Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Bil Caffael wedi cael ei ail ddarlleniad yn ddiweddar yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd sawl thema gyson yn y drafodaeth, gan gynnwys Mentrau Bach a Chanolig, tryloywder, gwerth cymdeithasol a’r amgylchedd. Bydd y Bil nawr yn mynd ymlaen i gam pwyllgor Tŷ'r Cyffredin, lle bydd archwiliad manwl pellach o'r Bil yn cael ei gynnal.

Mae Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (SLCM) arall wedi ei osod yn y Senedd. Bydd rhai pellach yn cael eu gosod wrth i'r Bil barhau drwy'r Senedd. Mae disgwyl i aelodau'r Senedd drafod y Bil ddechrau mis Mawrth, a byddwn yn darparu diweddariadau pellach maes o law.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid Diwygio Caffael

Hoffem ddiolch i'r rhai a gwblhaodd ein harolwg diweddar ynghylch ein gwaith ymgysylltu yn y dyfodol. Rydyn ni ar hyn o bryd yn dadansoddi’r ymatebion. Byddwn yn defnyddio’r data i flaenoriaethu ein gweithgarwch ymgysylltu yn y dyfodol a sicrhau ein bod yn darparu diweddariadau amserol a pherthnasol ar y pynciau sy’n bwysig i chi.

Cael gwybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’r Bil Caffael neu ddiwygio’r broses gaffael yn gyffredinol, neu i dderbyn diweddariadau rheolaidd, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru.

Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth yn ymwneud â phartneriaeth gymdeithasol, cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr y tîm.