeth wedi cefnogi dros 2,289 o bobl ifanc 16 i 24 oed. O'r rhain:
- mae 529 wedi ennill tystysgrif neu gymhwyster sy'n berthnasol i waith
- mae 233 wedi dilyn llwybr addysg
- mae 431 wedi chwilio am swydd
- mae 189 wedi dechrau gweithio
- mae 326 wedi cynyddu eu cyflogadwyedd drwy gwblhau lleoliad profiad gwaith neu gyfle gwirfoddoli
Cymorth yn y Gwaith
Dechreuodd y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ym mis Ebrill 2023 ac mae'n darparu mynediad cyflym at wasanaethau therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a therapi seicolegol pwrpasol, a luniwyd i helpu pobl cyflogedig neu hunangyflogedig i ddychwelyd i'r gwaith neu reoli cyflwr iechyd yn y gwaith oherwydd problem iechyd meddwl neu gyhyrysgerbydol. Mae'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith hefyd yn cynnig cymorth a hyfforddiant am ddim yn uniongyrchol i fusnesau yn y sector preifat a'r trydydd sector, sydd heb fynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol yn aml iawn.
Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Rhagfyr 2024, cafodd 397 o gleientiaid rhwng 16 a 24 oed â salwch corfforol a (neu) salwch meddwl eu cefnogi gan y gwasanaeth. O'r rhain:
- mae 360 mewn swyddi ac mewn perygl o fod yn absennol o'r gwaith
- mae 37 yn absennol o'r gwaith
- nododd 209 eu bod wedi cael cymorth i aros yn y gwaith
- nododd 196 fod eu hiechyd wedi gwella
Gellir gweld mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ar ein tudalennau gwe.
Cymru'n Gweithio
Cynnig cyngor ac arweiniad diduedd am ddim am yrfaoedd i bobl ifanc 16 oed neu'n hŷn, gan helpu pobl ifanc i gysylltu â'r rhaglenni a grybwyllir uchod fel Twf Swyddi Cymru Plws neu ReAct+.
Rhwng 1 Tachwedd 2021 a 31 Rhagfyr 2024, cefnogodd Cymru'n Gweithio 35,230 o bobl ifanc 16 i 24 oed. Roedd y cymorth a roddwyd yn cynnwys:
- 102,992 o ymgysylltiadau unigol, sef cyfanswm o fwy na 54,000 awr o gymorth uniongyrchol
- 51,399 o atgyfeiriadau at gymorth a chyfleoedd pellach
Mae amrywiaeth o astudiaethau achos i'w gweld wefan Cymru'n Gweithio.
Bydd bositif
Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn cael ei hysbysu drwy ymgyrch farchnata 'Bydd bositif' sy'n targedu pobl ifanc a rhieni i'w hannog i ymgysylltu'n gadarnhaol â'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Warant wedi cael sylw pwysig ar draws sianeli darlledu a sain digidol fel BBC Cymru, ITV Wales, Capital Radio, The Metro a Spotify yng Nghymru. Fe wnaethom hefyd weithio mewn partneriaeth â rhwydwaith o ddylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ein negeseuon gan helpu'r fideo yn hyrwyddo'r Warant i gael ei weld 92,000 gwaith (o gymharu â 10,000 yn 2023).
Ar ôl canlyniadau arholiadau, gwnaethom ddangos astudiaethau achos ynghylch llwybrau gwahanol o ran prentisiaethau, mynd yn syth i'r gwaith, parhau ag addysg a dechrau busnes.
Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid
Nod y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid ('y Fframwaith') yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae'r Fframwaith diwygiedig yn berthnasol i'r rhai 11 i 18 oed, ac mae'n gweithio ar y cyd â'r Warant i Bobl Ifanc, sy'n berthnasol i bawb rhwng 16 a 24 oed.
Mae gan y Fframwaith brosesau ar waith i nodi pobl ifanc sydd angen cymorth wedi'i deilwra sy'n diwallu eu hanghenion ac y mae angen monitro eu cynnydd. Mae hyn yn cael ei arwain gan awdurdodau lleol a'u partneriaid cyflenwi. Mae sefydliadau partner allweddol yn cynnwys Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Yna, mae gweithwyr arweiniol yn cael eu dyrannu i bobl ifanc sydd â rhwystrau sylweddol rhag ymgysylltu i'w helpu i bontio i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth ôl-16.
Yn 2023 i 2024 cynhaliodd Estyn adolygiad thematig i werthuso effeithiolrwydd ac effaith rôl y gweithiwr arweiniol wrth gynorthwyo pobl ifanc sydd mewn perygl i bontio i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth ôl-16. Cyhoeddwyd yr Estyn Adolygiad o Weithwyr Arweiniol Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid ym mis Gorffennaf 2024, a chyhoeddwyd Adolygiad o weithwyr arweiniol ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid ymateb Llywodraeth Cymru ym mis Awst 2024. Mae'r adroddiad yn cynnwys 5 argymhelliad ar y cyd ar gyfer Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol, a'r holl bartneriaid eraill sy'n ymwneud â'r gwaith o gefnogi pobl ifanc drwy weithwyr arweiniol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i fwrw ymlaen ag argymhellion Estyn. Yn y pen draw, bydd bwrw ymlaen â'r argymhellion a rennir yn gwella lefelau ymgysylltu pobl ifanc sydd â rhwystrau sylweddol rhag ymgysylltu ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu gallu i gael mynediad at gynnig ehangach y Warant.
