Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth y DU i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Papur Gwyrdd ar Drawsnewid Caffael Cyhoeddus ar 6 Rhagfyr 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae eu hymateb ar gael ar wefan llywodraeth y DU (dolen allanol – Saesneg yn unig).

Rydym wedi creu dogfen sy'n tynnu sylw at y prif newidiadau rhwng cynigion Llywodraeth y DU a'r ymateb i'r ymgynghoriad. Mae'r ddogfen hefyd yn amlinellu lle mae hyn yn bwydo i weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y dyfodol. I gael rhagor o fanylion, ewch i'r adran Diwygio Caffael ar GwerthwchiGymru.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu'r Bil Diwygio Caffael ac rydym wedi bod yn cysylltu â thîm Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddau Fil yn cyd-fynd â’i gilydd.

Cyn bo hir, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu ystod o ddeunyddiau priodol i gefnogi sefydliadau drwy'r cyfnod hwn o newid. 

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru