Neidio i'r prif gynnwy

Help a chefnogaeth i bobl ifanc gael lle mewn addysg neu hyfforddiant ac i gael gwaith neu hunangyflogaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn rhoi cymorth i bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru:

  • i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant
  • i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig

Mae Cymru'n Gweithio yn darparu un llwybr syml i gael mynediad at y rhaglenni a'r gwasanaethau.

Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n eistedd uwchlaw rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc. Ei nod yw creu llwybr clir i bobl ifanc waeth beth fo'u hamgylchiadau a'u cefndir.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i fusnesau ymrwymo i'r Warant i Bobl Ifanc. Gall busnesau ddarganfod mwy drwy'r Porth Sgiliau Busnes Cymru.