Mae'r holl gamau gweithredu a gwaith cyflawni o dan y Fframwaith a'r Warant yn cyfrannu tuag at y Garreg Filltir Genedlaethol sef o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.
Rydym yn dibynnu ar ddangosydd y datganiad ystadegau cyntaf i fesur y targed Carreg Filltir Genedlaethol hwn. Er bod y datganiad yn ystyried data ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed a phobl ifanc 19 i 24 oed ar wahân, mae'r Garreg Filltir Genedlaethol yn seiliedig ar yr ystod oedran 16 i 24 cyfan.
Mae'r Datganiad Ystadegol Cyntaf yn amcangyfrif dros dro bod 85.8% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2022, i fyny o 83.7% yn 2021.
Noder bod y Datganiad Ystadegol Cyntaf diweddaraf i fod i gael ei gyhoeddi ar 7 Tachwedd 2024 ond cafodd ei ohirio tan 13 Mawrth 2025.
Cefndir
Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2021. Nod y Warant i Bobl Ifanc yw cynnig cymorth parhaus i bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.
Mae pobl ifanc yn cael mynediad i'r cymorth yn bennaf trwy Cymru'n Gweithio ac mae'r Warant yn dod ag ystod o raglenni fel Twf Swyddi Cymru+, ReAct+ a Cymunedau am Waith+ at ei gilydd.
Ers ei sefydlu, mae'r Warant wedi datblygu ac addasu i adlewyrchu dyheadau ac anghenion pobl ifanc yng Nghymru, gan adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol hyd yn hyn. Mae pobl ifanc wedi gallu llywio a siapio'r broses o gyflwyno'r warant trwy fecanweithiau fel ein Sgwrs Genedlaethol a'n Grŵp Cynghori ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc. Mae rhoi llais i bobl ifanc (yn enwedig rhai o garfannau nas clywir yn aml) i lywio'r Warant yn sbardun allweddol y tu ôl i'r cynnig, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn cael ei gyflwyno'n briodol.
Dyma'r trydydd adroddiad blynyddol ac mae'n nodi'r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hefyd yn dangos cyflawniadau gwahanol elfennau o'r Warant yn ogystal â thynnu sylw at rai o'r themâu allweddol wrth symud ymlaen.
Yn bwysig, mae ein trydydd adroddiad blynyddol yn amlinellu sut mae'r Warant wedi helpu i wella gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch y materion allweddol sy'n bwysig i bobl ifanc yng Nghymru, a bydd hyn yn parhau i lywio'r cynnig i'r dyfodol.
Beth mae pobl ifanc yn ei ddweud
Mae pobl ifanc yn parhau i wynebu ystod o broblemau, gyda llawer ohonynt yn wedi deillio dros y blynyddoedd blaenorol o’r pandemig a'r argyfwng costau byw. Fe wnaethon nhw godi materion gyda ni yn ystod ein Sgyrsiau Cenedlaethol ar bethau fel: yr angen am brofiad gwaith, atebion i broblemau trafnidiaeth a chymorth iechyd meddwl. Mae rhagor o wybodaeth am ganfyddiadau'r Sgwrs Genedlaethol a gynhaliwyd gyda phobl ifanc yn 2022 a 2023 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae ein Gwarant i Bobl Ifanc yn parhau i gael ei llywio gan bobl ifanc sy'n rhoi adborth, barn ac awgrymiadau ar y materion a'r rhwystrau sy'n effeithio arnynt.
Grŵp Cynghori Pobl Ifanc ar y Warant i Bobl Ifanc (wedi'i hwyluso gan Plant yng Nghymru)
Yn ystod 2024, parhaodd y Grŵp Cynghori Pobl Ifanc ar y Warant i Bobl Ifanc i drafod a darparu adborth beirniadol am y rhaglenni a'r gwasanaethau sy'n darparu'r Warant.
Dros y cyfnod, trafododd y grŵp y materion sy'n wynebu pobl ifanc anabl, a chyfrannu at ddealltwriaeth ohonynt, gan ystyried y ddarpariaeth ar gyfer dysgu a hyfforddiant, a chan ystyried y ddarpariaeth ar gyfer dysgu a hyfforddiant, gan ganolbwyntio hefyd ar fynediad at gyfleoedd gwaith a dod yn hunangyflogedig. Roedd hyn yn cynnwys sesiwn a hwyluswyd gan Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru.
